Brynllech Diweddariad ar y Prosiect - Rhagfyr 2024

Beth sydd wedi cael ei wneud ers y diweddariad diwethaf?

  • Cyfrifwyd argaeledd deunydd sych cyfartalog biomas llystyfiant fesul hectar rhwng 29 Mehefin a 4 Rhagfyr gan ddefnyddio’r dull torri a phwyso canlynol;
    • Cafodd argaeledd biomas llystyfiant ei fesur yn fisol rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr drwy osod tri chawell atal pori 1m x 1m ar hap ym mhob llain a thorri’r llystyfiant o fewn cwadrad 0.5m x 0.5m hyd at uchder o 4cm.
    • Cafodd y llystyfiant a gasglwyd ei bwyso i ganfod y pwysau ffres cyn ei sychu mewn microdon nes y cafwyd pwysau sych cyson.
    • Cafodd y canlyniadau eu huwchraddio i bennu argaeledd deunydd sych mewn biomas llystyfiant fesul hectar bob mis.
  • Cymerwyd ciplun o ansawdd maeth porthiant ar 31 Gorffennaf a 1 Hydref gan ddefnyddio’r dull canlynol, gyda’r canlyniadau i’w gweld yn Nhabl 1.0 ac 1.1;
    • Cymerwyd samplau o’r cewyll atal pori a’u cronni i roi 1 is-sampl ar gyfer pob llain.
    • Anfonwyd y samplau at Sciantec Analytical (Sciantec, Swydd Efrog, DU) i gynnal dadansoddiad NIR (is-goch agos) i bennu cynnwys Deunydd Sych (DM), Protein Crai (CP), Egni Metaboladwy (ME), Ffibr Glanedol Niwtral (NDF) a Lludw mewn gwndwn.
       


Ffigur 1 Lleoliadau cewyll atal pori ar draws y lleiniau: Porfa Barhaol (0), Glaswellt Amrywiol a Meillion (1), Aml-rywogaeth (2) a Rhygwellt Parhaol a Meillion Gwyn (3).

Allbynnau

Cyfanswm twf biomas llystyfiant porthiant

  • Fel y gwelir yn Ffigur 2, y llain glaswellt amrywiol a meillion a dyfodd y cyfanswm mwyaf o fiomas llystyfiant porthiant rhwng 29 Mai a 4 Rhagfyr 2024, sef 6534.8 kg DM/ha, gyda’r llain porfa barhaol yn tyfu’r cyfanswm lleiaf o fiomas llystyfiant porthiant yn ystod yr un cyfnod, sef 3618.1 kg DM/ha. Collwyd data wrth gymryd samplau i asesu ansawdd maeth ar 1 Hydref, felly nid yw twf mis Medi wedi’i gynnwys yn y canlyniadau.

Ffigur 2: Cyfanswm twf cyfartalog biomas llystyfiant porthiant (Kg DM / ha) rhwng 29 Mai a 4 Rhagfyr* ar gyfer pob un o’r lleiniau arbrofol; Rheoli (Porfa Barhaol), Llain 1 (Glaswellt Amrywiol a Meillion), Llain 2 (Aml-rywogaeth) a Llain 3 (Rhygwellt Parhaol a Meillion Gwyn). *Collwyd data o sesiwn dorri a phwyso 1 Hydref.

Twf trwy gydol y flwyddyn

  • Roedd twf ar ei uchaf ym mis Mehefin ar gyfer y llain glaswellt amrywiol a meillion a’r llain aml-rywogaeth, gyda thwf ar ei uchaf ym mis Gorffennaf ar gyfer y llain Rhygwellt Parhaol a Meillion Gwyn a’r llain porfa barhaol fel y gwelir yn ffigur 3.
  • Mae ffigur 4 yn cymharu’r ddau fis gyda’r galw mwyaf am borthiant ar y fferm, sef Mehefin a Gorffennaf, lle rhoddwyd y pwysau mwyaf ar y caeau a oedd yn rhan o’r arbrawf. Mae ffigur 4 yn dangos bod pob un o’r lleiniau a gafodd eu hail hau wedi tyfu dros 1500 kg DM/ha yn fwy o fiomas llystyfiant porthiant na’r llain porfa barhaol heb ei gyffwrdd, ac roedd y llain glaswellt amrywiol a meillion wedi tyfu mwy na dwywaith y biomas llystyfiant porthiant na’r llain porfa barhaol yn ystod y misoedd hyn.
     

