Cyflwyniad Prosiect Cae Derw

Safle: Cae Derw

Cyfeiriad: Cae Derw, Rhyd y Cilgwyn Lodge, Rhewl, Rhuthun

Swyddog Technegol: Debbie Handley

Teitl y Prosiect: Arallgyfeirio i arddwriaeth a sefydlu menter casglu eich hun gan ddefnyddio’r dull dim turio

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Bydd yr astudiaeth achos hon yn dilyn y broses o ddatblygu prosiect arallgyfeirio garddwriaeth ar 1.2 erw o dir a ddefnyddiwyd yn flaenorol i dyfu cnydau ar fferm gymysg lle cedwir hefyd ddiadell o ddefaid. Rhennir y cae yn unedau ar gyfer ffrwythau meddal a ffrwythau coed, rhesi llysiau, gwelyau blodau a phwmpenni casglu eich hun.

Y prif amcan yw tyfu mor naturiol ac mor ecolegol â phosibl, gan ddefnyddio adnoddau lleol megis compost o Rhuthun a thail buarth o’r fferm drws nesaf. Gyda’r sefyllfa bresennol o safbwynt Covid-19, bydd datblygu menter casglu eich hun yn galluogi pobl i fod yn yr awyr agored a chysylltu â chynhyrchiant bwyd lleol. Y bwriad yw gwerthu’n uniongyrchol i’r gymuned leol drwy gasgliadau bocsys llysiau, drwy siop y pentref, y cigydd a’r swyddfa bost.

Bydd y busnes yn defnyddio’r dull dim turio sy’n amharu ychydig iawn ar fywyd y pridd, gan ganiatáu i ficro-organebau, pryfed genwair, a ffwng ffynnu. Yn ogystal â hybu gwell canlyniadau iechyd y pridd, mae hyn hefyd yn helpu i atal chwyn drwy beidio â dod â rhagor o hadau chwyn i’r golwg i egino. 

Yn ei hanfod, mae’r dull dim turio yn dda o ran cyflymdra, rhwyddineb a chynhyrchiant.

Caiff gwlân hefyd ei dreialu fel dull o atal chwyn. Gwelwyd bod gwlân yn effeithiol pan gaiff ei ddefnyddio mewn cymysgedd fel compost neu domwellt. Mae’n gynnyrch cynaliadwy, adnewyddadwy ac yn ddewis amgylcheddol-gynaliadwy yn lle mawn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae mentrau pwmpenni casglu eich hun yn dod yn fwyfwy poblogaidd fel ffordd o ennill incwm ychwanegol ac ymgysylltu â’r gymuned leol, a’r fantais yw na fydd arnoch ond angen llafur ychwanegol yn y tymor byr o amgylch mis Hydref. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 

Amcanion y prosiect:

Y nod yw defnyddio’r dull dim turio i sefydlu gardd farchnad ecolegol-gadarn, ariannol-hyfyw a fydd yn cynnwys ffrwythau, llysiau, cnydau salad a blodau, ynghyd â nifer fechan o goed ffrwythau a fydd yn gweithredu fel cysgod gwynt amaeth-goedwigaeth ac yn ychwanegu gwerth.

Caiff ymarferoldeb cynnig blodau parod a phwmpenni casglu eich hun ar gyfer Calan Gaeaf ei werthuso. 

Bwriedir hefyd cymharu gwlân gyda chardfwrdd fel sylfaen i atal chwyn.

Ffigur 1. Llun o waelod y parsel tir a ddefnyddir

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol:

Darparu gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth o’r:

  • Mewnbynnau llafur a’r costau
  • Proffidioldeb gwahanol gnydau/mentrau
  • Cymharu gwlân a chardfwrdd ar gyfer atal chwyn a chompostio
  • Ymrwymiad ac ymgysylltiad y cyhoedd/y gymuned
  • Mewnbynnau a deilliannau casglu eich hun

Llinell amser a cherrig milltir: 

  • Rhagfyr 2020 - Paratoi coleri paledi a gwelyau plannu. Plannu bylbiau blodau.
  • Ionawr 2021 - Ymgynghoriaeth ar gynllun y gwelyau a rhywogaethau ffrwythau coed. Profi’r pridd a mentoriaeth ar gynllunio’r gwaith plannu llysiau.
  • Chwefror 2021 - Datblygu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb cyn dechrau masnachu
  • Mawrth 2021 - Hau hadau a pharatoi’r ddaear ar gyfer plannu 
  • Ebrill 2021 - Dechrau’r gwaith plannu (os yw’r tywydd yn caniatáu)
  • Mai 2021 - Tyfu. 
  • Mehefin 2021 - Tyfu a chynaeafu’r cnydau cynnar. Dechrau’r tymor blodau casglu eich hun. 
  • Gorffennaf-Medi 2021 - Tyfu a chynaeafu. Blodau casglu eich hun a bocsys llysiau.
  • Hydref 2021 - Pwmpenni casglu eich hun. 
  • Rhagfyr 2021 - Adolygu’r flwyddyn dyfu a’r dulliau a ddefnyddiwyd.