Cyflwyniad Prosiect Parc y Morfa Farms Ltd (Trebover): Coeden benderfyniadau lloi a dyluniad ar gyfer sied lloi newydd

Safle: Parc y Morfa Farms Ltd (Trebover), Abergwaun

Swyddog Technegol: Simon Pitt

Teitl y Prosiect: Coeden benderfyniadau lloi a dyluniad ar gyfer sied lloi newydd

 

Un o elfennau craidd ffermio da byw yn llwyddiannus yw iechyd stoc ifanc a’r broses o fagu’r anifeiliaid. Mae stoc ifanc sâl sydd wedi’u magu’n wael yn gostus o ran cynhyrchiant gwael yn y dyfodol, costau milfeddygol uwch a chyfraddau marwolaeth uwch. Maent hefyd yn cynyddu ôl-troed carbon y fferm.

Bydd prosiect lloi Parc y Morfa yn edrych i ddatblygu ‘coeden benderfyniadau’ ar gyfer y lloi. Bydd hyn yn helpu ffermwyr trwy osod proses cam wrth gam i’w dilyn pan fo problem gydag iechyd llo heb reswm amlwg.

Bydd y prosiect yn archwilio ystod o dechnegau monitro ar gyfer canfod salwch yn gynnar, ynghyd â phrotocolau rheoli allweddol. Hefyd, bydd y goeden benderfyniadau yn ymdrin ag anghenion o ran siediau a syniadau ynglŷn â beth allai fod yn angenrheidiol wrth ystyried adeiladu o’r newydd. Bydd y goeden benderfyniadau yn edrych o safbwynt y ffermwr yn ogystal â gweithio gyda manylion ddylai fod ganddo wrth law. Y nod yw helpu ffermwyr pan fydd clefyd yn ymddangos ar y fferm er mwyn dangos y ffordd gywir o ddatrys y broblem. Yn gyffredinol, bydd protocolau hwsmonaeth a hylendid da ar waith bob amser a bydd y goeden benderfyniadau yn cyfeirio’r ffermwr at daflenni ffeithiau, cyngor ac awgrymiadau yn ymwneud â chlefydau penodol. Bydd y goeden benderfyniadau hefyd yn esbonio i’r ffermwr pryd y byddai angen siarad â’r milfeddyg ac yn rhoi syniad o’r profion y gellir eu cynnal a pha gynhyrchion all helpu. 

Bydd y prosiect yn ceisio codi ymwybyddiaeth o oblygiadau ariannol sy’n deillio o broblemau iechyd a’r costau gofal iechyd cynyddol o ran perfformiad gydol oes heffrod llaeth a lloi croes o safbwynt ansawdd a gwerth y carcas.