Pam fyddai Llyr yn fentor effeithiol

  • Magwyd Llyr ar fferm bîff a defaid deuluol ger Llambed. Yn 2016, cymerodd Llyr ofal fferm ger Llandysul gyda’i wraig a’i dri phlentyn. Mae’r fferm yn cynnwys hyd at 150 o wartheg a diadell o 200 o famogiaid. Gwerthir y gwartheg i gyd yn stôr trwy farchnadoedd lleol ac eir â’r ŵyn i Dunbia.
  • Er iddo dreulio’r rhan fwyaf o’i yrfa ym maes iechyd a diogelwch, mae Llyr wastad wedi cadw perthynas agos â’r sector amaethyddol trwy gadw ei anifeiliaid ei hun a rhoi cyfarwyddyd iechyd a diogelwch i ffermwyr a sefydliadau amaethyddol, yn ogystal â sicrhau eu diogelwch hwy a diogelwch eraill.
  • Ar hyn o bryd mae Llyr yn gweithio fel Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgynghorol yn gwasanaethu’r holl sectorau yn ymwneud â busnes gan gynnwys busnesau amaethyddol. Gyda 13 mlynedd o brofiad mewn rheoli iechyd a diogelwch, gall Llyr roi adborth diduedd ond adeiladol ac mae yn awyddus iawn i annog ffermydd Cymru i greu amgylcheddau gwaith mwy diogel.
  • Mae ei swyddi blaenorol yn y maes yn cynnwys gwaith o ran gweithredu polisi iechyd a diogelwch, ysgrifennu adroddiadau, darparu hyfforddiant, creu a chyfleu polisïau a gweithdrefnau, cadeirio cyfarfodydd, cyfathrebu gydag awdurdodau gorfodi ac ysgrifennu asesiadau risg.
  • Mae Llyr yn disgrifio ei hun fel unigolyn amyneddgar sydd â meddwl agored, nodweddion y mae’n gallu eu defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’n Ymladdwr Tân ac mae’n gweld y rôl o helpu pobl o bob cefndir yn un sy’n rhoi boddhad mawr iddo.
  • Yn gyfathrebwr rhagorol, mae Llyr yn gallu dangos ac annog trosglwyddo gwybodaeth trwy drafodaethau agored. Ag yntau wedi ei fagu ar fferm ac yn rhedeg un ei hun, mae gan Llyr ddealltwriaeth sylweddol a phrofiad mewn amaethyddiaeth ac iechyd a diogelwch.
  • Mae Llyr wedi cael budd o amrywiol wasanaethau gan Cyswllt Ffermio gan gynnwys Agrisgôp, cyrsiau hyfforddi a grantiau. Yn ddiweddar mae hefyd wedi cael cynnig lle ar raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth.

Busnes fferm presennol

  • Busnes ymgynghorol Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd a sefydlwyd yn 2017
  • Cadw gwartheg a defaid ar 150 erw
  • 150 o loeau llaeth wedi eu diddyfnu / gwartheg stôr
  • 200 o famogiaid magu Miwl Cymreig a Texel croes a 40 o stoc cyfnewid yn cael eu cadw yn flynyddol

Cymwysterau / llwyddiannau / profiad

  • 2005: BSc (Anrhydedd) Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad
  • 2008 - presennol:  Aelod o Grŵp Diwydiannau Gwledig y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH)
  • 2006 – 2014: Rheolwr Iechyd, Diogelwch, a Chyfleusterau Safle, Dunbia
  • 2011 - presennol: Ymladdwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a De Cymru
  • 2013: Hyfforddwr wedi ei Achredu'r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH)
  • 2013: Archwiliwr Arweiniol wedi ei Achredu, Systemau Rheoli Iechyd, Diogelwch a Rheoli
  • 2014 - presennol: Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, Prifysgol Aberystwyth
  • 2015: Diploma’r Bwrdd Arholi Cenedlaethol mewn Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (NEBOSH)
  • 2015 - presennol: Arholwr y Bwrdd Arholi Cenedlaethol mewn Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (NEBOSH)
  • 2017: Ymarferwr PRINCE 2: Rheoli Prosiect
  • 2018: Tystysgrif Diogelu Ymbelydredd, Radman Associates
  • 2019: Gwobrau am Ragoriaeth mewn Cefnogaeth Gymunedol a Pherfformiad Diogelwch Eithriadol a Chlodfawr (Grŵp Diogelwch De a Gorllewin Cymru)
  • 2019: Hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Cyswllt Ffermio

AWGRYMIADAU DA AR GYFER RHEOLI IECHYD A DIOGELWCH

‘Gofalwch bod plant yn cael eu goruchwylio ac yn gwybod am unrhyw broblemau diogelwch bob amser tra byddant ar y fferm.’

‘Rhaid i bawb sy’n gweithredu peiriannau, boed yn aelod o’r teulu, yn weithiwr amser llawn neu yn weithiwr achlysurol, gael eu hyfforddi yn llawn ar sut i weithredu’r holl beiriannau y mae’n ofynnol iddynt eu defnyddio fel rhan o’u gwaith’

‘Cyn i unrhyw waith gael ei wneud, rhowch wybodaeth am beryglon, risgiau a rhagofalon i weithwyr, aelodau o’r teulu, contractwyr ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â hynny.’

‘Trafodwch iechyd a diogelwch yn gyson; cynlluniwch eich gwaith ac arweiniwch trwy esiampl i bawb wybod bod iechyd a diogelwch yn bwysig.’

‘Wrth gynllunio i weithio gyda da byw, gwnewch yn siŵr bod yr adnoddau a’r offer yn ddigonol ac mewn cyflwr diogel. Meddyliwch a cheisio deall ymddygiad anifeiliaid a’r hyn sy’n creu straen iddynt. Mae anifeiliaid yn ymateb yn dda i batrwm pendant ac mae symudiad sydyn, sŵn mawr a goleuadau llachar yn eu dychryn.’