Canolbarth Cymru
- Man codi, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
- Teulu Powell a Laura Warren - Caebanal
- Teulu Rees-Jones- Wholehouse Farm
- Barns at Brynich
- Cascave Gin
Lisa Powell a'r teulu, Caebanal
Mae Powells Farm Wales wedi’i leoli yn nyffryn hardd Maesyfed. Ochr yn ochr â’i rôl fel swyddog datblygu Cyswllt Ffermio, mae Lisa, ei gŵr, Haydn, a’u tri o blant, yn ffermio ar eu fferm bîff a defaid ar yr ucheldir. Mae’r teulu Powell wedi bod yn ffermio yma ers 1974 a thros y blynyddoedd maen nhw wedi ychwanegu at dir y fferm i greu busnes fferm cynaliadwy i baratoi ar gyfer y genhedlaeth nesaf, gan fagu gwartheg bîff a defaid â lles uchel ar laswellt. Caiff y ddafad Miwl Cymreig ei chroesi â hwrdd Texel neu Suffolk i gynhyrchu oen gorffenedig o safon a werthir yn y farchnad da byw leol. Rhoddir y buchod croes Saler a Limousin i darw Charolais a chaiff y lloi eu magu fel stôr neu eu pesgi yn dibynnu ar y farchnad a phrisiau porthiant. Gosodwyd tyrbin gwynt yn 2012 gan greu ffrwd incwm ychwanegol ac yna, yn 2020, arallgyfeiriodd y fferm i fenter Pwmpenni Dewis Eich Hun (PYO) a Phrofiad Fferm Calan Gaeaf. Mae'r profiad casglu pwmpenni yn parhau i ddatblygu ac yn dod â rhywbeth newydd i ymwelwyr bob blwyddyn. Mae gwahanol syniadau wedi’u treialu dros y blynyddoedd diwethaf a’r prosiect nesaf yw sefydlu safle glampio gyda phebyll ‘Bell’ a chaniatáu i ymwelwyr ymgolli mewn profiad fferm.
Laura Warren
Yn ymuno â Lisa fydd ffrind agos iddi a chyd-ffermwraig, Laura Warren. Mae Laura’n ffermio’n llawn-amser gyda’i gŵr ar dyddyn ger Llanandras, ar gyrion Coedwig Maesyfed. Mae’r fferm yn canolbwyntio ar fagu lloi ochr yn ochr â chadw diadell fechan o ddefaid, gan gynnwys diadell gofrestredig o Ddefaid Mynydd Du Cymreig. Maen nhw hefyd yn rhedeg llety cwt bugail. Dechreuwyd magu lloi ar y fferm yn 2020, gan ddefnyddio system fwced Holm & Laue. Mae lloi yn cyrraedd y fferm yn 3 wythnos oed neu’n hŷn, gan adael fel diddyfnwyr yn 4/5 mis oed. Mae’r rhan fwyaf o’r lloi yn fridiau godro croes ac ar gontract. Mae tasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys bwydo llaeth, taenu gwasarn, brechu, pwyso, profi am TB a sbaddu gyda’r milfeddyg.
Kayleigh Rees-Jones a'r Teulu – Wholehouse
Mae yna lawer o hwyl, cariad a rhyddid yn Wholehouse. Profwch fusnes yng nghanol ardal Bannau Brycheiniog lle mae teulu a chynaliadwyedd wedi'u gwreiddio'n ddwfn. Mae Kayleigh a'i theulu yn rhedeg fferm ddefaid Adfywiol a phenderfynwyd arallgyfeirio yn 2021. Ochr yn ochr â'r fferm, maen nhw bellach yn darparu llety gwyliau moethus, lleoliad priodas unigryw, a maes chwarae antur epig i gerddwyr cŵn.
Brynich Barns
Busnes teuluol bach yw Brynich, sydd wedi bod yn y teulu ers 1966, gan ddechrau bywyd fel fferm deuluol ac esblygu dros y blynyddoedd i fod y busnes a welwch chi heddiw. Mae’r brawd a’r chwaer, Mark a Cath, yn dal i fod yn berchen ar fferm Brynich ac yn ei rhedeg gyda gwraig Mark, Becca, a thîm o staff ymroddedig. Gellir archebu'r Barn ar gyfer priodasau, digwyddiadau, cyfarfodydd ac encilion. Rydyn ni hefyd yn cynnig llety godidog yn ein bythynnod hunanarlwyo, gyda digonedd o le y tu allan mewn lleoliad delfrydol. Ar fferm Brynich, rydyn ni’n ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn gwneud pob ymdrech i reoli ein tir mewn ffordd sy’n gwarchod ein bioamrywiaeth. Ar ddiwedd 2020, fe wnaethon ni blannu 10,000 o goed ar y fferm i wella cynefinoedd bywyd gwyllt.
Cascave Gin
Ganed Cascave Gin, menter deuluol yn y bôn, dros wydraid o G&T (beth arall?). Fe'i sefydlwyd gan fam a dwy ferch gyda'r nod o greu profiad sy'n cyfleu hanfod Bannau Brycheiniog. Mae Cascave Gin wedi’i leoli ar fferm deuluol bîff a defaid organig ger Aberhonddu. Ar hyn o bryd, mae portffolio Cascave yn cynnwys tri jin: Y Premium Dry Gin a’r Cave-Aged Gin ac yn fwy diweddar y Stormy Gin newydd. Yn ogystal â'r jin, mae gan y teulu Davies amrywiaeth o eiddo twristiaeth sy’n cynnwys bythynnod eco, trawsnewidiadau ysgubor a ffermdai traddodiadol Cymreig ar y fferm.