Cilthrew: Diweddariad ar y prosiect - Hydref 2023
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal mewn un cae 3ha (7.4 erw) unigol, a elwir yn ‘Mynydd Bach’.
Mae nodweddion y cae’n amrywio, ond yn gyffredinol:
- mae’n wynebu’r dwyrain
- mae’n cynnwys cleibridd, sy’n fas mewn mannau
- uchder yn amrywio o 124m (406 troedfedd) ar y pwynt isaf i 175m (574 troedfedd ar y pwynt uchaf.
- mae rhediad y llethr yn amrywio yn y cae, 62.5% ar ei fwyaf serth, fel y gwelir yn Ffigur 1
- mae’n cynnwys trac heb gerrig sy’n rhedeg ar draws canol y cae, o’r dwyrain i’r gorllewin
Ffigur 1. Map topograffig yr Arolwg Ordnans (Mynydd Bach yn y canol).
Dadansoddiad o’r pridd
Defnyddiwyd canlyniadau dadansoddiad pridd o fis Tachwedd 2022 ar gyfer cae Mynydd Bach i gyd (Tabl 1) gan yr ymgynghorydd fferm Marc Jones i roi argymhellion o ran maetholion i gywiro pH a mynegai P a K yn ôl yr angen yn ystod y prosiect fel y nodir isod. Gwasgarwyd calch amaethyddol ar y cae cyfan ar gyfradd o 5 t/ha (2 t/erw) yn ystod gwanwyn 2023, a ddylai fod wedi bod yn ddigon er mwyn cynyddu’r lefel pH i 6.2 sy’n addas ar gyfer gwyndonnydd glaswellt a meillion.
Tabl 1. Canlyniadau dadansoddiad pridd Mynydd Bach ac argymhellion o fis Tachwedd 2022
Triniaethau’r prosiect
Mae chwe thriniaeth wahanol wedi cael eu sefydlu, gan gynnwys 3 gwahanol gymysgedd o hadau, ac mae pob cymysgedd wedi cael ei dreialu gyda ffwng mycorhisol a rhisobacteria a hebddynt.
Cafodd y cynnyrch a oedd yn cynnwys ffwng mycorhisol arbwsciwlaidd a’r rhisobacteria sy’n hybu twf planhigion eu cymysgu gyda’r hadau cyn hau. Nod y cynnyrch hwn yw cynyddu argaeledd N a P gan hefyd wella’r gallu i wrthsefyll sychder. Mewn arbrofion cyfyngedig, mae wedi dangos cynnydd o hyd at 25% mewn cynhyrchiant gwndwn glaswellt.
Mae’r triniaethau a’r mathau o wndwn sy’n cael eu profi i’w gweld yn Ffigur 2.
Ffigur 2. Manylion y math o wndwn a’r driniaeth
Cymysgedd hadau
Mae manylion yr amrywiaeth o hadau a gafodd eu cynnwys yn y cymysgeddau hadau uchod i’w gweld yn Nhabl 2a, 2b, 2c, 2d, 2e a 2f.
Tabl 2a. T1; Gwndwn traddodiadol rhygwellt parhaol a meillion
Tabl 2b. T2; cymysgedd o godlysiau a pherlysiau (dim glaswellt)
Tabl 2c. T3; gwndwn aml-rywogaeth amrywiol
Tabl 2d. T1+; Gwndwn rhygwellt parhaol a meillion traddodiadol a chymysgedd ffwng mycorhisol a rhisobacteria (SR2)
Tabl 2e. T2+; cymysgedd o godlysiau a pherlysiau (dim glaswellt)
Tabl 2f. T3+; gwndwn aml-rywogaeth amrywiol + SR2
Trefn y cae
O ganlyniad i’r amrywiaeth o nodweddion yn y cae, defnyddiwyd dyluniad blociau a ddewiswyd ar hap, fel y gwelir yn ffigur 2, i sicrhau arbrawf teg, gyda phob un o’r chwe thriniaeth yn cael eu hailadrodd deirgwaith ar draws y cae. Mae pob plot yn 0.0729 ha (sgwariau 27m x 27m) o leiaf, gyda pharthau clustogi o 2m o leiaf rhwng pob plot i atal ffwng neu facteria rhag lledaenu o’r plotiau wedi’u trin i’r plotiau heb eu trin.
Ffigur 3. Y 18 plot
Asesiad cychwynnol o’r cae cyfan
Cynhaliwyd asesiad o’r pridd gan ddefnyddio’r fethodoleg VESS a chyfrif pryfed genwair cyn sefydlu’r cnwd i roi sylfaen o ran asesiad a bioleg y pridd ar 21/08/23.
Sefydlu’r cnwd
Cymerwyd y camau canlynol er mwyn sefydlu’r cnwd:
- 2 Medi 2023 – Dinistrio’r borfa bresennol gan ddefnyddio Glyffosad ar y gyfradd a argymhellir.
- 7 Medi 2023 – Torri ardaloedd gyda glaswellt a gwellt hirach i leihau faint o ddeunydd planhigion marw sy’n pydru a fyddai’n gostwng lefel pH ar y wyneb.
- 7 Medi 2023 – Defnyddiwyd oged bigau i waredu’r gwellt a’r glaswellt a dorrwyd.
4. 13 Medi 2023 – Ychwanegu gwrtaith er mwyn sefydlu’r cnwd ar gyfradd o 400kg/ha o 15:15:15 ynghyd â 50kg/ha o gynnyrch Triple Superphosphate (TSP 47%)
5. 14 Medi 2023 – Drilio hadau’n uniongyrchol ar y gyfradd hau a argymhellwyd ar gyfer pob plot (fel y nodir yn Ffigur 2), ynghyd â phelenni atal gwlithod ar y gyfradd a argymhellwyd gan ddefnyddio’r peiriant Moore Uni-drill.
6. 14 Medi 2023 – Defnyddiwyd peiriant rholio Cambridge i gyfuno, er mwyn sicrhau cyswllt da rhwng y pridd a’r hadau
Er bod pob plot i’w weld yn sefydlu’n dda yn y lle cyntaf, cafwyd newid yn y tywydd gan ddod â thymheredd oerach a mwy o law ym mis Hydref 2023, ac arafu twf.