Cyflwyniad Prosiect - Dyffryn Cothi

Mae silwair cnwd cyfan yn dod yn ddewis poblogaidd fel cnwd ar gyfer ffermwyr da byw sy’n dymuno amrywio’r  dewis sydd ganddynt o gnydau a dyfir gartref, o safbwynt porthiant ac o safbwynt y cylchdro cnydau. Gall silwair cnwd cyfan wella iechyd y rwmen, yn dibynnu ar y deunydd sych sydd ar gael, ac mae’r dyddiad pan dorrir y cnwd yn dylanwadu ar hynny (porthiant â chanran uchel o ddeunydd sych a starts neu borthiant â chanran isel o ddeunydd sych a chanran uchel o ffibr).  Mae hyn yn caniatáu iddo weithredu fel porthiant cydbwyso da pan gaiff ei gymysgu â mathau eraill o borthiant yn y deiet.

 

Tabl 1: Gwerthoedd ar gyfer gwahanol borthiant

Math o fwyd

Deunydd sych (%)

Egni metaboladwy (MJ/kg DM)

Protein crai (% mewn DM)

Starts (% mewn DM)

Silwair indrawn

28-35

10.8 – 11.7

8 -9

25 – 35

Silwair glaswellt – toriad cyntaf

22 – 32

10.5 – 11.5

11 – 15

 

Grawn cnwd cyfan

35 – 70

10 -11.5

9 – 17*

15 – 30

 

*Gallai protein crai fod yn nes at ochr uchaf y raddfa ar gyfer grawn a dyfwyd gyda chnydau eraill (e.e. pys, meillion, ffacbys) neu os bydd ychwanegion N yn cael eu defnyddio

 

Un o fuddion tyfu cnwd cyfan o’i gymharu ag indrawn yw’r cyfnod cynaeafu cynharach, sy’n golygu bod y cnwd yn barod i gael ei borthi ar ddechrau’r cyfnod cadw da byw dan do yn ystod y gaeaf. Mae’r tywydd ac amgylchiadau’r ddaear yn debycach o fod yn sychach oherwydd cynhaeaf cynharach, gan arwain at lai o gywasgu a rhigolau olwynion ar adeg y cynhaeaf, sy’n gallu bod yn broblem ar lawer o ffermydd yng Nghymru. Mae hyn yn golygu nad oes angen gwneud cymaint o waith i drin y tir cyn hau’r cnwd nesaf.  Mae cnwd cyfan yn cynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer systemau ffermio yng Nghymru, o ran y dewis o gnydau a’r dyddiad cynaeafu, ac mae hynny’n golygu bod y system yn fwy cydnerth. Fodd bynnag, pan ddefnyddir contractwyr i gynaeafu, ystyriwch ddefnyddio mathau sydd â nodweddion aeddfedu’n gynnar a lefelau uchel o ymwrthedd i glefydau, er mwyn osgoi cyd-daro â dyddiadau cynaeafu’r silwair ail doriad.

 

Pa gnwd grawn?

Mae ceirch, rhygwellt, rhygwenith, haidd a gwenith oll wedi cael eu defnyddio fel grawn cnydau cyfan. Yn y Deyrnas Unedig, caiff gwenith a haidd gaeaf eu defnyddio’n gyffredin oherwydd cyfanswm uchel y deunydd sych (tunnelli metrig fesul hectar) a gynhyrchir ganddynt. Y ffactorau sy’n dylanwadu ar y dewis yw cyfanswm y cynnyrch, caledwch y grawn, blasusrwydd a lle’r cnwd yn y cylchdro cnydau. Mae gwenith gaeaf yn gallu goddef sychder yn well na chnydau grawn eraill a gellir ei dyfu mewn amrywiaeth o fathau o bridd. Gellir hefyd ei dyfu am gyfnod hirach i gynhyrchu canran uchel o ddeunydd sych. Mae hyn oherwydd caledwch cymharol y grawn: gwead targed a gaiff ei ddisgrifio fel ‘Cheddar meddal’ yw’r gorau i gynhyrchu silwair cnwd cyfan wedi’i eplesu.

Mae hau rhygwellt o dan gnwd grawn sydd wedi’i hau yn y gwanwyn yn cynnig dewisiadau ychwanegol yn ddiweddarach yn y tymor. Wedi’r cynhaeaf, bydd y rhygwellt yn darparu porfa sy’n ddefnyddiol i orffen pesgi ŵyn. Y dewis arall yn y senario hwn yn tyfu cnwd haidd gwanwyn a hau rhygwellt ar ben sofl yr haidd ar ôl ei gynaeafu.   

