Clyngwyn Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024

  • Aseswyd yr amgylchedd dan do a chyflwr corff y gwartheg a chanfuwyd eu bod yn rhagorol.

  • Cafodd sampl o’r buchod eu pwyso i bennu eu pwysau aeddfed er mwyn helpu i dargedu pwysau heffrod yn fwy effeithiol, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y pwysau gorau posibl ar gyfer eu brîd, eu hoedran, a’u cyfnod datblygiad.

  • Mae'r rhaglen frechu ar gyfer y stoc ifanc wedi'i haddasu i wella amddiffyniad rhag niwmonia ar ôl bod dan do yn ystod eu gaeaf cyntaf.

  • Cynhaliwyd profion gwaed mwynol hybrin ar heffrod cyflo fel mesur sylfaenol a dangosodd ddiffygion mewn mwynau hybrin, gan gynnwys copr a seleniwm. Mae’r ddau hyn yn hollbwysig ar gyfer iechyd anifeiliaid, llwyddiant atgenhedlol, ansawdd colostrwm a llaeth, ac iechyd cyffredinol yr epil. Rhoddwyd bolws i bob heffer gyflo ar ôl samplu. Fe wnaeth pob heffer loia’n llwyddiannus ac maent yn godro’n dda. Dangosodd profion dilynol a gynhaliwyd deufis yn ddiweddarach gryn welliannau yn lefelau’r mwynau hybrin, gyda phob un yn yr ystod optimaidd.

  • Mae Clyngwyn yn monitro cetonau er mwyn nodi a mynd i’r afael â phroblemau metabolaidd yn gynnar, gan sicrhau gwell iechyd a chynhyrchiant i'r fuches.

  • Fe wnaeth statws mwynau hybrin yr heffrod wella’n sylweddol ar ôl rhoi bolws mwynol hybrin iddynt cyn lloia.

  • Y tymor nesaf, bydd amseriad y monitro a gweinyddu’r bolws yn debygol o gael eu symud ymlaen. Nod y dull rhagweithiol hwn yw atal diffygion a chefnogi iechyd a chynhyrchiant gorau posibl trwy gydol y flwyddyn.