Cyfle i arbed amser ar ffermydd llaeth sy’n seiliedig ar borfa

Jamie McCoy, Swyddog Technegol Llaeth

 

Mae prosiect i wella traciau gwartheg ac isadeiledd pori wedi bod ar waith ar fferm arddangos Moor Farm. Mae’r ffermwr Andrew Rees, wedi bod yn treialu’r giât Batt Latch, a fenthycwyd trwy garedigrwydd KiwiKit. Mae’r giât yn cael ei bweru gan ynni solar ac wedi’i reoli gan amserydd i agor yn awtomatig er mwyn galluogi’r gwartheg i ddychwelyd i’r parlwr godro ar amser penodol, ac yn symud gyda’r gwartheg wrth iddynt bori o gwmpas y fferm.

O fewn 3 diwrnod o ddechrau defnyddio’r giât newydd, roedd pob un o’r gwartheg yn ymateb trwy ddychwelyd i’r buarth cyn gynted ag oedd y giât yn agor, yn barod i’w godro. Dywed Andrew fod y giât awtomatig yn arbed o leiaf 20 munud y dydd, a mwy ar y dyddiau pan fo’r gwartheg yn pori’r padogau pellaf. Dywedodd Andrew “Mae’r giât awtomatig yn rhoi mantais i mi, gan arbed yr amser sy’n cael ei dreulio’n eistedd ar y beic yn llosgi tanwydd ac yn rhuthro’r gwartheg arafach. Mae amser ychwanegol yn y bore’n golygu fy mod yn gallu cael paned o goffi, cynllunio fy niwrnod, a dal i allu godro ar amser. Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu cadw o fewn amserlen ar y fferm, gan fod y gwartheg yn dod i mewn amser godro, p’un ai ydym ni’n barod ai peidio!”

Er nad oes problem benodol o ran cloffni yn y fuches, mae’n cael ei ystyried yn arfer dda i alluogi’r gwartheg i gerdded wrth eu pwysau eu hunain yn hytrach na’u rhuthro, ac ar gyfer rhai o’r gwartheg, mae’n lleihau’r amser y maent yn ei dreulio’n aros ar y buarth gan nad yw pob un yn cyrraedd ar yr un pryd.

Mae’n anodd rhoi gwerth ar amser - mae rhai yn dweud na ellir ei brisio… fodd bynnag, os ydym yn ystyried arbedion o 20 munud/dydd ar gost o £10/awr, mae hynny’n gyfwerth â £1216 yn flynyddol, ac yn ad-daliad ar y buddsoddiad gwreiddiol o fewn wythnosau!