Cymharu technegau cadw sudd bedw ffres yng Nghymru ar gyfer ei ddefnyddio mewn cynnyrch artisan gan fusnesau lleol

Mae’r Ystadegau Coedwigaeth ar gyfer 2019 yn dangos mai’r fedwen yw’r rhywogaeth llydanddail fwyaf cyffredin yng Nghymru, gan gwmpasu tua 2,000 ha o Ystad Coedwigaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru (CNC) ac 11,000 ha o goetir preifat, y mae llawer ohono ar ffermydd. Gan nad yw’r coed hyn yn cael eu tyfu ar gyfer eu pren, maent yn ffynhonnell bosibl o fathau eraill o gynnyrch (ac eithrio pren), fel sudd bedw.

Mae sudd bedw yn cynnwys ychydig o siwgr y gellir ei droi’n surop, yn debyg i surop masarn. Yn Alaska a Chanada mae surop bedw yn cael ei gynhyrchu ar raddfa fach ac yn cael ei ystyried yn gynnyrch arbenigol sy’n gallu gwerthu am hyd at bum gwaith yn fwy na phris surop masarn. Mae’r pris uwch hwn yn rhannol oherwydd bod sudd bedw yn cynnwys hanner y siwgr sydd mewn sudd masarn felly mae angen mwy o sudd i’w gynhyrchu, ond mae ei gyfansoddiad hefyd yn wahanol i sudd masarn gan roi blas unigryw iddo.

Y prif rwystr rhag cynhyrchu sudd bedw yn fasnachol yw’r ffaith ei fod yn dirywio’n gyflym iawn ac mae ganddo oes silff o 24 awr yn unig ar 5ᵒC. Mae angen ei drin yn syth ar ôl ei dapio o’r goeden i’w wneud yn fwy sefydlog ar gyfer ei storio a’i gludo cyn ei brosesu oddi ar y safle mewn ceginau masnachol. Byddai dileu’r rhwystr hwn yn y farchnad yn ystod y cyfnod cynaeafu yn galluogi coedwigwyr a ffermwyr i ystyried surop bedw fel dewis hyfyw wrth arallgyfeirio. 

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal ar bedwar safle yng Nghymru a bydd yn canolbwyntio ar dri dull cynhyrchu gwahanol gan ddadansoddi pa ddull yw’r mwyaf effeithiol ar gyfer troi sudd bedw yn sudd crynodedig ar raddfeydd cynhyrchu gwahanol.

  • Stôf goed yn yr awyr agored: Mae’r sudd yn cael ei ferwi mewn padelli anweddu i greu hylif siwgr â chrynodiad is nag 20%.
  • Osmosis Gwrthdro: Mae’r sudd yn cael ei wthio drwy bympiau gwactod a hidlyddion osmosis micro-fandyllog sy’n troi’r sudd yn hylif siwgr â chrynodiad o tua 15%.
  • Wrn: Mae wrn trydan thermostatig yn cynhesu’r surop ac yn ei droi yn hylif siwgr â chrynodiad is nag 20%. 

Bydd y dulliau hyn yn cael eu cymharu o safbwynt y nodweddion canlynol:

  • Costau cyfalaf sefydlu 
  • Amser cadw i gynhyrchu hylif crynodedig o’r sudd
  • Logisteg
  • Costau gweithredu – costau tanwydd yn benodol
  • Ansawdd y cynnyrch e.e.  cyfanswm y cynnwys siwgr, lliw a blas 

Y treial hwn fydd y cyntaf yng Nghymru i ganolbwyntio’n benodol ar gynhyrchu sudd bedw a’r gobaith yw y bydd yn cynnig arweiniad ar ddulliau o dapio coed bedw a chadw’r sudd yn syth ar ôl ei gynaeafu. Gallai hefyd godi ymwybyddiaeth pobl am gyfleoedd incwm posibl o’r coetiroedd, heb fod yn seiliedig ar bren.