Cyflwyniad Prosiect Esgair Gawr: Mesur ôl-troed carbon system gwartheg bîff a defaid yr ucheldir: Canfod cyfleoedd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) ar y fferm
Safle: Esgair Gawr
Cyfeiriad: Rhydymain, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2BH
Swyddog Technegol: Gwawr Hughes
Teitl y Prosiect: Mesur ôl-troed carbon system gwartheg bîff a defaid yr ucheldir: Canfod cyfleoedd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) ar y fferm
Cyflwyniad i’r prosiect:
Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig osod targed i ostwng 95% o allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) erbyn 2050, mewn perthynas â’r targedau a gynhyrchwyd yn 1990, yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, 2019). Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r targed hwn, ac wedi datgan yn ei chynllun cyflawni carbon isel, ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’ y bydd yn lleihau cynhyrchiant nwyon tŷ gwydr ymhellach er mwyn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 (Llywodraeth Cymru, 2019b). Oherwydd hyn, mae’n gyfrifoldeb ar bob sector i leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig. Y sector amaeth oedd yn gyfrifol am 12% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2016 (Llywodraeth Cymru, 2019a).
Mae systemau da byw yn ffynhonnell ac yn ddalfa i nwyon tŷ gwydr, a cheir cryn botensial i ddileu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer drwy ddal a storio carbon mewn priddoedd, coed a gwrychoedd ar ffermydd, gan gyfrannu at gydbwyso’r nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir.
Fferm gwartheg bîff a defaid tir uchel yn Nolgellau, Gogledd Cymru yw Esgair Gawr. Mae'r ffermwr, Emlyn Roberts, yn cydnabod y pwysau sy’n wynebu’r diwydiant, yn rhannol oherwydd targedau’r llywodraeth fel y rhai a grybwyllir uchod ond hefyd oherwydd galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gynhyrchion bwyd cynaliadwy, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd mesur effaith y fferm ar yr amgylchedd.
Amcanion y prosiect:
Prif nod y prosiect hwn yw mesur ôl-troed carbon system gwartheg bîff a defaid yr ucheldir: Yr amcan yw canfod faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir o weithgareddau’r fferm, yn ogystal â faint o garbon a gaiff ei ddal a’i storio er mwyn tynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer ar y fferm.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ym mha ardal ar y fferm y caiff allyriadau nwyon tŷ gwydr eu cynhyrchu gan geisio canfod cyfleoedd i liniaru’r nwyon tŷ gwydr i’r dyfodol. Er bydd y gwaith o weithredu a mesur y strategaethau lliniaru yn mynd y tu hwnt i oes y prosiect, nod y prosiect yw rhagweld effaith defnyddio strategaethau lliniaru penodol ar ôl-troed carbon y fferm i’r dyfodol. Bydd bwrw amcan o’r lefelau dal a storio carbon hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y fferm i’r dyfodol.
Y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Bennwyd:
Caiff dangosyddion perfformiad allweddol eu pennu ar ôl gorffen mesur yr ôl-troed carbon. Caiff meysydd i’w gwella eu nodi a chaiff dangosyddion perfformiad allweddol eu sefydlu gyda’r nod o leihau allyriadau yn y meysydd hyn.
Llinell Amser a Cherrig Milltir