Cyflwyniad Prosiect Gate Farm: Gwahanol ddulliau sefydlu o dros-hadu gan ddefnyddio cymysgeddau aml-rywogaeth a lleiafswm o driniaeth tir fel dull sefydlu ar gyfer defnyddio cnydau bresych fel cnwd toriad mewn gwyndonnydd

Safle: Gate Farm, Llandysul, Trefaldwyn

Swyddog Technegol: Simon Pitt

Teitl y Prosiect: Gwahanol ddulliau sefydlu o dros-hadu gan ddefnyddio cymysgeddau aml-rywogaeth a lleiafswm o driniaeth tir fel dull sefydlu ar gyfer defnyddio cnydau bresych fel cnwd toriad mewn gwyndonnydd

 

Mae Gate Farm yn fferm laeth organig 300 erw ger Aber-miwl, y Drenewydd sydd â buches yn lloea trwy’r flwyddyn, gyda thuedd tuag at yr hydref. Mae’r fuches yn cynnwys 170 o fuchod a 110 o stoc i ddod i’r fuches yn pori priddoedd sy’n draenio’n dda rhwng 500 a 1,000 troedfedd.

Mae eu llaeth i gyd yn cyrraedd statws dim gwrthfiotig yr holl anifeiliaid ar y fferm a thelir premiwm ychwanegol am hynny. Gwerthir y llaeth i OMSCo (Organic Milk Supply Coop). Cyfartaledd y fuches yw 6,500 litr, ac mae 4,500 litr yn cael ei gynhyrchu o borthiant.

Mae’r llwyfan bori tua 180 erw. Mae’r bloc silwair yn 100 erw ac yn cynnwys meillion coch, cymysgedd llysieuol a llyriad yn bennaf, sydd wedi gwella strwythur y pridd.

Nod Glenn Lloyd ar Gate Farm yw bod mor gynaliadwy â phosibl ac mae am dyfu cymaint o brotein â phosibl ar y fferm, gan leihau’r ddibyniaeth ar brotein wedi ei gludo i mewn.

Mae tyfu a defnyddio porthiant wedi ei dyfu gartref yn yrwyr allweddol ar gyfer cynaliadwyedd ar bob fferm dda byw, gan helpu busnesau fferm i ddod yn fwy cynhyrchiol a gwella eu statws amgylcheddol. 

Mae gwndwn o safon uchel, cynhyrchiol yn hanfodol. Bydd protein porthiant fel codau (meillion gwyn a choch) a llysiau (llyriad ac ysgellog) yn gwneud yn dda yn ein hinsawdd a’n systemau ffermio glaswelltir ac maent yn rhoi cyfle i leihau costau ymhellach yn ogystal â gwella ôl troed carbon y fferm a dod ag amrywiaeth i’r gwndwn. 

Erbyn hyn mae gwella’r borfa a’i adnewyddu heb ddefnyddio aradr yn faes allweddol sydd o ddiddordeb i osgoi colli carbon i’r atmosffer.

Nod y prosiect hwn yw cyflwyno mathau newydd o laswellt, codau a chymysgedd o lysiau i wella bioamrywiaeth y gwndwn a strwythur a ffrwythlondeb y pridd, i gynyddu’r cynnyrch a’r defnydd o brotein wedi ei dyfu gartref ar y llwyfan pori organig.

Bydd y prosiect yn cymharu tri dull gwahanol o adfywio’r gwndwn. Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso’r potensial i ddefnyddio cnydau bresych hybrid (croesiad rêp/cêl) fel cnwd i dorri’r patrwm wrth adnewyddu glaswelltir trwy’r dull o drin cyn lleied â phosibl.