Cyflwyniad Prosiect Cefnllan - Cymharu gwahanol ddulliau o ailhadu

Safle: Cefnllan, Llangamarch, Powys, LD4 4AA

Swyddog Technegol: Elan Davies

Teitl y Prosiect: Cymharu gwahanol ddulliau o ailhadu

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Cwestiwn cyffredin sy’n cael ei ofyn gan lawer o ffermwyr sy'n penderfynu ailhadu yw:
"Beth yw'r dull gorau o ailhadu i sefydlu porfa dda o laswellt a meillion?" Mae gan ffermwyr ddewis eang o ddulliau i sefydlu porfa, p'un a ydyn nhw’n seiliedig ar aredig neu drin ychydig ar y tir.

Mae rhai ffermwyr yn aredig wrth ailhadu, gan ei fod yn rhoi cyfle i wastatáu caeau, yn enwedig ar ôl gwaith adfer tir. Gall aredig hefyd helpu i wella draeniad y tir. Mae creu gwely mân a chadarn i’r hadau’n hanfodol er mwyn sefydlu porfa dda o feillion a glaswellt. Bydd aredig y tir yn helpu i wneud hyn, ynghyd â chladdu glaswellt a chwyn hŷn. Mae'n lleihau'r risg y bydd yr hadau’n methu â sefydlu gan fod lefel uchel o gyswllt rhwng yr hadau â’r gronynnau pridd a mwy o leithder ar gael. Hefyd, mae aredig yn helpu i ryddhau nitrogen naturiol o ddeunydd organig y pridd.

Mewn amgylchiadau lle nad yw aredig yn addas, mae gan ddulliau sy’n lleihau triniaeth i’r tir rôl i’w chwarae. Mae’r dulliau hyn yn ddelfrydol i’w ddefnyddio os yw'r tir yn cynnwys llawer o gerrig neu os oes craig yn agos at yr wyneb. Gan nad yw’r dull hwn yn amharu llawer ar y tir, mae'n bosibl pori o fewn 60 diwrnod mewn amodau delfrydol. Yn gyffredinol, mae'r dull hwn yn rhatach nag aredig ac mae'r pridd mwyaf ffrwythlon yn aros ar yr wyneb lle mae angen maetholion. Fodd bynnag, mewn systemau organig lle na chaniateir chwynladdwyr, rhaid cymryd gofal arbennig i sicrhau bod chwyn yn cael eu rheoli'n effeithiol drwy reolaeth o’r borfa.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cefnllan wedi dechrau rhaglen ailhadu helaeth, caiff 20 hectar ei ailhadu bob blwyddyn. Mae'r gwndwn newydd yn gynhyrchiol iawn yn y gwanwyn pan fydd angen i'r busnes wneud y gorau o'i laswellt. Byddai canfod y dull gorau a mwyaf cost-effeithiol o ailhadu’n fanteisiol iawn i'r fferm.

 

Amcanion y Prosiect: 

Cymharu gwahanol ddulliau o ailhadu, gyda'r nod o ganfod y dull gorau sy'n addas ar gyfer Cefnllan, ynghyd â'r dull mwyaf cost-effeithiol.

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol wedi eu gosod:

  1. Gwella llwyddiant y broses sefydlu
  2. Lleihau nifer y chwyn
  3. Gwella mesuriadau cynnyrch ac ansawdd yn y flwyddyn lawn gyntaf gan ddefnyddio cewyll cau allan
     

 

Llinell Amser a Cherrig Milltir: