Adeiladu Abwydfa
Dr Delana Davies, Swyddog Technegol Âr a Garddwriaeth
Mae prosiect Safle Ffocws ar fferm The Fruit Farm, Llanfihangel Crucornau wedi ymgymryd â’r sialens i adeiladu abwydfa i brosesu’r gwastraff ffrwythau a llysiau o’r safle 40 erw. Mae fermigompostio yn ddull cyflymach o leihau gwastraff organig yn hytrach na chompostio traddodiadol gan ddefnyddio mwydod a bacteria i gynhyrchu fermigompost sy’n wrtaith a chyflyrydd pridd effeithiol.
Mae abwydfa angen draeniad ac awyriad addas, felly mae angen i waliau ochr a gwaelod y cynhwysydd cael eu gwneud â defnydd tyllog. Mae’n hanfodol bod yna fwlch awyru o tua 5–10cm o dan waelod yr abwydfa ar gyfer draenio.
Cafodd blwch pren cadw tatw tua 1.2 x 1.8 x 0.8m o uchder ei leinio gyda philen athraidd polypropylen a’r gwaelod ei orchuddio gyda haen o dywod a graean o dan y compost. Prynwyd 10kg o fwydod ‘red wiggler’ a’u rhoi gyda’r cludydd a’u gorchuddio gyda thua 10cm o ddyfnder o wastraff ffrwythau a llysiau wedi rhwygo a phapur wedi rhwygo. Mae’r cludydd angen bod yn llaith ond, yn gyffredinol, nid oes angen ychwanegu dŵr gan fod digon yn cael ei gynhyrchu gan y deunydd crai sy’n cael eu hychwanegu. Bydd gormod o ddŵr yn arwain at dyfrlenwi a llai o aer ac mae mwydod angen byw mewn amodau awyru da. Cafodd y blwch ei orchuddio gydag astell bren i roi cysgod a lleithder.
Mae mwydod yn fwy gweithgar mewn amodau cynnes a llaith, yn ddelfrydol rhwng 18 ºC a 25ºC, ac mae gweithgarwch yn amlwg yn arafu o dan 10ºC. Bydd hi’n sialens i gynnal gweithgarwch y mwydod drwy’r gaeaf a bydd angen rhyw fath o insiwleiddied rhwng y bilen a wal y blwch. Bydd hi’n cymryd sawl mis i gynaeafu digon o gynnyrch i’w ddefnyddio fel gwrtaith ar y safle.
Mae modd gwahanu’r mwydod oddi wrth y compost yn ystod cynaeafu drwy godi’r bilen wrth y pedwar cornel i wneud mynydd yn y canol. Bydd y mwydod yn tyllu i waelod y mynydd gan alluogi cynaeafu’r compost gwrtaith mwydod oddi ar dop y mynydd. Yna, bydd y mwydod yn cael eu rhoi yn ôl yn y blwch i ddechrau’r broses eto.