Cyfle #858

Aberdâr / Merthyr Tudful

35 Ha / 85 erw

45 o Wartheg Duon Cymreig Pedigri sy'n magu

Cyfle #858

Proffil Darparwr

(amlinelliad o’r cyfle sy’n cael ei ddarparu)

 

Rhif Cyfeirnod Dechrau Ffermio: 858

Cwblhewch y ffurlen yma er mwyn ymgeisio am y cyfle heddiw: Ymgeisiwch heddiw am y cyfle
 

YNGLŶN Â PHERCHENNOG Y TIR

75+ oed

Siaradwr Cymraeg

Prynodd fy ngwraig a minnau’r fferm fell le i fyw a magu ein bechgyn yn yr 1970au.

Nid y fferm oedd ein prif weithgaredd ond cafodd y gwartheg eu gwella’n raddol a diddymwyd y cyrn drwy fridio. Mae gennym bellach fuches sydd wedi’i pholio’n naturiol, sydd, yn ein barn ni yn cyfateb i unrhyw fuches yn y brîd. 

Mae’r fuches bur yn cael ei ffermio ar sail fasnachol gennyf fi a’n mab, tra bod fy ngwraig yn gofalu am y swyddfa.

Pe bai fy ngwraig a minnau’n camu’n ôl o’r fferm, nid yw fy mab sydd dros 50 oed yn teimlo y gallai wneud cyfiawnder â’r fferm ar ei ben ei hun gan fod ganddo ymrwymiadau eraill ac mae arno angen partner arall.

Ein nod ar gyfer y 5 mlynedd nesaf: Camu’n ôl o reoli’r fferm o ddydd i ddydd.
 

YNGLŶN Â’R FFERM

Lleoliad (tref agosaf): Aberdâr / Merthyr Tydfil

Arwynebedd tir sydd ar gael: 35Ha / 85 erw gyda’r posibilrwydd o rentu’r tir mynydd os yw’r ceisiwr yn dymuno gwneud hynny.

Isadeiledd sydd ar gael h.y adeiladau, cyfleusterau trin a thrafod: Adeiladau fferm modern gyda digon o le ac mae’r cyfleusterau i gyd o dan do.

Da byw sydd ar gael: 45 o wartheg Duon Cymreig pur. Sefydlwyd 50 mlynedd yn ôl. Maent yn cynhyrchu teirw bob blwyddyn i safon uchaf.

Peiriannau sydd ar gael: Ystod lawn o beiriannau helaeth, gyda phob un yn beiriannau newydd neu bron yn newydd mewn cyflwr da.

Llety ar gyfer y Ceisiwr: Nid oes llety’n cael ei ddarparu gyda’r cyfle, ond ni fyddai’n anodd dod o hyd i dŷ yn yr ardal leol. 

Yr ardal leol: Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond yn agos iawn at ardal sydd â phoblogaeth ddwys gyda lle ar gyfer mentrau fferm ychwanegol. 
 

YNGLŶN Â’R CYFLE

Math o gytundeb sy’n cael ei ystyried: Agored i drafodaeth

Gofynion y rôl gan gynnwys y prif dasgau, cyfrifoldebau a’r sgiliau gofynnol: Y sgiliau gofynnol fyddai gallu gweithio gyda pheiriannau a gwartheg gan mai fferm wartheg yn unig yw hon. Byddai sgiliau gyda chyfrifiaduron a gwaith papur yn ymwneud â bridio gwartheg yr un mor bwysig. Mae angen i’r ceisiwr fod â diddordeb mewn geneteg y fuches er mwyn parhau gyda’r elfen bwysig hon o’r busnes.

Prif nodweddion y mae perchennog y tir yn edrych amdano mewn partner busnes: Unigolyn sydd ag angerdd dros Fridio Gwartheg yn ei holl agweddau/ym mhob elfen. Mae’r teulu wedi gwneud llawer o waith gyda geneteg y fuches i wella’r gwartheg, drwy gynnal profion DNA ac maent wedi cynhyrchu gwartheg Pold (gwartheg heb gyrn yn naturiol). Rhaid i’r ceisiwr fwynhau’r rhan hon o’r fuches er mwyn gwella’r fuches ymhellach fyth.