Brynllech Diweddariad ar y prosiect – Medi 2023

Dewiswyd pedair llain a oedd wedi’u rheoli’n union yr un fath ac yn meddu ar nodweddion tebyg fel y gwelir yn Ffigur 1. Gofynnwyd am Sgrinio Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol ar gyfer lleiniau 1, 2 a 3 ar 31 Gorffennaf 2023, a rhoddwyd caniatâd i fwrw ymlaen ag ail-hadu cyn pen pythefnos.

 

 

Ffigur 1. Y lleiniau wedi’u rhannu; Llain Reoli, Llain 1, Llain 2 a Llain 3 a manylion yn ôl hectar ar gyfer pob llain.

Ni chafodd y llain reoli ei hailhadu ond, yn hytrach, cafodd ei chadw fel porfa barhaol, tra gellir gweld manylion y cymysgeddau a ddefnyddiwyd yng ngweddill y lleiniau yn Ffigur 2.

Ffigur 2. Manylion y math o driniaeth wndwn a’r gyfradd hadau ar gyfer pob llain 

Mae manylion yr amrywiaethau a gynhwysir yn y cymysgeddau hadau uchod ar gael yn Ffigur 3a, 3b a 3c.

Ffigwr 3a. Manylion y cymysgedd o hadau Gwndwn Hirdymor BarMix a ddefnyddiwyd yn llain 1

Ffigur 3b. Manylion y cymysgedd o hadau Gwndwn Amlrywogaeth a ddefnyddiwyd yn llain 2

Ffigwr 3c. Manylion y cymysgedd hadau Permanent Supreme a ddefnyddiwyd yn llain 3

 

Er mwyn sefydlu’r cnwd, cymerwyd y camau canlynol: 

  1. Dinistriwyd y borfa gyfredol gan ddefnyddio Glyffosad ar y gyfradd a argymhellir ar 18 Awst
  2. Calch ar 4 t/ha
  3. Rhoddwyd gwrtaith ar 600kg/ha o 16:16:16 ar 24 Awst
  4. Driliwyd hadau yn uniongyrchol i’r tir ar y gyfradd had a argymhellwyd ar gyfer pob llain a nodir yn Ffigurau 3 a 4, ynghyd â phelenni gwlithod ar y gyfradd a argymhellwyd gan ddefnyddio Moore Vredo, sef hadwr disg, ar 25 Awst