Bugeilus Fawr Diweddariad prosiect – Gorffennaf 2024
Mae'r prosiect yn y cyfnod casglu data a chyngor ar hyn o bryd. Gan weithio gyda’r ffermwr ac arbenigwyr yn y diwydiant, rydym yn cynnal asesiadau trylwyr i nodi a meintioli’r rhywogaethau pla cyffredin ar y fferm. Mae hyn yn cynnwys monitro poblogaethau pryfed, mynychder clefydau, a phlâu chwyn ar draws ardaloedd o laswelltir a thir âr. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am effeithiolrwydd gwahanol ddulliau rheoli ffermwrol, mecanyddol a biolegol y gellid eu rhoi ar waith ar fferm Bugeilus Fawr.
Camau Nesaf:
Bydd cam nesaf y prosiect yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o'r tymor tyfu ym mis Hydref 2024. Bydd yr adolygiad hwn yn asesu effaith unrhyw strategaethau rheoli plâu yn integredig (IPM) a roddwyd ar waith, yn gwerthuso eu heffeithiolrwydd, ac yn nodi unrhyw feysydd i'w gwella ymhellach.
Bydd strategaeth IPM lwyddiannus yn Bugeilus Fawr yn arwain at y canlynol:
- Gwell iechyd cnydau a da byw trwy leihau pwysau plâu, afiechyd a chwyn
- Llai o ddefnydd o blaladdwyr, gan arwain at well iechyd ecolegol ac arbedion cost posibl
- Mwy o fioamrywiaeth trwy feithrin poblogaethau pryfed llesol a hyrwyddo mecanweithiau naturiol i reoli plâu