Awel Y Grug Diweddariad Prosiect - Rhagfyr 2024
Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?
O ganlyniad i nifer o broblemau a nodwyd mewn perthynas â chydnawsedd dyfeisiau wrth eu gosod yn y lle cyntaf, penderfynwyd rhannu’r prosiect yn ddau gam;
- Cam 1: Nodi’r holl broblemau a phrofi datrysiadau posibl (gweler isod)
- Cam 2: Rhoi’r datrysiadau ar waith a chyflwyno protocol triniaeth ddethol wedi’i thargedu (TST) ar gyfer ŵyn a enir yn 2025 – bydd y sesiwn TST cyntaf yn ddibynnol ar risg haint Nematodirus ym mis Mai/Mehefin 2025
Gosodiad Caledwedd a Meddalwedd Cychwynnol
Yn y gorffennol, bu’r fferm yn defnyddio offer pwyso Tru-Test S3 ynghyd â darllenydd tag electronig Gallagher HR5 EID. Nid oedd y ddyfais bwyso’n gallu cysylltu gyda’r darllenydd EID (rhif adnabod electronig), gan ei gwneud yn amhosibl cyfrifo a dangos cynnydd pwysau byw dyddiol ar y sgrin. Y nod oedd integreiddio gwn dosio Te Pari sy’n cyfrifo’n awtomatig (gwn dosio awtomatig Revolution), sydd angen Ap i gydweithio gyda dyfeisiau Tru-Test. Byddai protocol triniaethau dethol wedi’u targedu (TST) yn cael ei fabwysiadu gan ddefnyddio ap Smart Worm gan Cotter Agri. Byddai hefyd yn cael ei ddefnyddio i ganfod a oedd angen triniaeth ar yr anifail os nad oedd yn bodloni’r meini prawf o ran isafswm cynnydd pwysau byw dyddiol. Byddai’r anifail a nodwyd nad oedd yn bodloni’r targed cynnydd pwysau byw dyddiol yn derbyn triniaeth ar gyfer parasitiaid mewnol. Fodd bynnag, cododd sawl her:
- Mae’r ap Te Pari yn gweithio ar ddyfeisiau Android yn unig, ond mae’r ffermwr, Chris, yn defnyddio dyfais iOS (Apple).
- Nid yw’r offer pwyso Tru-Test S3 yn cyfateb â’r Ap Te Pari.
- Nid oedd y fersiwn iOS o’r ap Smart Worm ar gael fel yr hysbysebwyd.
Canfod ffordd ymlaen
Awgrymodd y gwerthwr lleol uwchraddio i offer pwyso Tru-Test 5000 (£1400 i £2300, gan ddibynnu ar y model), a allai weithio gyda’r gwn dosio Te Pari drwy ap Android (Fodd bynnag, mae Awel y Grug yn defnyddio dyfais iOS Apple). Roedd y gosodiad hwn yn galluogi i’r offer pwyso anfon pwysau i’r ap dros Bluetooth, a oedd wedyn yn cyfrifo’r gyfradd ddosio ar gyfer pob anifail ac anfon y data hwn i’r gwn dosio dros Wi-Fi, gan newid y gyfradd ddosio.
Fodd bynnag, nid oedd hyn yn bodloni gofynion y fferm yn llawn oherwydd y canlynol:
- Dim ond i ddyfeisiau Android y mae Tru-Test 5000 yn anfon data yn ystod sesiwn byw gan ddefnyddio Bluetooth. Ni all Tru-Test 5000 gysylltu gyda dyfeisiau iOS Apple nes bod y sesiwn wedi dod i ben. Nid yw hyn yn ddefnyddiol wrth weithio gyda gwn dosio Te Pari neu ap Smart Worm Cotter Agri gan fod angen cysylltiad byw/amser real er mwyn rhedeg y rhaglenni/apiau.
