Cyflwyniad Prosiect Gwern Hefin: Cost a budd magu eich heffrod llaeth eich hunain

Safle: Gwern Hefin, Llanycil, Y Bala

Swyddog Technegol: Simon Pitt

Teitl y Prosiect: Cost a budd magu eich heffrod llaeth eich hunain

 

Mae Gwernhefin ger y Bala yn cadw buches laeth trwy’r flwyddyn sy’n cael ei rhedeg fel buches lle prynir y stoc cyfnewid i gyd i mewn gyda’r holl fuchod yn cael teirw bîff, sy’n cael eu magu wedyn ar ddaliad ar wahân yng Ngheredigion. Bydd y stoc llaeth cyfnewid yn cael eu prynu yn y farchnad fel naill ai heffrod wedi lloea neu fuchod yn llaetha ac, o ganlyniad, mae’r fuches yn cael ei rhedeg fel un sy’n lloea trwy’r flwyddyn.

Mae Gwernhefin am symud tuag at fod yn fuches sy’n lloea yn y gwanwyn. Mae’n ffaith gydnabyddedig ei bod yn anodd prynu buchod neu heffrod sy’n iawn ar gyfer y system wrth brynu stoc cyfnewid i mewn.

Nod y prosiect hwn yw ymchwilio i gostau, manteision ac anfanteision magu heffrod ar y fferm mewn cymhariaeth â’u prynu i mewn. Trwy brynu stoc i mewn gellir cyflwyno afiechydon a rhinweddau genynnol is na stoc wedi eu geni a’u magu gartref. I rai, mae prynu stoc i mewn yn gadael iddyn nhw ganolbwyntio’n llwyr ar gynhyrchu llaeth ac aiff y porthiant ar y fferm i gyd i anifeiliaid cynhyrchiol a fydd yn cynnig elw ar fuddsoddiad yn gyflym wrth gael eu godro yn syth ar ôl dod o’r ocsiwn neu fferm y gwerthwr.

Daeth astudiaethau yn y gorffennol i’r casgliad y gall heffer gyfnewid gostio cyfartaledd o £1,800, gan amrywio o £1,000 i £3,000. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i gyfanswm costau a phroblemau ymarferol magu eich stoc cyfnewid eich hun, yn benodol i’r safle ffocws, mewn cymhariaeth â phrynu stoc cyfnewid i mewn. O ystyried y materion hyn, mae’r prosiect hwn yn bwriadu cyfrifo gwerth/cost defnyddio semen â’i ryw yn hysbys ar yr heffrod gorau a brynwyd i mewn i lunio buches gychwynnol gartref ynghyd â pha fanteision eraill y gall hyn eu dwyn i’r busnes yn y tymor hir.