Iain Cox, Eco Studio
Mae profiad Iain Cox yn cynnwys helpu sefydliadau i roi cynaliadwyedd ar waith. Mae wedi gweithio gydag asiantaethau datblygu, llunwyr polisi, timau arwain, busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol ers dros 20 mlynedd i gyflawni prosiectau cynaliadwyedd sy'n cynhyrchu mantais fasnachol a ffrydiau incwm newydd gan ennill gwobrau, llywio polisi a chael sylw yn y cyfryngau ar hyd y ffordd.
Mae Iain yn gweithio’n bennaf gyda sefydliadau sy'n ymwneud â'r tir ar draws cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio yng Nghymru a thu hwnt i ddatblygu strategaethau, cynhyrchion a gwasanaethau sy’n fasnachol gadarn sy’n sicrhau canlyniadau amgylcheddol mesuradwy a chymdeithasol cadarnhaol i’w cleientiaid.
Mae'n ymgynghorydd, hyfforddwr a mentor busnes profiadol. Mae ganddo MSc mewn Gwneud Penderfyniadau Amgylcheddol ac mae'n ymarferydd cymwys mewn Ôl Troed Carbon a Dŵr ac Effaith Gymdeithasol. Mae’n cadeirio trafodaethau panel ar bynciau gan gynnwys cynaliadwyedd, arloesi, sero net a’r economi gylchol yn rheolaidd ac yn cymryd rhan ynddynt.