Cilywinllan Diweddariad prosiect – Medi 2023

Mae tri chae 2.2 - 2.7 hectar, a oedd yn cael eu rheoli un tro fel un cae a gafodd yr un driniaeth, wedi'u rhannu'n 6 llain ar gyfer y prosiect. Ymgymerwyd â’r gweithrediadau cae canlynol:

  1. 30 Awst 2023 - Llain 1 wedi ei haredig a'i thrin
  2. 30 Awst 2023 -  Dinistriwyd y porfeydd presennol yn is-leiniau 2a a 3a gan ddefnyddio Glyffosad ar y gyfradd a argymhellir. Dinistriwyd y porfeydd presennol yn is-leiniau 2b a 3b gan ddefnyddio Glyffosad ar gyfradd is a chyfraddau a argymhellir o asid ffwlfig ac asid sitrig. Taenwyd Calciprill hefyd ar gyfradd o 200 kg/erw (494.21 kg/ha) a 100 kg/erw (247.11 kg/ha) o 05:24:24 ar gyfer sefydlu ar gyfer pob llain.

3.    9 Medi 2023 - Drilio hadau yn uniongyrchol ar y gyfradd hadu a argymhellir ar gyfer lleiniau 2 a 3 gan ddefnyddio dril Vredo. Gwasgarwyd hadau ar led ar y gyfradd hadu a argymhellir ar gyfer llain 1. Cafodd pob llain ei rholio i’w sadio i sicrhau cyswllt da rhwng y pridd a’r hadau.

Cafodd y cymysgedd hadau canlynol ei hadu ar bob llain - 

  • Cymysgedd glaswellt gyda chymysgedd o rêp a meillion gwyn
  • Perlysiau cymysg, gan gynnwys Llyriad, Ysgellog a Gwyddlwyn Cyffredin
  • Codlysiau cymysg, gan gynnwys Meillion Sweden, cymysgedd Meillion Coch, Hopysen Goeg a Meillion Coch ‘Altaswede’

Gellir gweld y cyfraddau a’r amlrywogaethau yn Ffigyrau 1, 2 a 3  

Ffigwr 1. Cymysgedd glaswellt gyda chymysgedd o rêp a meillion gwyn

Ffigwr 2. Cymysgedd hadau perlysiau cymysg

Ffigwr 3. Cymysgedd hadau codlysiau cymysg

Cymysgwyd y tri chyfuniad yn dda ar y cyfraddau a argymhellir cyn hau.

Tra bod 3 is-lain wedi'u hau â hadau heb eu trin, heuwyd y 3 is-lain arall (ceir manylion isod) â hadau wedi'u cymysgu â brechiad ffyngau mycorhisol a rhizobacteria. Mae'r cynnyrch a ddefnyddir yn y treial hwn yn gynnyrch tebyg i raean sy'n cael ei gymysgu â'r hadau wrth ddrilio. Mae'r cynnyrch yn cynnwys ffyngau mycorhisol arbwswlaidd a rhizobacteria sy'n hybu twf planhigion (PGPR). Nod y cynnyrch hwn yw cynyddu argaeledd N a P a hefyd gwella goddefgarwch sychder. Mewn treialon cyfyngedig, mae hyn wedi dangos cynnydd o hyd at 25% mewn cynnyrch mewn gwndwn glaswellt.

Sefydlwyd y treial fel a ganlyn:

Llain 1a

Dull sefydlu

Chwistrellwyd y gwndwn gan ddefnyddio Glyffosad ar gyfradd is a chyfraddau a argymhellir o asid ffwlfig ac asid sitrig. Drilio hadau'n uniongyrchol gan ddefnyddio dril Vredo

 Cyfradd hadu

15 kg/erw (37.07 kg/ha)

Cyfradd brechlynnau

dim yn cael ei ddefnyddio

Llain 2a

Dull sefydlu

Wedi’i aredig, ei drin a'i hau yn y dull traddodiadol

Cyfradd hadu

15 kg/erw (37.07 kg/ha)

Cyfradd brechlynnau

dim yn cael ei ddefnyddio

 

Llain 3a

Dull sefydlu

Chwistrellwyd y gwndwn gan ddefnyddio Glyffosad ar gyfradd a argymhellir cyfradd lawn) a drilio’r hadau’n uniongyrchol gan ddefnyddio dril Vredo

Cyfradd hadu

15 kg/erw (37.07 kg/ha)

Cyfradd brechlynnau

dim yn cael ei ddefnyddio

Llain 1b

Dull sefydlu

Chwistrellwyd y gwndwn gan ddefnyddio Glyffosad ar gyfradd is a chyfraddau a argymhellir o asid ffwlfig ac asid sitrig. Drilio hadau'n uniongyrchol gan ddefnyddio dril Vredo

Cyfradd hadu

15 kg/erw (37.07 kg/ha)

Cyfradd brechlynnau

2 kg/erw (4.94 kg/ha)

Llain 2b

Dull sefydlu

Wedi’i aredig, ei drin a'i hau yn y dull traddodiadol

Cyfradd hadu

15 kg/erw (32.12 kg/ha)

Cyfradd brechlynnau

2 kg/erw (4.94 kg/ha)

 

Llain 3b

Dull sefydlu

Chwistrellwyd y gwndwn gan ddefnyddio Glyffosad ar gyfradd a argymhellir cyfradd lawn) a drilio hadau SR2 yn uniongyrchol gan ddefnyddio dril Vredo

Cyfradd hadu

15 kg/erw (37.07 kg/ha)

Cyfradd brechlynnau

2 kg/erw (4.94 kg/ha)

Camau nesaf:

Bydd pob llain yn cael ei bori’n ysgafn ddiwedd hydref 2023 a dechrau gwanwyn 2024. Bydd arsylwadau a gwaith casglu data yn ymwneud â’r caeau yn digwydd dros fisoedd yr haf ac i mewn i hydref 2024.