Ben Williams, Glanbia/Leprinofoods
"Mae gan Ben Williams yrfa eang mewn amaethyddiaeth yn darparu ymchwil a datblygu ac arbrofion technolegau a phrosesau arloesol sydd wedi arwain at Dechnoleg Amaeth newydd. Yn ogystal â'r ymchwil sylfaenol, mae Ben wedi bod yn gyfrifol am ledaenu a dysgu ar draws nifer o sectorau amaethyddiaeth, gan gynnwys y sector moch a llaeth. Yn benodol, mae Ben wedi canolbwyntio ar systemau data a’r data sy’n deillio o Dechnoleg Amaeth, sut y gall fod o werth i ffermwyr a’r rhwystrau i fabwysiadu.
Gydag angerdd i weld y diwydiant yn llwyddo i gyflawni ei rwymedigaethau cymdeithasol o ran cynaliadwyedd, daeth yn Rheolwr Cynaliadwyedd ar gyfer Glanbia Cheese yn 2022 (Leprino Foods bellach), lle mae’n defnyddio dulliau newid ymddygiad i ysgogi datrysiadau ymarferol ar gyfer lleihau effaith y sector llaeth ar y blaned."