- Bydd angen i’r ap Android sydd wedi cysylltu gyda’r offer pwyso Tru-Test 5000 redeg dau ap ar yr un pryd, gyda’r ap cyntaf wedi’i gysylltu â’r gwn dosio Te Pari angen y pwysau’n unig, a’r ail ap, sef yr ap Smart Worm, angen data pwysau ac EID. Nid yw’n hawdd anfon yr un wybodaeth ar yr un pryd i ddau ap ar un ddyfais. Yr ateb fyddai i osod dwy ddyfais Android i gysylltu â’r offer pwyso ar yr un pryd, gan gymhlethu’r broses ymhellach.
Datrysiadau eraill
Opsiwn A
- Defnyddio offer pwysau Gallagher W1 sy’n rhatach (£1,000 neu lai).
- Gall dyfeisiau Gallagher gysylltu â dyfeisiau Apple/iOS dros WiFi/poethfan a dyfeisiau Android gan ddefnyddio Bluetooth.
- Gall y gwn dosio Te Pari gysylltu’n uniongyrchol gyda dyfais Gallagher W dros Wi-Fi/poethfan. Mae’n cofnodi’r gyfradd ddosio ar yr offer pwyso pan mae’r gwn dosio’n cael ei sbarduno.
- Gellir cysylltu darllenydd EID Gallagher HR5 gan ddefnyddio Bluetooth, gan anfon y manylion EID i’r ddyfais Gallagher W, sy’n gallu cyfrifo cynnydd pwysau byw dyddiol ar y sgrin.
- Mae’r offer pwyso Gallagher W1 yn gallu cysylltu gyda’r ap Smart Worm gan ddefnyddio Wi-Fi/poethfan. Bydd hyn yn galluogi cysylltiad Bluetooth er mwyn i’r darllenydd EID HR5 allu cysylltu. Mae hyn yn galluogi’r offer Gallagher W i anfon y pwysau a’r rhif adnabod electronig (EID) i’r ap Smart Worm dros Wi-Fi/poethfan.
Heriau gyda’r opsiwn hwn:
Mae’r offer pwyso Gallagher W yn gallu cysylltu gydag un ddyfais yn unig dros Bluetooth ac un dros Wi-Fi/poethfan, felly ni ellir cysylltu’r ap Smart Worm pan mae’r gwn dosio Te Pari a’r darllenydd EID wedi’u cysylltu.
Opsiwn B
Disodli’r gwn dosio Te Pari gyda gwn dosio Automed. Mae’r ddyfais hon yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r ap Smart Worm, gan alluogi un ap i reoli’r cyfrifiadau gwn dosio a’r triniaethau dethol wedi’u targedu (TST) (trin neu beidio â thrin) a chofnodi’r driniaeth ar y manylion adnabod electronig (EID). Mae’r ap Smart Worm yn adnabod yr anifeiliaid sydd angen eu trin, ac yna’n cyfrifo’r gyfradd ddosio ac yn rheoli’r gwn dosio Automed, gan waredu’r angen am fwy nag un ddyfais ac ap.
Casgliad Cam 1
Mae’r gosodiad symlach gyda’r offer pwyso Gallagher W1 a’r gwn dosio Automed yn cynnig datrysiad ymarferol i gyflawni targed y fferm o weithredu polisi triniaethau dethol wedi’u targedu i reoli nematodau gastroberfeddol gan ddefnyddio ap Smart Worm gan Cotter Agri. Mae’n debyg mai sganio rhif adnabod electronig (EID) yr ŵyn wrth drin am y tro cyntaf a’u huwch lwytho i’r ap Smart Worm yw’r ffordd fwyaf effeithlon o fewnbynnu’r anifeiliaid i’r system newydd yn hytrach nag uwch lwytho data o daenlen. Mae angen pwysau ‘diwrnod 0’ ac ni ddylid defnyddio’r dull triniaethau dethol wedi’u targedu ar ddechrau’r tymor pori pan fo risg Nematodirus yn uchel.