Proffil y Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle sy'n cael ei ddarparu)
Cyfle cyffrous i gymryd yr awenau mewn menter arddwriaeth arbenigol sydd wedi’i hen sefydlu, gyda photensial clir i ehangu a llwybr clir tuag at denantiaeth yn yr hirdymor
Mae'r busnes hwn wedi'i ddatblygu dros 40 mlynedd i fod yn gyflenwr uchel ei barch o lwyni cyrens duon yn y DU, gan wasanaethu tyfwyr contract masnachol a bodloni safonau iechyd planhigion uchel ar gyfer marchnadoedd mawr, gan gynnwys cynhyrchu Ribena. Ochr yn ochr â chynhyrchu sefydledig, mae'r fenter yn lluosogi ac yn tyfu mathau newydd, gan ei rhoi mewn lle da ar gyfer datblygiad ac arloesedd parhaus.
Mae'r gweithrediad garddwriaethol presennol yn ymestyn dros 20 erw, gyda thir ychwanegol o fewn y daliad yn cynnig cyfle i ehangu’r arwynebedd i dyfu cynnyrch. Mae galw cynyddol yn y farchnad am blanhigion ffrwythau bach ar draws sianeli gwerthu manwerthu, cyfanwerthu ac ar-lein. Mae hyn yn creu potensial mawr i bartner brwdfrydig dyfu'r busnes ymhellach.
Mae perchennog y tir yn chwilio am olynydd brwdfrydig i weithio ochr yn ochr â nhw o dan gytundeb ffermio cyfran, gyda mentora strwythuredig a llwybr clir tuag at denantiaeth erbyn 2030.
Beth sydd ar gael
Tir ac ardal dyfu
- 20 erw o gynnyrch garddwriaethol ar hyn o bryd
- Tir pellach ar gael i ehangu
- Lleoliad ucheldir deniadol (800–1000 troedfedd)
Isadeiledd
- 2 dwnnel polythen
- Sied dorri bwrpasol
- Storfa oer
- Swyddfa
- Sied beiriannau/gweithdy/sied gemegol
Peiriannau
- 2 dractor a thractor bach
- Peiriant chwistrellu cae
- Peiriannau torri a thopio
- Peiriant torri cyrens duon
- Offer tyfu a rholer
- Peiriannau torri pwrpasol (i’w defnyddio yn y cae ac mewn sied)
Llety
Mae tŷ 3 ystafell wely gydag ystafell fyw, cegin a dwy ystafell ymolchi ar gael ar y safle, gyda mynediad da, ac mae wedi'i leoli 6 milltir o'r Gelli Gandryll.
Ar gyfer pwy fyddai’n addas
Byddai'r cyfle hwn yn addas i unigolyn, pâr neu deulu brwdfrydig sydd â phrofiad ymarferol o ddefnyddio peiriannau a diddordeb mawr mewn garddwriaeth fasnachol. Bydd y partner delfrydol yn flaengar, yn meddwl am fusnes, ac yn frwdfrydig i adeiladu ar fenter arbenigol sefydledig sydd â photensial i dyfu.
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen ‘mynegi diddordeb’ isod: