Cwmcowddu Diweddariad ar y prosiect – Rhagfyr 2024

  • Proffilio Metabolaidd
    • Cwblhawyd gwaith proffilio metabolaidd cynhwysfawr mewn cydweithrediad â milfeddyg y fferm.
    • Mae’r canlyniadau’n darparu mewnwelediad allweddol i statws iechyd a maeth y fuches, gan greu sylfaen ar gyfer strategaethau rheoli wedi’u targedu. 
  • Diweddaru Meddalwedd y Parlwr
    • Diweddaru meddalwedd bresennol y parlwr i ganiatáu integreiddiad gyda’r giât wahanu.
    • Mae’r system bellach yn caniatáu ar gyfer dethol gwartheg yn fanwl gywir ar gyfer monitro, triniaeth neu addasu’r bwydo.
    • Disgwylir i’r gwelliannau olrhain data wella penderfyniadau a symleiddio gweithrediadau’r fferm. 
  • Adolygu’r Dogn
    • Cynhaliwyd adolygiad manwl o’r dogn presennol, gan ymgorffori canlyniadau’r dadansoddiadau silwair.
    • Nodwyd amrywiaeth yn safon y silwair, a gwnaed addasiadau i sicrhau’r cydbwysedd gorau rhwng egni a maetholion.
    • Bwriedir monitro’n barhaus i fesur effaith newidiadau i effeithlonrwydd bwyd, yn enwedig y defnydd o ddwysfwyd fesul kg/litr, a chynhyrchiant llaeth. 
  • Camau Nesaf
    • Monitro canlyniadau’r addasiadau i’r dogn a’r gwaith proffilio metabolaidd.
    • Datblygu sgiliau’r tîm ar ddefnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf a’r giât wahanu’n effeithiol.
    • Trefnu dadansoddiadau silwair dilynol ac adolygu mesurau perfformiad y fuches.