Adroddiad terfynol prosiect Ein Ffermydd

Prif ganlyniadau:

Iechyd y pwrs/cadair: roedd buchesi a fu’n cymryd rhan yn y prosiect yn perfformio o fewn y 25-50% uchaf ar lefel genedlaethol.
Effeithlonrwydd: Llwyddodd pob un o’r buchesi i berfformio o fewn y 50% uchaf yn genedlaethol o ran unedau llaeth fesul uned bob awr.
Ariannol: Roedd cyfanswm costau iechyd y pwrs/cadair yn amrywio o ~£3,000 i £10,000 fesul 100 o wartheg fesul blwyddyn (effaith o 1.0–1.25 ceiniog fesul litr).

Llafur a lles y fuwch: Roedd godro effeithlon yn lleihau’r amser a dreuliwyd yn y parlwr, gan ganiatáu mwy o amser i’r gwartheg orwedd a bwydo, gan wella iechyd a chynyddu ffrwythlondeb a chynhyrchiant.

Amgylcheddol: Roedd cyfraddau mastitis is yn arwain at ddefnyddio llai o feddyginiaethau a cholledion o ran llaeth gwastraff, gan wella cynaliadwyedd.

Cefndir: 

Mae mastitis clinigol ac is-glinigol ymhlith y clefydau mwyaf costus mewn ffermio llaeth o ystyried eu heffaith negyddol ar ansawdd a chynnyrch llaeth, gan effeithio yn y pen draw ar broffidioldeb y fferm laeth.
Cynhaliwyd ymdrech ledled Cymru i asesu perfformiad godro ac iechyd y pwrs/cadair gan bedair fferm laeth sy’n rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio. Er mwyn asesu a chymharu’r pedair fferm a nodau ehangach y diwydiant, fe wnaeth y ffermydd a fu’n cymryd rhan ddarparu eu data eu hunain oddi ar eu ffermydd.

Diben y gwaith:

Nod y prosiect oedd meincnodi iechyd y pwrs/cadair, perfformiad godro, a chanlyniadau ariannol ar draws pedair fferm laeth a fu’n cymryd rhan yn Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio. Yr amcan oedd darparu cymhariaeth i ffermwyr o berfformiad yn erbyn safonau cenedlaethol a chymheiriaid, gan nodi cryfderau a gwendidau ac amlygu meysydd ymarferol i’w gwella.

Yr hyn a wnaed:

  • Casglwyd data perfformiad yn ystod ymweliadau fferm gan y ffermydd a fu’n cymryd rhan, gan gynnwys meincnodi iechyd y pwrs/cadair, a oedd yn cynnwys cyfraddau mastitis, cyfrif celloedd ac effeithlonrwydd godro.

Gan ddefnyddio’r data a gasglwyd, gwnaed y canlynol:

  • Cyfrifo costau iechyd y pwrs/cadair.
  • Cymharu canlyniadau gyda setiau data ledled y DU (e.e. NMR, AHDB) a’r buchesi sy’n perfformio orau (y 25% uchaf).
  • Nodi unrhyw broblemau penodol ar lefel y fuches (e.e. mwy o achosion o fastitis mewn heffrod, cyfraddau adfer gwael yn ystod y cyfnod sych, patrymau difa).
  • Cwblhau dadansoddiad costau gan ddefnyddio cyfrifiannell costau mastitis wedi’i deilwra.

Canlyniadau: 

  • Llwyddodd y ffermwyr a fu’n cymryd rhan i ddatblygu gwell dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau eu buches.
  • Roedd meincnodi’n darparu sicrwydd bod perfformiad yn dda ar y cyfan, gan hefyd amlygu meysydd i’w mireinio.
  • Adroddodd ffermydd lai o achosion o fastitis, a mwy o hyder mewn arferion rheoli.
  • Dangosodd yr ymarfer meincnodi y gallai gwelliannau canrannol bychain mewn iechyd y pwrs/cadair gynyddu proffidioldeb yn sylweddol.
  • Roedd rhai o’r buchesi’n perfformio’n well na’r targedau elitaidd, gydag eraill yn dangos gwelliannau mewn meysydd penodol (mastitis mewn heffrod, heintiau llaetha, cyfraddau adfer yn ystod y cyfnod sych).
  • Gwelwyd mai parlyrau rotari oedd y mwyaf effeithlon, ond roedd gosodiadau clystyrau awtomataidd (ACR) a pharatoi tethi’n effeithiol hefyd yn hybu effeithlonrwydd.
  • Ar gyfer buchesi sy’n perfformio’n dda iawn, gallai llacio rhywfaint ar y mesurau rheoli mastitis arbed amser/arian gydag ychydig iawn o risg. I eraill, gallai gwelliannau cymedrol o ran rheolaeth arwain at enillion ariannol sylweddol.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  • Canolbwyntiwch ar dri phrif faes: iechyd y pwrs/cadair, effeithlonrwydd godro, a chostau ariannol
  • Defnyddiwch gofnodion llaeth a chyfrifianellau costau mastitis i ganfod ble mae eich colledion yn digwydd.
  • Gosodwch dargedau realistig (e.e. 25% uchaf o ran nifer yr achosion mastitis – 13 achos/100 buwch/ y flwyddyn).
  • Monitrwch broblemau penodol megis mastitis mewn heffrod, cyfraddau adfer yn ystod y cyfnod sych, a phatrymau heintio gwartheg hŷn.
  • Gwnewch y gorau o effeithlonrwydd wrth odro: gwiriwch osodiadau’r clystyrau awtomatig (ACR), arferion paratoi tethi, a’r defnydd o’r parlwr.
  • Ail-fuddsoddwch arbedion o ganlyniad i leihau nifer yr achosion o fastitis i ardaloedd eraill o reoli’r fuches.
  • Cysylltwch gyda’ch Swyddog Datblygu lleol i weld sut y gall Cyswllt Ffermio eich cefnogi i weithio gyda milfeddygon, ymgynghorwyr, a grwpiau cymheiriaid i gael cymorth arbenigol.