Cyflwyniad Prosiect Bronllwyd Fawr
Safle: Bronllwyd Fawr
Cyfeiriad: Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8HA
Swyddog Technegol: Gwawr Hughes
Teitl y Prosiect: Opsiynau cynaliadwy ar gyfer rheoli cloffni a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn diadell ddwys ar lawr gwlad
Cyflwyniad i'r prosiect:
Y ffactor allweddol ar gyfer rheoli cloffni mewn diadelloedd yw canfod defaid cloff a llunio diagnosis cywir, ac addasu gweithdrefnau rheoli er mwyn atal cloffni cyn bod angen triniaeth. Y nod yw sicrhau bod llai na 2% o'r ddiadell yn gloff (Teagasc, 2019), fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl cyflawni hyn mewn rhai diadelloedd. Amcangyfrifir y gall cloffni gostio rhwng £4-£14 y pen, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb achosion. Felly, mae'n hanfodol bod cloffni'n cael ei reoli a chadw lefelau mor isel â phosibl er mwyn cadw diadell gynhyrchiol a phroffidiol.
Mae cloffni yn parhau i fod yn broblem fawr mewn diadelloedd defaid yng Nghymru ac mae'n parhau i gyfrannu at faint o wrthfiotigau a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o achosion. Felly, mae'n hanfodol bod gweithdrefnau rheoli cynaliadwy’n cael eu rhoi ar waith i reoli cloffni a bod y defnydd o wrthfiotigau’n lleihau lle bo hynny’n bosibl. Ar hyn o bryd, mae dermatitis digidol defeidiol heintus (CODD) yn effeithio ar 35% o ffermydd Cymru (HCC, 2011).
Mae ffermwyr Bronllwyd Fawr, Gruffydd a Sion Thomas, yn awyddus i werthuso nifer yr achosion o gloffni yn eu diadell a darparu triniaeth effeithiol yn seiliedig ar ddiagnosis priodol. Bydd y prosiect yn ystyried opsiynau cynaliadwy ar gyfer lleihau a rheoli cloffni, yn ogystal â lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ar yr un pryd. Nod y prosiect hwn yw hyrwyddo arfer gorau o ran rheoli cloffni'n gynaliadwy mewn system ddefaid ddwys ar dir isel, fodd bynnag, mae'r egwyddorion cyffredinol yn berthnasol i bob system ffermio defaid.
Nodau ac Amcanion y Prosiect:
Prif nod y prosiect hwn yw canfod yr hyn sy’n achosi cloffni o fewn y ddiadell a llunio cynllun penodol i drin yr achosion presennol yn y lle cyntaf, ac yna i weithio tuag at leihau a rheoli’r broblem. Bydd y prosiect hwn yn darparu glasbrint ar gyfer systemau defaid dwys tebyg ar dir isel (sy'n cadw defaid dan do cyn ŵyna a thrwy gydol y cyfnod ŵyna) ar y dulliau mwyaf effeithiol a chynaliadwy o reoli cloffni, ond yn bwysicaf oll, sut i reoli’r broblem. Bydd y prosiect hefyd yn monitro'r defnydd o wrthfiotigau gyda'r nod o leihau'r defnydd.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:
- Lleihau nifer yr achosion o gloffni ar fferm Bronllwyd Fawr o 10% i <2% yn ystod cyfnod y prosiect.
- Lleihau sawl mg o wrthfiotigau a ddefnyddir fesul kg o ddefaid ar y fferm.
Llinell Amser a Cherrig Milltir: