Cyflwyniad Prosiect Tŷ Coch: Sut i adnabod, rheoli a chael gwared ar glefydau rhewfryn mewn defaid.

Safle: Tŷ Coch

Cyfeiriad: Llanbadog Fawr, Brynbuga, Sir Fynwy

Swyddog Technegol: Elan Davies

Teitl y Prosiect: Sut i adnabod, rheoli a chael gwared ar glefydau rhewfryn mewn defaid.

 

Cyflwyniad i’r prosiect:

Mae clefydau rhewfryn, megis OPA (adenomadedd ysgyfaint defaid), clefyd Johne, MV (Maedi Visna), CLA (lymffadenitis crawnllyd) a Chlefyd y Ffin, yn arwyddocaol dros ben i ddiwydiant defaid y DU. Mae’r rhain yn glefydau sy’n dod i’r amlwg fel nifer fechan o achosion wedi’u heffeithio’n glinigol, a cheir nifer fwy o achosion is-glinigol yng ngweddill y ddiadell.

Mae’r clefydau hyn yn arwyddocaol iawn oherwydd y canlynol:

  1. Lles anifeiliaid- ar ôl dal y clefydau hyn, byddant yn farwol maes o law, er enghraifft, mae OPA yn arwain at gynhyrchu gormod o hylif yr ysgyfaint.
  2. Effeithiau ar gynhyrchedd yn sgil magu gwael, twf gwael ymhlith ŵyn, ac ŵyn yn pwyso llai ar adeg eu geni.
  3. Defnydd amhriodol o wrthfiotigau – yn aml iawn, rhagdybir fod niwmonia bacteriol cronig ar famogiaid tenau, a chânt eu trin â gwrthfiotigau.

Cafwyd sawl astudiaeth ynghylch mynychder y clefydau rhewfryn hyn, ond ychydig o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ynghylch buddion (o safbwynt costau) nodi a chael gwared ar y clefydau hyn ar ffermydd masnachol.

Yn ychwanegol, mae tagiau EID a meddalwedd electronig sy'n caniatáu i ddata defnyddiol gael eu cofnodi a’u defnyddio i wneud penderfyniadau rheolaidd am fridio yn adnoddau sydd ddim yn cael eu defnyddio’n ddigonol. Yn y prosiect hwn, rydym ni’n gobeithio amlygu buddion gwirioneddol defnyddio’r dechnoleg hon o safbwynt y fferm trwy gynorthwyo â phenderfyniadau bridio a monitro cynhyrchedd. 

Dros nifer o flynyddoedd, cafwyd cynnydd yng nghyfradd marwolaethau mamogiaid, a phriodolwyd hynny i Maedi Visna (MV). Fodd bynnag, yn haf 2020, cafwyd nifer uchel o achosion o fastitis a nifer o famogiaid yn datblygu cerddediad anarferol ac yn colli eu cyflwr ar yr un pryd. O ganlyniad, cafodd nifer sylweddol eu difa, ac roedd y gost gyffredinol i’r busnes yn sylweddol o ran y gyfradd uchel o anifeiliaid cyfnewid a methu difa oherwydd rhesymau ac eithrio MV (e.e. cyflwr traed gwael, cwymp y groth, oedran a magu’n wael).

Wrth sgrinio chwech o famogiaid tenau a gafodd eu difa, canfuwyd tri achos o glefyd Maedi Visna yn y ddiadell Miwls sy’n cynnwys 140 o famogiaid. Ar ôl profion ychwanegol ar chwech o famogiaid teneuach yn niadell Aberfield (sy’n cynnwys 130 o famogiaid), ni chanfuwyd unrhyw ddefaid wedi’u heintio. Nid yw’n hysbys beth yw ffynhonnell yr haint, a cheir awydd i ganfod i ba raddau mae’r haint wedi lledaenu, a pha un ai a yw’n bresennol yn y ddiadell Aberfield, sydd wedi’i rheoli ar wahân yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.

 

Amcanion y Prosiect: 

Nod y rhan hon o’r prosiect yw canfod faint o famogiaid yn y ddiadell Miwl sydd wedi’u heintio â MV a pha un ai a yw’n bresennol yn y ddiadell Aberfield, ac os felly, beth yw lefel yr haint. Byddai hyn yn cael ei gyflawni fel arfer trwy brofi gwaed yr holl famogiaid (270). Yn dibynnu ar faint o ddefaid wedi’u heintio a nodir, byddai anifeiliaid wedi’u heintio yn cael eu difa’n syth, neu’n cael eu rheoli fel grŵp ar wahân i leihau unrhyw ledaeniad ychwanegol. Byddai ail brawf gwaed o’r holl ddefaid yn y rhan o’r ddiadell sydd wedi’i heintio a sgrinio defaid a gaiff eu difa o’r ddiadell sydd heb ei heintio chwe mis yn ddiweddarach hefyd yn ddymunol.

Nod y prosiect yn y pen draw yw canfod a ellir cael gwared ar MV trwy wahanu grwpiau yn ofalus a phrofi gwaed. Os llwyddir i gael gwared ar MV o’r ddiadell, gellir difa ar sail oedran, cwymp y groth, magu’n wael a chloffni, a byddai iechyd a chynhyrchedd cyffredinol y ddiadell yn gwella. Mae gwir ddifrifoldeb a mynychder clefydau rhewfryn yng Nghymru yn anhysbys i raddau helaeth iawn, felly mae’r prosiect hwn yn cynnig potensial sylweddol o ran trosglwyddo gwybodaeth i gynyddu dealltwriaeth ffermwyr o’r clefydau amrywiol, a sut i’w nodi, eu rheoli a chael gwared arnynt. 

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Bennwyd:

Oherwydd natur y prosiect hwn, mae nodi dangosyddion perfformiad allweddol penodol ar gyfer y tymor byr yn anodd. Ar y cyfan, gwella cynhyrchedd a hirhoedledd fyddai buddion tymor hir gwaith i nodi, rheoli a chael gwared ar glefydau rhewfryn o’r ddiadell. Fodd bynnag, efallai na fyddai hynny’n amlwg am flynyddoedd lawer yn dilyn y gwaith hwn.

 

Llinell Amser a Cherrig Milltir: