Adroddiad Terfynol Cae Derw: Arallgyfeirio i arddwriaeth a sefydlu menter casglu eich hun gan ddefnyddio’r dull dim turio

 

Cyflwyniad

Daw Lucy Owens yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, ac mae fferm gwartheg llaeth a defaid y teulu wedi’i lleoli wrth Melton Mowbray. Astudiodd Lucy BSc (Anrh) Amaethyddiaeth gyda Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ar hyn o bryd, mae’n ffermio oddeutu 100 o famogiaid yng Nghymru gyda’i thad yng nghyfraith. Heblaw am un padog gartref yn Rhewl, caiff yr holl dir ei rentu. Roedd Lucy hefyd yn aelod o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2019.

Mae’r farchnad casglu eich hun wedi datblygu dros y degawd diwethaf o’r fenter draddodiadol a oedd yn canolbwyntio ar gynhyrchu, i dwristiaeth ar fferm sydd â phwyslais ar y profiad. Mae’r cyfryngau cymdeithasol a’r galw am ddyddiau allan yn y wlad i’r teulu yn lleol wedi ysgogi’r galw hwn. Gan fod y mentrau hyn felly’n canolbwyntio llai ar gynhyrchu cnydau, mae’n rhoi cyfle i unedau ffermydd teuluol – hyd yn oed yn y lleoliadau mwyaf ynysig – greu menter amgen sy’n cynhyrchu incwm ac y gellir ei thyfu yn ôl adnoddau’r fferm a’r llafur sydd ar gael gydol y flwyddyn.

Mae’r pwyslais hwn ar werthu’n lleol drwy gadwyni cyflenwi byr yn darparu ar gyfer gwell priodweddau amgylcheddol, a gall gynnig mynediad tymhorol i amrywiaeth eang o gnydau, tra bod agor am gyfnodau ar y tro yn golygu eich bod yn gallu rheoli niferoedd yr ymwelwyr yn ôl y cynnyrch sydd ar gael. 

Mae Lucy yn fedrus iawn ac yn gyfarwydd â’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn marchnata a hyrwyddo’r mentrau; bydd hyn yn hwyluso mynediad i gwsmeriaid a chrëwyd system archebu i reoli niferoedd yr ymwelwyr. Mae’r tir yng Nghae Derw hefyd yn darparu lle i hamddena i’r teulu.

 

Amcan

Y prif amcan oedd tyfu mor naturiol ac mor ecolegol â phosibl, gan ddefnyddio adnoddau lleol, megis compost heb fawn a thail gwartheg a defaid o’r fferm agosaf.

Caiff y cynnyrch a dyfir ei anelu at y farchnad casglu eich hun, a bydd yn rhoi cyfle i bobl dreulio amser yn yr awyr agored a chysylltu â’r broses o gynhyrchu bwyd yn lleol. Y bwriad yw sicrhau bod cnydau ar gael i’r cyhoedd rhwng mis Mawrth a Hydref, gan ddechrau gyda chennin Pedr a chnydau blodau bylbiau eraill drwodd i ffrwythau meddal, blodau maes, a gorffen gyda phwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf.

Mae’r system dim turio gan ddefnyddio gwelyau plannu uwch yn addas ar gyfer y math hwn o fenter, ac ar ôl i’r gwelyau plannu sefydlu, gellir eu defnyddio ar gyfer amrywiol gnydau. Nid oes llawer o waith cynnal a chadw ar y system, ac mae’r mynediad i’r cyhoedd yn dda, ar hyd rhwydwaith o lwybrau. Gellir newid y cnydau’n hawdd hefyd os nad yw’r mentrau a ddewisir yn perfformio. Gyda menter casglu eich hun, mae’r edrychiad yn holl bwysig, felly mae angen i’r gwelyau plannu uwch edrych yn atyniadol, a sicrhau bod y cnydau’n cael eu harddangos i roi’r fantais orau. 

