Proffil Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle sy'n cael ei ddarparu)
Rhif Cyfeirnod Mentro: 100
MANYLION Y TIRFEDDIANNWR
25-40 mlwydd oed
Siaradwr Cymraeg
Rydym yn rhedeg busnes llaeth sy'n lloia mewn bloc yn yr hydref, gyda ffocws ar borthiant a geneteg o ansawdd. Rwy'n bartner yn y busnes a dechreuais fel newydd-ddyfodiad fy hun sawl blwyddyn yn ôl. Mae gan y fferm barlwr newydd ac yn ddiweddar mae wedi buddsoddi mewn cladd storio silwair newydd.
Ein targedau dros y 5 mlynedd nesaf:
- Parhau i redeg busnes proffidiol
- Lleihau dibyniaeth y fferm ar fy mewnbwn yn unig
- Gwella geneteg ac allbwn y fferm
MANYLION Y FFERM
Lleoliad (tref agosaf):
Ger Llandeilo
Arwynebedd tir ar gael:
200 erw / 81 Ha
Seilwaith sydd ar gael:
Parlwr saethben, ciwbiclau ar gyfer yr holl wartheg godro, storfa slyri a chladdau silwair. Sied stoc ifanc â llawr slatiau. Crafwr robotaidd. System TMR a llwybrau porthiant ar gyfer mwyafrif y stoc
Da byw ar gael:
200 o wartheg godro
Peiriannau ar gael:
2 X dractor modern, peiriant torri gwair, peiriant chwalu gwair, wagen fwydo, tancer slyri
Llety ar gyfer un sy’n chwilio am gyfle:
Oes
Yr ardal leol:
Mae'r fferm drws nesaf i goleg Gelli Aur ac Aberglasne. Mae gennym fynediad da i Landeilo a Chaerfyrddin sy'n darparu'r holl gyfleusterau - siopau, ysgolion, gofal iechyd ac ati.
Cymuned Gymraeg ei hiaith gref.
MANYLION Y CYFLE
Math o gytuneb sy’n cael ei ystyried:
- Gweithiwr
- Partneriaeth
- Rydym yn agored i gyflogai neu bartner ac yn barod i roi lefel dda o gyfrifoldeb i'r person cywir
Nodweddion allweddol y mae'r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes:
- Ymroddedig
- Brwdfrydig
- Yn gweithio'n dda mewn tîm
- Hunan-daniol
- Cymdeithasol
- Person stoc brwd