Cyflwyniad Prosiect Fferm Talerddig

Safle: Fferm Talerddig, Talerddig, Llanbrynmair, Powys, SY19 7AW

Swyddog Technegol: Lisa Roberts

Teitl y prosiect: Opsiynau gwellt ar gyfer y sied ŵyna

 

Cyflwyniad i'r prosiect: 

Heb os, gwellt o gnydau grawn yw’r deunydd gorwedd mwyaf poblogaidd ar gyfer da byw. Mae’n eu galluogi i arddangos ymddygiad naturiol megis chwilota, ac mae bwyta a chnoi’r gwellt yn gallu annog gweithgaredd y rwmen a hybu iechyd y rwmen. Mae hefyd yn amsugno lleithder ac yn cadw gwres yn effeithiol. Fodd bynnag, mae'r pris yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar argaeledd cnydau. Mae gwellt cnydau rêp yn debyg i wellt o gnydau grawn, ond mae’n amsugno llai o leithder ac yn ymddwyn yn debyg i sglodion pren gan ei fod yn draenio’n rhydd. 

Mae Eilir Jones a’r teulu’n awyddus i archwilio p’un a oes unrhyw fuddion o ddefnyddio gwellt o gnydau rêp o’i gymharu â gwellt o gnydau grawn o ran iechyd mamogiaid yn y sied, yn enwedig yng nghyd-destun achosion o gloffni yn y ddiadell. Bydd y prosiect hefyd yn ystyried costau, defnydd o'r gwahanol fathau o wellt, a hefyd gwerth y tail buarth fel gwrtaith wedi iddo gael ei symud o’r sied.

 

Amcanion y prosiect:

Prif nod y prosiect yw gwerthuso'r gwahaniaeth rhwng gwellt cnydau grawn a gwellt cnydau rêp ar iechyd y ddiadell (yn enwedig nifer yr achosion cloffni), costau gwasarn a’i werth fel tail buarth ar ôl cael ei symud o’r sied. Gallai’r prosiect hwn chwarae rôl o ran lleihau’r angen i drin mamogiaid cloff, gan felly leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau ar y fferm.  

 


Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd

  • Lleihau nifer yr achosion cloffni pan fo’r defaid yn cael eu cadw dan do i <5 achos ym mhob 100 o famogiaid
  • Gostwng nifer yr achosion o fwrw’r llawes i lai nag 1%
  • Lleihau nifer yr ŵyn a gollir rhwng sganio a 48 awr ar ôl geni (wrth eu troi allan) i lai na 10% 

Ffigwr 1: Mamogiaid beichiog mewn sied ar Fferm Talerddig