Awel y Grug Diweddariad ar y prosiect – Ebrill 2024

Er bod y ddau wndwn wedi'u sefydlu'n dda chwe wythnos ar ôl hadu, mae amodau gwlyb y tir wedi arwain at benderfyniad i beidio â thorri silwair. Yn hytrach, gosodwyd ffensys trydan a throi ŵyn i’r ddau i’w pori. Er na chasglwyd unrhyw ddata ynghylch Enillion Pwysau Byw Dyddiol yn 2023, nododd Chris ei fod wedi’i blesio gan gyflwr yr ŵyn yn yr amser byr y buont yn pori llain A, ac roedd cyflwr yr ŵyn a fu’n pori Llain B hefyd wedi gwella yn gyflym o gymharu â phorfa barhaol. 

Yna, gorffwyswyd y cae tra bu’r defaid dan do rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2024, cyn cael ei bori gan famogiaid ac ŵyn wrth eu troi allan, gan adael yn ofalus weddillion uwch oherwydd amodau gwlyb y tir. Nid oedd unrhyw ddwysfwydydd yn cael eu bwydo i famogiaid ar ôl eu troi allan; arbediad cost sylweddol i Awel y Grug.