Astridge Farm Diweddariad Prosiect- Terfynol

Canlyniadau allweddol

Yn y prosiect hwn:

  • Ni chafodd yr ychwanegyn Biocomplex unrhyw effaith ar gynnyrch na chyfansoddiad y llaeth ar ôl y cyfnod llaetha brig.

  • Nid oedd modd mesur allyriadau amonia, felly mae angen gwaith ymchwil pellach i bennu a yw’r ychwanegyn Biocomplex yn lleihau allyriadau amonia o dail/slyri anifeiliaid cnoi cil

Mae hefyd angen gwaith ymchwil pellach i bennu’r sail fiolegol ar gyfer sut mae’r ychwanegyn Biocomplex yn rhyngweithio o fewn y rwmen a’i effaith ar effeithlonrwydd defnyddio nitrogen.

Cefndir

Mae South Astridge Farm yn fferm laeth yn ne Sir Benfro sy’n eiddo i William a Katy Fox ac yn cael ei ffermio ganddynt. Mae’r fenter yn cynnwys 350 o wartheg godro Friesian Prydeinig sy’n lloia mewn bloc yn yr hydref. Mae’r holl laeth yn cael ei gyflenwi i First Milk trwy eu rhaglen ffermio adfywiol. O ganlyniad, mae’r teulu Fox yn awyddus i gynhyrchu llaeth sydd mor ecogyfeillgar â phosibl.

Un maes y mae’r fferm yn awyddus i’w archwilio yw lleihau allyriadau amonia o’u buches.  O ganlyniad, nod yr astudiaeth achos hon oedd ymchwilio effaith bwydo echdynnyn gwymon a elwir yn Biocomplex i wartheg llaeth fel rhan o’u dwysfwyd safonol yn ystod y cyfnod llaetha, wedi’i fwydo yn ystod amser godro yn y parlwr. Prif nod y prosiect oedd i bennu a allai’r ychwanegyn Biocomplex wella cynhyrchiant y fuches yn ogystal â lleihau allyriadau amonia o slyri.

Yr hyn a wnaed

Cynhaliwyd yr astudiaeth achos rhwng 8 Rhagfyr 2023 a 30 Mehefin 2024.  Roedd yr astudiaeth achos yn cynnwys dau gyfnod sef cyfnod dan do yn y gaeaf rhwng 8 Rhagfyr ac 1 Mawrth a chyfnod pori’r gwanwyn/haf rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin. Ni chasglwyd unrhyw ddata yn ystod mis Mawrth gan fod hwn yn gyfnod pontio, lle’r oedd gwartheg yn pontio’n raddol o’r system dan do yn y gaeaf i gael eu troi allan i’r borfa am 24 awr gan ddibynnu ar y tywydd.

Canlyniadau

Cynnyrch llaeth

Mesurwyd cynnyrch llaeth ar sail cyfartaledd 7 niwrnod ar gyfer y cyfnod dan do (wythnosau 1-13) a’r cyfnod yn awyr agored yn y gwanwyn/haf (wythnosau 18-29). Ni welwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol yng nghynnyrch cyfartalog 7 diwrnod y gwartheg a oedd yn derbyn y diet reoli na’r Biocomplex ar gyfer y cyfnod dan do na’r cyfnod yn yr awyr agored yn y gwanwyn/haf (Ffig.1)

Ffig 1: Cynnyrch llaeth dros gyfnod yr arbrawf

Cyfansoddiad llaeth

Cafodd cyfansoddiad braster llaeth a phrotein samplau llaeth misol eu monitro ac ni chanfuwyd unrhyw wahaniaeth yng nghynnwys braster menyn y samplau llaeth wrth eu mynegi ar sail canran ar gyfer y grŵp rheoli na’r grŵp a dderbyniodd yr ychwanegyn Biocomplex yn ystod y cyfnod dan do na’r cyfnod yn pori yn yr awyr agored (Ffigur 2). 

 

Ffig 2: Canlyniadau braster llaeth a phrotein y llaeth dros gyfnod yr arbrawf

Astudiaeth slyri bras

Cynhaliwyd astudiaeth slyri bras i chwilio am unrhyw wahaniaethau rhwng samplau (Tabl 1). Mae’n bwysig nodi y dylid bod yn ofalus wrth ystyried canlyniadau’r astudiaeth hon ac i beidio â dod i unrhyw gasgliad yn seiliedig ar y data hwn o ganlyniad i gyfyngiadau o ran methodoleg samplu a diffyg sampl reoli. Er hynny, roedd canlyniadau’r astudiaeth yn dangos bod y samplau slyri yn cynnwys gwahanol gyfansoddiadau deunydd sych, ond nid oedd cymhareb wrin i ysgarthion o fewn y samplau’n hysbys ymlaen llaw, felly gallai hynny fod wedi cyfrannu at y canlyniad. 

Roedd pH y samplau’n dangos bod y samplau slyri a gasglwyd o’r grŵp rheoli ychydig yn fwy asidig o’i gymharu â’r sampl a gasglwyd o’r grŵp Biocomplex. O ran cynnwys nitrogen y samplau slyri, roedd y grŵp Biocomplex i’w weld yn cynnwys cyfanswm is o nitrogen ac amoniwm nitrogen o’i gymharu â’r grŵp rheoli.

O ganlyniad, roedd cwestiynau’n codi o ran effaith yr ychwanegyn Biocomplex o fewn y rwmen ac effaith yr ychwanegyn ar fetaboledd y rwmen ac effeithlonrwydd y defnydd o nitrogen. Mae hyn yn pwysleisio’r angen am fwy o waith ymchwil i bennu sail fiolegol y modd y mae’r ychwanegyn Biocomplex yn rhyngweithio o fewn y rwmen.

Casgliadau

  • I grynhoi, mae canlyniadau’r astudiaeth achos hon yn dangos nad oedd yr ychwanegyn Biocomplex yn cael unrhyw effaith negyddol ar gynnyrch nac ansawdd y llaeth fel y gwelir yn ôl cyfansoddiad braster menyn a phrotein.

  • Er y cynhaliwyd dadansoddiad slyri bras fel rhan o’r astudiaeth achos hon, nid oedd modd cyrraedd unrhyw gasgliad yn seiliedig ar y data hwn o ganlyniad i gyfyngiadau o ran methodoleg samplau, diffyg ailadrodd a sampl rheoli.

  • Mae’n bosibl y gallai mesur allyriadau amonia mewn modd mwy dibynadwy ddatgelu mwy o ganlyniadau cadarnhaol o safbwynt effeithlonrwydd defnyddio nitrogen ar y fferm gyda buddion posibl i’r amgylchedd. Fodd bynnag, mae angen gwaith ymchwil pellach i bennu hynny’n llawn. Mae hefyd angen mwy o waith ymchwil er mwyn deall y sail fiolegol o ran sut mae’r ychwanegyn Biocomplex yn rhyngweithio gyda’r rwmen, gydag archwiliad penodol yn ymwneud ag effeithlonrwydd nitrogen ac eplesu yn y rwmen.  

Cysylltwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech dderbyn copi o adroddiad terfynol llawn y prosiect hwn.