Ffigur 3: Twf cyfartalog biomas llystyfiant porthiant (Kg DM / ha) rhwng 29 Mai a 4 Rhagfyr* ar gyfer pob un o’r lleiniau arbrofol; Rheoli (Porfa Barhaol), Llain 1 (Glaswellt Amrywiol a Meillion), Llain 2 (Aml-rywogaeth) a Llain 3 (Rhygwellt Parhaol a Meillion Gwyn).

* Collwyd data o sesiwn dorri a phwyso 1 Hydref.

Ffigur 4: Twf cyfartalog biomas llystyfiant porthiant (Kg DM / ha) ar gyfer misoedd Mehefin a Gorffennaf 2024 ar gyfer pob un o’r lleiniau arbrofol; Rheoli (Porfa Barhaol), Llain 1 (Glaswellt Amrywiol a Meillion), Llain 2 (Aml-rywogaeth) a Llain 3 (Rhygwellt Parhaol a Meillion Gwyn).

Ansawdd Porthiant

  • Roedd y dadansoddiad NIR (is-goch agos) porthiant ar gyfer yr holl is-samplau a gasglwyd ar 1 Hydref yn debyg iawn fel y gwelir yn nhabl 1.1. Fodd bynnag, fel y gwelir yn nhabl 1.0, roedd dadansoddiad o’r is-sampl a anfonwyd o’r llain aml-rwyogaeth ar 31 Gorffennaf yn dangos cynnwys egni metaboladwy uwch na gweddill y lleiniau ar 11.1 MJ/kg.

Tabl 1.0: Dadansoddiad o is-sampl llystyfiant ar gyfer pob llain.

Plot

DM %

D value

CP %

ME (MJ/kg)

NDF %

Ash %

Control - Permanent Pasture

19.4

61.9

17.5

9.7

49.5

7

Plot 1 - Diverse Grass and Clover

22.9

60.8

16.3

9.6

48.5

9

Plot 2 - Multispecies

19..13

70.8

17.4

11.1

45.4

9

Plot 3 - PRG and White Clover

20.1

67

17.5

10.5

40.9

9

Tabl 1.1:  Dadansoddiad o is-sampl llystyfiant ar gyfer pob llain. Cymerwyd y samplau ar 1 Hydref 2024

Plot

DM %

D value

CP %

ME (MJ/kg)

NDF %

Ash %

Control - Permanent Pasture

15.4

67.4

20.6

10.6

54.1

10.8

Plot 1 - Diverse Grass and Clover

17.1

65.1

20

10.2

48.2

9.3

Plot 2 - Multispecies

15.8

65.9

19.8

10.3

51.3

10.4

Plot 3 - PRG and White Clover

15.4

66.9

21

10.5

53

11.5

Camau nesaf

  • Bydd pob llain yn cael ei phori’n achlysurol gan famogiaid dros y gaeaf, gan ofalu i beidio â gor-bori, a bydd cewyll atal pori yn aros yn eu lle nes i’r gwaith casglu data ailddechrau yn y gwanwyn (gan ddibynnu ar y tywydd a thwf).
  • Bydd y gwaith casglu data a wnaed yn 2024 yn cael ei ail-wneud yn 2025 gyda dadansoddiad o ansawdd maethol y porthiant yn cael ei wneud yn y  gwanwyn.