Anfonwyd yr holl rawn a dyfwyd ar fferm Upper Pendre i’r labordy i gynnal dadansoddiad llawn o’u maeth

Dr Delana Davies, Swyddog Technegol Âr a Garddwriaeth

Anfonwyd yr holl rawn a dyfwyd ar fferm Upper Pendre i’r labordy i gynnal dadansoddiad llawn o’u maeth.

 

 ME

MJ/Kg DM

Protein Crai

%

Lleithder %

Starts

%

Rhygwenith

13.8

11.5

15.1

60.6

Haidd

13.2

9.7

13.8

51.5

Gwenith

13.7

12.1

14.1

57.3

Rhyg

13.6

10.9

13.2

49.2

 

 

 

 

 

 

Mae’r rhyg yn cymharu’n dda gyda’r grawn eraill o ran cynnwys Egni Metaboladwy gyda chynnwys starts tebyg i haidd. Mae gan ryg hefyd fantais gan ei fod yn cynnwys oddeutu 5% o siwgr sy’n gallu darparu ffynhonnell egni parod i ficrobau’r rwmen sy’n cyd-fynd â threuliad arafach y starts.

Roedd lefelau Protein Crai'r rhyg yn eistedd rhwng lefelau haidd a rhygwenith.

Mae cnydau grawn a dyfir ar fferm Upper Pendre yn cael eu defnyddio i fwydo’r fuches laeth a phesgi gwartheg o’r fuches sugno, a daethpwyd i’r casgliad y byddai modd defnyddio rhyg i amnewid yn uniongyrchol gydag unrhyw gnydau grawn eraill yn y dogn ar y fferm.