Cornwal Uchaf - Diweddariad terfynol

Prif ganlyniadau

  • Magu profiad ymarferol gyda chydamseru heffrod a ffrwythloni artiffisial.
  • Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer monitro iechyd a ffrwythlondeb y fuches yn barhaus.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

Cornwal Uchaf

Gwneud yn dda

Angen gwella

Adolygu perfformiad

Oedran lloia am y tro cyntaf

25 mis

23-24.5 mis

24.5-30 mis

30-36 mis

Nifer sydd wedi lloia o fewn y 6 wythnos gyntaf

80

85-70%

70-50%

50-35%

Cyfradd gyfnewid y fuches

20%

14-16%

16-19%

19-22%

Lloi byw ar ôl 24 awr

100%

105-95%

95-85%

85-80%

Lloi a ddiddyfnwyd

94.2%

102-94%

94-84%

84-80%

Cefndir

Rhannwyd y fuches sugno Limousin yn ddau grŵp yn ystod yr haf ar fferm Cornwal Uchaf gyda hanner y fuches a phob un o’r heffrod yn rhedeg gyda’r tarw ieuengaf, a’r ail grŵp yn rhedeg gyda tharw hŷn.

Roedd pob un o’r 9 heffer a 50% o’r gwartheg yn wag ar ôl 12-15 wythnos. Mae Dylan a Gwion wedi penderfynu, yn hytrach na gwerthu’r heffrod hyn fel gwartheg stôr, byddant yn gwneud y mwyaf o’r hyn sydd eisoes ar gael ar y fferm ac yn beichiogi’r heffrod hyn drwy gydamseru a ffrwythloni artiffisial, gyda’r gobaith y byddant yn adlinio â chyfnod lloia’r fuches ar gyfer y tymhorau canlynol.
 

Diben y gwaith

Nod y prosiect yw:

  • Canfod unrhyw broblemau iechyd neu broblemau cudd gyda’r tarw neu’r heffrod a fyddai’n golygu eu bod yn wag ar ôl rhedeg gyda tharw am 12-15 wythnos
  • Datblygu rhaglen gydamseru i feichiogi’r heffrod ac i ymuno â thymhorau’r fuches sugno sy’n lloia yn y gwanwyn yn y dyfodol
     

Yr hyn a wnaed

  • Yn y lle cyntaf, cafodd gwaed yr heffrod ei brofi i sgrinio ar gyfer clefydau a diffyg mwynau.
  • Roedd lefelau copr tair o’r heffrod yn gymharol isel. Nid oedd yr un o’r heffrod yn dangos arwyddion nodweddiadol o ddiffyg copr, sef marc “sbectol” o amgylch y llygaid. Penderfynwyd defnyddio bolws elfennau hybrin yn yr heffrod i ddarparu ychwanegion am 6 mis. 
     

Tabl. 1- Amserlen ar gyfer cydamseru

Protocol PRID- Cornwal Uchaf 2024

Dyddiad

Amser

Gweithred

20/02/2024

10:00

Mewnosod y PRID a brechlyn 2ml GnRH (Ovarelin) – chwistrell yn y cyhyr

26/02/2024

10:00

Brechlyn 2ml Prostaglandin (Estrumate) - chwistrell yn y cyhyr 

27/02/2024

10:00

Tynnu’r PRID 

28/02/2024

18:15

Brechlyn 2ml GnRH (Ovarelin) - chwistrell yn y cyhyr

29/02/2024

12:30

Ffrwythloni artiffisial 

  • Cafodd y gwaith ffrwythloni artiffisial ei wneud gan dechnegydd profiadol.
  • Cafodd yr heffrod eu monitro’n ofalus ar ôl ffrwythloniad i gadw golwg am arwyddion o ofyn tarw.
  • Cafodd pob un o’r heffrod/gwartheg eu sganio 5+ wythnos ar ôl ffrwythloniad i ganfod y gyfradd feichiogi a llwyddiant y prosiect.

Canlyniadau

  • 7 out of 13 heifers conceived after AI, resulting in a 54% conception rate.
  • This result is average and is expected after one insemination date on an artificial synchronisation programme. 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

  • Dylai’r teirw ddeillio o fuches gyda statws iechyd uchel gyda gwerthoedd bridio tybiedig mamol da.
  • Dylai gwartheg fod mewn cyflwr da cyn bridio a dylid gwirio am arwyddion o endometriosis a allai effeithio ar ei ffrwythlondeb.
  • Dylai’r heffrod a ddewisir ar gyfer y fuches ddod o’r gwartheg gorau sy’n lloia gynharaf yn y bloc.
  • Dylai heffrod fod yn 14-16 mis oed ac yn 55-60% o’u pwysau llawn dwf cyn bridio.
  • Dylid ffrwythloni heffrod yn gyntaf er mwyn caniatáu mwy o amser i wella ar ôl lloia.
  • Mae cydamseru’r heffrod gan ddefnyddio PRID yn caniatáu ar gyfer cywasgu’r bloc ac yn arbed amser o ran canfod pan fo buwch yn gofyn tarw - fodd bynnag, mae cost ariannol yn gysylltiedig â hyn.
  • Dylai’r tarw fod gyda’r fuches am uchafswm o 9 wythnos.
  • Bydd sganio’r fuches yn gynt yn caniatáu ar gyfer gwell cywirdeb o ran dyddiad lloia ac er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â difa yn gynt.

Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.