 

Plâu a chlefydau posibl y dylid bod yn ymwybodol ohonynt:


Pryfed porfa - gall porfa laswellt sy’n cael ei dilyn gan gnwd grawn fod yn agored i niwed oherwydd bydd y pryf porfa yn dodwy wyau ar gnydau âr sydd â llai na phum deilen. Bydd pryfed porfa yn cynhyrchu tair cenhedlaeth o larfau bob blwyddyn ac maent yn gyffredin ym mhob glastir bron iawn. Mae’r larfau bychan yn bwyta eginyn canolog y planhigion gan achosi eu marwolaeth.
Cynrhon lledr - Mae larfau pryfed teiliwr yn bwyta gwreiddiau a choesynnau planhigion glaswellt, ar lefel y tir neu’n is na hynny. Gall ymosodiadau difrifol mewn glastir sefydledig arwain at golli mwy na 5 tunnell fetrig o ddeunydd sych fesul hectar, ac mae ymosodiadau mewn porfeydd sydd newydd eu sefydlu yn fwy tebygol o arwain at farwolaeth planhigion a methiant cnydau.
Larfau chwilod clicio (wireworm) - gallant fod yn broblem wedi porfa laswellt barhaol.
 

Ar hyn o bryd, ceir diffyg dulliau cemegol o drin pryfed porfa a chynrhon lledr, ond gellir trin hadau er mwyn amddiffyn cnydau grawn rhag larfau chwilod clicio.

Gwlithod - gallant fod yn broblem bob tro yr ail-hadir yn enwedig os bydd y tir yn sych - mae rholio ar ôl hau a’r defnydd o belenni gwlithod os bydd hynny’n ofynnol yn ddewis.
Fermin -  mae ymosodiadau ar fyrnau wedi’u storio yn aml yn broblem oherwydd y canran uchel o rawn sydd mewn byrnau, ac mae hynny’n eu gwneud yn atyniadol i fermin.

 

Bydd y prosiect hwn yn asesu a all cnydau cyfan fod yn rhan o’r cylchdro cnydau er mwyn ceisio rheoli costau cynyddol porthiant a brynir. Bydd yn ystyried a all defnyddio cnwd cyfan gynyddu cyfanswm y porthiant cartref a ddefnyddir yn nognau porthiant y gaeaf, a pha un ai a allai hyn wella gallu’r fferm i fod yn hunanddigonol. Caiff perfformiad haidd wedi’u hadu yn y gwanwyn â rhygwellt wedi’i hau o dan y cnwd ei gymharu â’r silwair rhygwellt arferol o borfa barhaol, a chaiff gwybodaeth ynghylch costau sefydlu, tyfu a chynaeafu ei chymharu. Yn ychwanegol, caiff gwerth porthiant y ddau gnwd ei gymharu, a chaiff dognau eu llunio yn unol â hynny, yn dibynnu ar y math o dda byw sy’n cael eu porthi. Caiff yr angen i brynu dwysfwydydd ei fonitro’n ofalus a llunnir adroddiadau ynghylch economeg y ddau gnwd.

 

Beth fydd yn digwydd:

  • Gwneir profion llawn o bridd y tir a gaiff ei ddefnyddio i dyfu’r cnwd cyfan a byddir yn creu cynllun rheoli maetholion ac yn asesu strwythur y pridd.  
  • Caiff cynllun agronomegol ei greu ar gyfer plannu’r cnwd cyfan a dewis y cnwd a’r math penodol sy’n addas ar gyfer y llecyn.  Rhennir y cae yn ddwy a chaiff haidd â rhygwellt wedi’u hau oddi tano ei dyfu yn un hanner a bydd yr hanner arall yn parhau yn borfa barhaol.  
  • Bydd agronomegydd yn cynnal archwiliadau rheolaidd i weld a oes unrhyw chwyn neu glefydau yn bresennol, a bydd yn argymell dulliau rheoli yn ôl y galw.
  • Â chymorth yr agronomegydd, caiff y cnwd cyfan ei gynaeafu yn ystod y cam tyfu priodol.  Gwneir byrnau mawr yn hytrach na storio’r silwair mewn clamp, a chaiff dewisiadau ynghylch ychwanegion silwair a storio priodol eu hystyried.   
  • Asesir ansawdd y silwair a chyfrifir gwerth maethol y cnwd cyfan a’r costau agronomegol llawn fesul cilogram o ddeunydd sych a fesul cilogram o brotein.

 (Ffynonellau: Astudiaeth Achos Ŵyn a Gwartheg Bîff AHDB 2016, Prifysgol Amaethyddol Harper Adams, Biotal UK)