Cyflwyniad Prosiect Llwynmendy: Y cydberthyniad rhwng pryfed genwair ac iechyd pridd, yn ogystal â gwerthuso bokashi (eplesu deunydd organig)

Safle: Llwynmendy, Llandeilo, Sir Gâr

Swyddog Technegol: Gwenan Evans

Teitl y Prosiect: Y cydberthyniad rhwng pryfed genwair ac iechyd pridd, yn ogystal â gwerthuso
bokashi (eplesu deunydd organig)

 

Amcanion y Prosiect:

  • Pennu lefel iechyd gyffredinol pob cae
  • Canfod ble mae unrhyw gydberthyniad rhwng niferoedd y pryfed genwair, tyfiant y glaswellt a’r nitrogen a chwalir
  • Gwerthuso buddion bokashi

Cefndir:

Mae iechyd y pridd yn hollbwysig ar gyfer ffermio cynaliadwy. Mae ymchwil wedi dangos y gall baw ffres pryfed genwair gynnwys hyd at bum gwaith yn fwy o nitrogen hygyrch, saith gwaith yn fwy o ffosfforws hygyrch, ac 11 gwaith yn fwy o botash hygyrch na’r uwchbriddoedd o’i gwmpas. Dan amgylchiadau delfrydol, gall poblogaeth iach o bryfed genwair brosesu tua 12 tunnell fetrig o bridd a deunydd organig mewn blwyddyn. Mae gan bryfed genwair rôl allweddol o ran cymysgu ac agregu sbwriel dail â phridd, a gwella strwythur y pridd a galluogi deunydd organig i ddadelfennu’n ficrobaidd yn well.

Mae gweithgarwch pryfed genwair iach yn cyflawni’r canlynol:

  • Gwella argaeledd maetholion
  • Gwella draeniad pridd
  • Gwella strwythur pridd
  • Gwella cynhyrchiant

Cyflwyniad:

Nod cyffredinol y prosiect fydd pennu lefel iechyd y pridd yng nghyd-destun nifer y pryfed genwair a chyfanswm deunydd organig pridd.

Yn ystod y prosiect hwn, byddwn yn asesu iechyd pridd holl gaeau pori Llwynmendy gan ddefnyddio Matrics Iechyd Pridd, y gellir ei weld ar y dde:

Bydd ail ran y prosiect yn ymwneud ag eplesu tail o'r sied gwartheg sych. Gelwir y broses yn ‘bokashi’ (‘deunydd organig wedi’i eplesu’ yn Siapaneg), sef proses sy'n debyg i silweirio cnydau porthiant. Mae compostio traddodiadol yn broses aerobig sy’n cynhyrchu gwres, sy’n golygu y caiff egni a maetholion gwerthfawr eu colli. Yn ychwanegol, mae compostio yn allyrru cyfanswm sylweddol o garbon. Wrth gompostio deunydd, collir 62% o gyfanswm ei fàs yn sgil anweddu, a 58% o’i ddeunydd organig (y mae 50% ohono yn garbon). Mae hynny’n golygu y byddai 10t o ddeunydd organig yn colli 3t o garbon. Fodd bynnag, yn ystod proses bokashi, collir 3% yn unig o’r carbon.

 

Dull:

Os rhoddir y micro-organebau gweithredol ar y tail cyn clirio’r sied, gall yr hydoddiant gymysgu’n drylwyr â’r tail wrth ei grafu’n domen. Yna, caiff y domen ei gorchuddio a’i silweirio’n dynn gan ddefnyddio llenni plastig a theiars (tebyg i greu claddfa silwair). Bydd y broses eplesu yn para hyd at wyth wythnos, pan fydd Rheinallt Harris, sy’n ffermio yn Llwynmendy, yn chwalu’r gwrtaith ar lain a ddewisir ar hap ar y cae pori. Cymerir samplau o’r tail cyn ei grafu allan o’r cwt ac wyth wythnos ar ôl ei drin, a chymerir samplau o domen o dail heb ei drin i gymharu’r maetholion.

Asesu iechyd pridd a chofnodi sgôr pridd

Rheinallt Harris o Lwynmendy yn chwalu micro-organebau gweithredol