Pam fyddai Pippa yn fentor effeithiol

  • Datblygodd Pippa angerdd tuag at amaeth wrth iddi dreulio amser gyda’i thad a’i hewythr ar eu fferm tir âr yn Sir Gaerhirfryn. Daeth i Gymru yn 2005 i astudio amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd ati i wirfoddoli a gweithio ar nifer o ffermydd ledled Cymru. Mae hi’n byw gyda’i phartner ar fferm ger Machynlleth ac mae hi bellach yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â ffermio.
  • Yn ystod ei blwyddyn allan wrth astudio yn y brifysgol, bu Pippa yn gwirfoddoli ar un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n cadw moch, defaid a gwartheg. Arhosodd Pippa ar y fferm am ddwy flynedd ychwanegol a bu’n gyfrifol am y fenter moch yn y busnes. Roedd rôl Pippa yn cynnwys magu stoc bridio newydd, pwyso’r moch yn wythnosol, didoli stoc llai cynhyrchiol a rheoli’r genfaint yn gyffredinol o ddydd i ddydd. Yn ystod ei blwyddyn olaf o astudio, creodd ddiet ar gyfer y moch y gellir ei ddefnyddio ar draws y system, gyda 95% ohono yn dod o gnydau a allai gael eu tyfu gartref. Sicrhaodd Pippa bod anghenion dietegol y moch yn cael eu diwallu’n gywir drwy gysylltu â chwmni porthiant.
  • Ar ôl gadael y brifysgol, aeth ymlaen i sefydlu ei busnes ei hun sy’n rheoli tyddynnau a ffermydd ledled Cymru, gan gynnig gwasanaeth ategol yn bennaf. Rhoddodd hyn gyfle i Pippa, sy’n arbenigo mewn cadw moch, i ddatblygu ei gwybodaeth a’i hangerdd tuag at foch gan ddysgu am systemau da byw eraill hefyd.
  • Mae Pippa wedi gweithio ar nifer o brosiectau arallgyfeirio ar fferm ei phartner. Yn 2018, dechreuodd hi werthu amryw o gigoedd, megis cig dafad, hesbinod, porc, bacwn, bacwn dafad a chig eidion yn uniongyrchol. Ymhlith y cwsmeriaid mae siopau, bwytai a gwestai lleol, ond maen nhw hefyd wedi gwerthu cynnyrch i gwsmeriaid cyn belled â Lerpwl. Prynodd Pippa a’i phartner eu moch eu hunain ym mis Chwefror 2020, ar ôl ymchwilio’r farchnad yn drylwyr. Er eu bod wedi dechrau gyda 6 mochyn yn unig, roedd y galw yn sylweddol uwch na’r disgwyl ac erbyn diwedd y flwyddyn, byddant wedi magu 23 o foch pesgi gyda chynlluniau i gynyddu niferoedd ymhellach y flwyddyn nesaf.
  • O ganlyniad i’w phrofiad uniongyrchol ym mhob agwedd o gadw moch, gall Pippa gynnig cyngor i eraill o fewn y diwydiant, p’un a ydynt yn newydd i gadw moch neu eisoes yn cadw moch.

Busnes fferm presennol

  • Yn ffermio ar fferm defaid a bîff 700 erw ei phartner
  • Mae ganddynt 25 o foch pesgi, gyda chynlluniau i gynyddu i dros 40 y flwyddyn nesaf 

Cymwysterau/cyraeddiadau/profiad

  • 2018 – presennol: Rheolwr Fflyd a Swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • 2014 - 2018: Gweithrediadau coedwigaeth amrywiol, rolau cynaeafu a marchnata, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • 2009 a 2013: Cyhoeddi dwy erthygl yng Nghylchgrawn Country Smallholding - un am y diet moch a grewyd ganddi ac un arall am ei gwasanaeth ategol ar gyfer tyddynnau. Ysgrifennwyd y ddwy erthygl gan Liz Shankland
  • 2008 - 2013: Hunangyflogedig, yn cynnig gwasanaeth ategol i dyddynnau
  • 2005 - 2008: Gwirfoddolwr Fferm, Ymddiriedolaeth Genedlaethol 
  • 2005: HND mewn Amaethyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth

Awgrymiadau da ar gyfer llwyddiant mewn busnes:

  1. Bydd ymchwil, cynllunio a rhoi sylw i fanylder yn helpu mewn busnes llwyddiannus.
  2. Peidiwch â bod ofn didoli’n ddwys, mae hyn yn well yn y pen draw.
  3. Bydd credu yn eich hun a bod yn bositif yn mynd â chi yn bell, ond mae cefnogaeth yn hwyluso’r cyfnodau anodd.