Adroddiad Diwedd Prosiect Halghton Hall: Deall stoc carbon fferm cig coch

Prif negeseuon

  • Roedd cymedr deunydd organic y pridd yn amrywio o 4.3% i 8.1% ar gyfer y 50 cm uchaf o’r pridd yn y caeau a samplwyd.
  • Roedd stoc carbon y pridd yn y 50 cm uchaf o bridd yn amrywio rhwng 75.5 t/ha a 132.0 t/ha ar gyfer yr holl gaeau a samplwyd ar y fferm.

Cyflwyniad

Mae gan systemau amaethyddol y gallu i atafaelu carbon o’r atmosffer. Mae hyn yn darparu cyfle i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar ffermydd. Gall priddoedd fod yn suddfan carbon (atafaelu carbon) neu ffynhonnell (rhyddhau carbon) yn ddibynnol ar nifer o ffactorau, megis defnydd tir, ymarferion rheolaeth, hinsawdd a math o bridd. Gall mesur a monitro manwl cynnwys carbon o fewn priddoedd ddarparu ffigyrau defnyddiol ar gyfer canfod newidiadau dros amser, a gallu’r fferm i gyrraedd allyriadau Sero Net yn y pen draw. Gall hefyd helpu ffermwyr i ddeall pwysigrwydd rheoli priddoedd mewn modd a fydd yn cael effaith bositif ar iechyd y pridd, actifedd microbaidd, cyflenwad maetholion, a chynhyrchiant cnydau/porfa.

Amcan y prosiect

Amcan y prosiect oedd darganfod stoc carbon y pridd mewn caeau amrywiol ar y fferm. Gall y data manwl a gasglwyd fel rhan o’r prosiect hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer darparu mewnwelediad i stociau carbon priddoedd yn bresennol ar draws gwahanol gaeau o fewn system ffermio. Hefyd, i ddangos sut y mae stoc carbon pridd yn gallu amrywio o fewn system fferm unigol, yn ddibynnol ar y defnydd tir a’r ymarferion rheolaeth.

Methodoleg

Casglwyd data manwl ar nodweddion y pridd o fewn caeau glaswellt ac âr y fferm drwy sganio dargludedd y pridd gan Precision Decisions. Dangosodd hyn raddau’r amrywioldeb o fewn caeau, fel y gwelir yn Ffigyrau 1 a 2.

Ffigwr 1. Data sganio dargludedd pridd ar gyfer y tir âr (dargludedd bas – cynrychioli’r amrywiant yn y 50 cm uchaf o bridd).

Ffigwr 1. Data sganio dargludedd pridd ar gyfer y glaswelltir (dargludedd bas – cynrychioli’r amrywiant yn y 50 cm uchaf o bridd).

 

Defnyddiwyd y data hwn ar gyfer darganfod lleoliadau ar gyfer samplu pridd o fewn cyfran o gaeau’r fferm. Samplwyd cyfanswm o naw cae (math/rheolaeth cae wedi’i amlinellu yn Nhabl 1).

Tabl 1. Caeau a ddewiswyd ar gyfer samplu pridd.

Llythyren/rhif cae

Math/rheolaeth pridd

A

Cae âr, wedi’i aredig ac mewn gwenith yn flaenorol, glaswellt i ddod

B

Glaswellt wedi’i ail-hadu yn 2019, cae âr am bum mlynedd yn flaenorol cyn ei aredig

C

Cae glaswellt ers 2016

F

Cae glaswellt ers 2018

5

Cae gwair, heb ei ail-hadu o fewn cof

6

Cae wedi’i ail-hadu yn 2017 (aredig) mewn ymgais i sychu’r cae

7

Wedi’i ail-hadu yn 2021

10

Cae pori yn unig

11

Cae pori parhaol, heb ei ail-hadu o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf

Casglwyd samplau pridd craidd a samplau dwysedd swmp i ddyfnder o 50 cm (sampl 0-10 cm, sampl 10-30 cm, sampl 30-50 cm) lle bo’n bosibl ar gyfer ardaloedd penodol o fewn bob cae. Dadansoddwyd y samplau craidd ar gyfer cynnwys deunydd organig (SOM) y pridd (%), a droswyd i roi ffigwr ar gynnwys deunydd organic carbon (SOC) y pridd (%). Fe wnaeth y sampl dwysedd swmp pridd ddarparu ffigwr ar gyfer màs y pridd fesul uned cyfaint. Defnyddiwyd y canlyniadau i amcangyfrif stoc carbon y pridd mewn tunelli fesul hectar (t/ha) ar gyfer bob cae penodol.

Allbynnau

Mae’r SOM (%) cyfartalog o’r caeau a ddewiswyd ar gyfer pob dyfnder samplu wedi’i gyflwyno yn Nhabl 2. Fel y gwelir yn Nhabl 2, roedd y SOM yn lleihau gyda dyfnder pridd cynyddol.

Tabl 2. Deunydd Organig Pridd cyfartalog (%) o’r caeau a ddewiswyd ar gyfer pob dyfnder samplu.

 

A

B

C

F

5

6

7

10

11

0-10 cm

6.8

6.7

8.4

4.9

11.9

8.7

9.5

12.5

9.9

10-30 cm

4.9

5.9

6.7

4.4

6.3

8

6.3

7.8

6.2

30-50 cm

3.0

3.4

5.2

3.7

3.4

4.1

3.3

4.0

2.6

Yn Nhabl 3, rydym yn cyflwyno stoc carbon pridd cyfartalog (t/ha) y caeau a ddewiswyd ar y fferm ar gyfer pob dyfnder samplu, yn ogystal â’r cyfanswm ar gyfer 0-50 cm. Nid yw hi wastad yn bosibl cael sampl 30-50 cm mewn rhai caeau ar rhai ffermydd oherwydd diffyg dyfnder pridd. Mae hyn yn adlewyrchol o’r priddoedd ar nifer o ffermydd Cymru, a bydd yn amlwg yn effeithio ar ffigyrau cyfanswm stoc carbon.

Tabl 3. Stoc carbon y pridd cyfartalog (t/ha) o’r caeau a ddewiswyd ar gyfer pob dyfnder samplu a chyfanswm y stoc carbon ar gyfer proffil pridd 0-50 cm pob cae. Mae’r holl ffigyrau wedi’u talgrynnu i 2 bwynt degol (gan gynnwys y cyfanswm, sydd yn egluro’r gwahaniaeth o 0.2 rhwng dyfnderoedd samplu a’r cyfanswm mewn rhai achosion).

 

A

B

C

F

5

6

7

10

11

0-10 cm

33.4

33.9

24.6

24.1

31.3

25.5

23.8

31.5

36.7

10-30 cm

61.4

61.1

45.8

38.9

34.8

48.3

33.7

36.5

62.7

30-50 cm

29.3

37.0

29.4

26.1

15.2

23.9

17.9

27.7

30.2

Total

123.2

132.0

99.8

89.1

81.2

97.7

75.5

95.8

129.6