Nodau’r prosiect oedd:

  • Archwilio dull dim turio i ddatblygu gwelyau ffrwythau a llysiau
  • Cymharu gwlân defaid â chardfwrdd fel tomwellt i fygu chwyn
  • Datblygu gwelyau blodau uwch ar gyfer casglu eich hun 
  • Datblygu menter bwmpenni casglu eich hun

Beth a wnaed

Saif y safle wrth ymyl y brif ffordd rhwng Rhuthun a Dinbych, gyda mynediad caled ac ardal barcio; mae hyn o gymorth i farchnata ac ar gyfer mynediad; mae’r rhain yn ystyriaethau pwysig wrth gynllunio menter o’r natur hon. Ceir nodweddion atyniadol ar y safle hefyd, gan gynnwys nant fechan, coeden dderwen hynafol a golygfeydd o gefn gwlad i bob cyfeiriad, ac mae hyn yn cyfrannu at fwynhad y cyhoedd sy’n ymweld â’r safle.

Arferir defnyddio’r parsel hwn o dir i dyfu cnydau. Mae yna ffynnon ar y safle, ac mae’r ardal yn oddeutu 0.5ha (1.2 erw). Ceir mynediad rhwydd o’r brif ffordd, ynghyd â sied ar y safle i storio offer.

Mae’r pridd ar y safle yn lôm tywodlyd ei ansawdd, a dangosodd y gwaith dadansoddi pridd lefel pH addas a mynegeion maeth priodol (Tabl 1). Cafodd tyllau proffil pridd eu turio i ddyfnder o 60cm er mwyn gallu archwilio proffil y pridd.

Tabl 1: Dadansoddi’r pridd 

 

Ddiwedd 2020, dechreuodd y gwaith o sefydlu’r gwelyau plannu. Mae system dim turio yn system dyfu lle caniateir i’r pridd ddatblygu ffurfiant ac iechyd heb ddefnyddio dulliau trin mecanyddol, a chaiff chwyn eu rheoli drwy ddefnyddio tomwellt a deunydd gorchuddio’r ddaear sy’n gallu bod yn gardfwrdd, tail, neu sglodion coed. Yn yr achos hwn, defnyddiwyd gwlân crai a Mypex (tecstil gorchuddio’r ddaear). Mae gwlân yn dadelfennu’n raddol i gyflenwi deunydd organig a nitrogen sy'n cael ei ryddhau'n araf am hyd at dair blynedd neu ragor, ac mae’n rhoi defnydd cadarnhaol i wlân sy’n fudr neu o ansawdd salach. Gwelwyd peth tystiolaeth o gywasgu’r wyneb, felly cafodd y tyweirch eu trin yn ysgafn i awyru’r pridd cyn ei orchuddio.

Gwnaed y gwaith plannu drwy dyllau bychain yn y gorchudd Mypex, a oedd yn golygu mai ychydig iawn o waith chwynnu â llaw oedd i’w wneud. Bydd Mypex yn para am o leiaf 10 mlynedd os na chaniateir i chwyn dyfu arno; gan mai cnydau unflwydd sy’n cael eu tyfu’n bennaf, mae’n rhoi cyfle i greu cylchdro er mwyn atal clefydau sy’n bodoli mewn pridd rhag cronni.

Llwybrau sglodion coed ac ymylon brics, Chwefror 2021

 

Cafodd y blodau eu tyfu o hadau oddi ar y safle, gan ddechrau â’r hau ym mis Hydref 2020 i ddarparu blodau cynnar yn 2021. Ym mis Mawrth 2021, gosodwyd twnnel polythen ar y safle i luosogi’r planhigion.

Ym mis Chwefror, plannwyd ffrwythau meddal: Mafon Autumn Bliss a’r mafon ffrwythau melyn All Gold. Mae’r amrywiaethau hyn yn fafon gwydn sy’n ffrwytho yn yr hydref neu’n fafon cansenni cyntaf sy’n ffrwytho ar dyfiant y tymor hwnnw, ac felly maen nhw’n rhoi cnwd da yn y flwyddyn blannu. Cafodd riwbob ei blannu hefyd. 

