Anna Jones
Y Trallwng, Powys
Dychwelodd Anna Jones i fferm ei theulu yn 2016 i weithio ochr yn ochr â’i thad, ac yn 2021, fe ymunodd ei phartner gyda nhw. Cyn hynny, treuliodd 10 mlynedd yn y diwydiant ceffylau, gan gystadlu’n genedlaethol mewn digwyddiadau a gweithio fel gwastrawd a hyfforddwr, gan ddysgu plant ac oedolion i farchogaeth. Cyfunodd y profiad hwn ei diddordeb mewn dysgu â theithio, yn enwedig ei hamser pan y bu’n rhedeg rhaglen farchogaeth mewn gwersyll yr haf yn America.
Fferm bîff a defaid yw fferm y teulu’n bennaf ar hyn o bryd. Mae Anna yn ymroddedig i barhau â'r etifeddiaeth deuluol a gwella arferion hwsmonaeth anifeiliaid.
Maent eisoes wedi sefydlu eiddo rhent gwyliau llwyddiannus gyda chynlluniau ar gyfer un arall, ac maent yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau unigryw sy'n cynnwys bwyta yn yr awyr agored.
Hoffai Anna gynyddu nifer y gwartheg yn y fuches a phesgi rhai gwartheg bîff ei hun fel y gall werthu ei bocsys cig eidion ei hun.
Ei nod yw arallgyfeirio’r fferm ond ei chadw fel fferm weithredol hefyd o hyd.
Mae'n credu y bydd yr Academi Amaeth yn caniatáu iddi wneud cysylltiadau cadarn a gweld syniadau arloesol gan bobl eraill yn y diwydiant.
“Rwy’n gobeithio y bydd bod yn rhan o’r Academi Amaeth yn magu fy hyder yn yr hyn rwy’n ei wneud fel ffermwr ac fel menyw fusnes.”