Anna Glyn Davies

Llanrwst, Conwy

Mae Anna Glyn Davies yn 18 oed, ac mae’n byw ar fferm bîff a defaid yn Llanrwst, Conwy. Mae Anna wedi bod yn ymwneud â bywyd fferm erioed, o fwydo anifeiliaid i ddangos cobiau Cymreig a bridio diadell ei hun o ddefaid texel glas. Mae Anna newydd orffen astudio ar gyfer ei chymwysterau Lefel A yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.

Mae Anna yn aelod brwd o CFfI Llansannan ac mae hi hefyd yn gweithio yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

Ar ôl ei chymwysterau Lefel A, mae Anna yn gobeithio astudio Amaethyddiaeth a Busnes yn y Brifysgol, ac wedi hynny, hoffai deithio i Seland Newydd. Breuddwyd Anna yw rheoli ei fferm ei hun yng Nghymru ryw ddydd, lle mae’n bwriadu sefydlu busnes arlwyo a fydd yn defnyddio cynnyrch sy’n cael ei fagu ar y fferm i roi profiad gwirioneddol o’r fferm i’r fforc i’w chwsmeriaid.

Mae Anna’n credu y bydd Academi yr Ifanc yn gyfle amhrisiadwy i ddysgu am systemau ffermio, i gymdeithasu ag unigolion o’r un anian, ac i rannu syniadau.