Dewiswyd y blodau i roi lliw a diddordeb drwy’r tymhorau ac yn eu mysg y mae:

Cennin Pedr 
Tiwlipau 
Anemonïau
Blodau menyn
Gwerddonell
Lafant
Rhosmari
Clychau Iwerddon
Trwyn llo
Pys Pêr
Amaranthau
Llysiau’r Mêl
Dahlias (gwahanol fathau)
Blodau haul (amrywiol liwiau)
Clafrllys
Zinnias
Rhosod
Blodau ffenigl
Glas yr ŷd
Blodau’r cleddyf

 

Canlyniadau

Fe wnaeth y cnydau i gyd ddatblygu’n dda, a dechreuodd y marchnata’n fuan, gyda blodau bylbiau o blanhigion yr hydref diwethaf yn cael eu casglu o fis Mawrth i fis Mai. Roedd y gwelyau a’r llwybrau’n gweithio’n dda, ac roedd yr elfennau gweledol yn atyniadol. Dechreuwyd ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol cyn bo’r cnydau’n barod, ac roedd nifer y dilynwyr yn cynyddu’n gyson. Roedd ffotograffau atyniadol o’r trefniannau blodau casglu eich hun wedi’u labelu gyda tharddiad lleol yn cyfoethogi edrychiad y safle.

Y blodau cyntaf a werthwyd Mawrth 2021

Gan ddechrau â’r cennin Pedr ym mis Mawrth, cafwyd ymateb ardderchog gan y cyhoedd, ac roedd y systemau archebu ar-lein yn gweithio’n dda. Mae blodau yn gnwd defnyddiol ar gyfer casglu eich hun, gan eu bod yn edrych yn dda ac yn tueddu i fod ar lefel pris uwch na chnydau bwyd. Cafodd dewis newydd o flodau jariau jam eu datblygu, a bu hwn yn boblogaidd iawn oherwydd bod mwy o ddewis o flodau ar gael. Anogwyd y cyhoedd i gasglu a thorri’r blodau a gosod eu tuswau eu hunain.

Cafodd sesiynau gosod blodau eu treialu, yn ogystal â digwyddiadau ‘casglu eich tusw eich hun’, a fu’n boblogaidd iawn. Mae hyn hefyd yn gyfle i gael incwm ychwanegol drwy ddarparu lluniaeth.

Casglu eich blodau jariau jam eich hun, Awst 2021

Tyfodd y mafon cansenni cyntaf yn aruthrol o dda, felly roedd yn amlwg y byddai cnwd hydref da ar gael i’w gasglu o fis Awst ymlaen. Fe wnaeth y blodau hwyr (gan gynnwys dahlias a blodau haul) hefyd dyfu’n dda.

Bocsys mafon ar werth, Medi 2021

Mae pwmpenni yn gnwd cylchdro cyflym, sy’n cael eu plannu ddiwedd Mai i ddechrau Mehefin a’u gwerthu erbyn diwedd Hydref. Ar y safle hwn, cawsant gryn drafferth gyda gwlithod yn bwyta’r deiliach meddal a’r ffrwythau anaeddfed. Gellir tynnu’r rhain i ffwrdd â llaw, neu mae yna nawr belenni gwlithod organig ar gael sy’n deillio o ffosffad fferrig ac sy’n ddiogel i fywyd gwyllt. Bydd creu llochesi draenogod o amgylch yr ardal hefyd yn helpu gan eu bod yn chwilota am wlithod, ac mae annog adar gwyllt fel y fronfraith yn gallu helpu.

Fe wnaethant ddechrau hyrwyddo’r tocynnau’n gynnar ym mis Medi ar gyfer y penwythnos casglu pwmpenni ym mis Hydref, a gwerthwyd pob un o’r 84 o docynnau a oedd ar gael. Gwerthwyd y tocynnau fesul car ar y platfform archebu Eventbrite, a chodwyd £5 am bob car a ffi archebu (£5.98 i gyd), ac yna dâl ychwanegol am bwmpenni ar y diwrnod a oedd yn amrywio o £4 i £10 yn ôl maint. Mae rheoli’r niferoedd ar safle eithaf cyfyng yn holl bwysig i roi’r profiad gorau i’r ymwelwyr a glynu wrth y gofynion iechyd a diogelwch. 

Lucy Owens, Cae Derw, Hydref 2021

Costau ac enillion

Costau isadeiledd

Twnnel polythen 20tr x 10tr, a ddefnyddir i gychwyn planhigion, lledaenu neu ddatblygu planhigion plygiau - £1000. 
Adeilad pod plastig ar gyfer digwyddiadau a lluniaeth - £4000
Mypex neu ddeunydd tebyg 1.3m o led - £1.80/m

Prisiau hadau a phlanhigion

Hadau pwmpenni - 1000 o hadau am £60.00 
Blodau haf cymysg i’w casglu - 100g o hadau £18.00
Blodau haul F1 i’w torri - 100g o hadau £6.30
Hadau pys pêr - 15g (12 hadyn ym mhob g) £2.85
Cosmos - 100 o hadau £3.00
Cloron dahlias – 100 o hadau £100.00
Mafon Autumn Bliss – 100 o hadau £60

Llafur

Amser llafur – 20 awr/wythnos am 6 mis, 10 awr/wythnos am 6 mis (500awr + 250awr = 750awr y flwyddyn)
(Blwyddyn 2 ymlaen – oddeutu 8awr/wythnos = 400awr y flwyddyn)

Enillion

Gwerthwyd y pwmpenni am £4, £6, £8 a £10 
Gwerthiant pwmpenni gan gynnwys y ffioedd archebu - £1775
Sesiynau blodau 15 diwrnod ar gyfartaledd o £400 y dydd - £6000 gan gynnwys arlwyo
Gwerthiant ffrwythau meddal mafon blwyddyn 1af 100kg mewn bocsys cardfwrdd 125g - £12.00/ kg = £1200 
(rhagolygon ar gyfer blwyddyn 2 - 500kg @ £12/kg = £6000)

 

Casgliadau

  • Bu’r dull dim turio’n llwyddiannus, gyda’r blodau, y mafon a’r pwmpenni i gyd yn tyfu’n dda.
  • Mae defnyddio gwlân defaid o amgylch y mafon wedi gweithio’n dda i fygu’r chwyn, ac mae hefyd yn helpu i storio dŵr i’w ryddhau’n araf; bydd hefyd yn dadelfennu dros amser, gan ryddhau nitrogen i’r cnwd.
  • Fe wnaeth defnyddio cardfwrdd weithio’n well fel haen isaf gyda thail fferm ar y top ac yna Mypex.
  • Roedd plannu bylbiau blodau drwy Mypex yn fwy llafurddwys i ddechrau, ond bu llai o waith chwynnu’n ddiweddarach.
  • Gweithiodd y digwyddiadau Casglu Pwmpenni yn dda wedi’u trefnu drwy blatfform archebu. Roedd yn anodd mesur faint o bwmpenni oedd eu hangen, ac roedd ychydig ar ôl, er y cawsant eu gwerthu ymlaen yn lleol a, drwyddynt draw, fe wnaethant ddod ag incwm da.
  • Bu’r gwelyau blodau uwch ar gyfer dyddiau casglu eich hun yn boblogaidd iawn ac yn llwyddiant yn ariannol, felly’r bwriad yw creu rhagor o welyau ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan ddechrau â bylbiau gwanwyn.

Mae tyfu cnydau er gwerth hamdden yn ogystal â bwyd yn faes eithaf newydd, ac er eu bod yn gweithredu ar raddfa fechan ond dwys, roedd yr enillion yn dda, ac mae wedi creu busnes cynaliadwy i’w ddatblygu ymhellach. Gellir dileu costau’r seilwaith sefydledig dros bum mlynedd, felly bydd y costau blynyddol i’r busnes yn lleihau dros amser.

Mae gofyn ichi gael rhywfaint o ddawn marchnata er mwyn rhedeg y math hwn o fenter, ynghyd â pharodrwydd i groesawu’r cyhoedd a sicrhau profiad da i ymwelwyr. Fodd bynnag, mae yn fodel y gellid ei weithredu ar nifer o ffermydd i wneud elw tymhorol rhesymol y gellir ei ailadrodd a byddech yn gweithredu mewn marchnad lle mae’r galw yn debygol o dyfu dros y blynyddoedd.