Cyflwyniad Prosiect Ysgellog: Argaeledd microfaetholion ym mhridd glaswelltir: ei ran wrth hybu cynhyrchiant glaswellt

Safle: Ysgellog, Rhosgoch, Amlwch, Ynys Môn

Swyddog Technegol: Non Williams

Teitl y Prosiect: Argaeledd microfaetholion ym mhridd glaswelltir: ei ran wrth hybu cynhyrchiant glaswellt

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Mae angen cyfanswm o un ar bymtheg o elfennau ar gyfer maethiad planhigion, sydd yn cael eu galw fel arfer yn ficrofaetholion a macrofaetholion (Teagasc, 2020). Ystyrir bod rhai microfaetholion yn llai arwyddocaol nag eraill o ran iechyd y pridd. Ond, mae llwyddo i gael y cydbwysedd cywir rhwng macrofaetholion a microfaetholion yn sylfaenol bwysig wrth sicrhau’r perfformiad gorau posibl ar laswelltir.

Defnyddir dadansoddiadau pridd yn aml i bennu’r crynhoad o’r prif facrofaetholion (h.y. nitrogen, ffosfforws, potasiwm) mewn priddoedd amaethyddol. Ond, nid yw profi’r pridd am ficrofaetholion yn cael ei arfer mor aml, er bod macro a micro faetholion yn rhyngweithio â’i gilydd.

Gall diffyg microfaetholion mewn pridd arwain at gyfyngiadau mawr ar gynhyrchiant. Nid oes digon o ymchwil wedi ei gynnal i bwysigrwydd microfaetholion ar gyfer iechyd anifeiliaid a chynhyrchiant (Kao et al. 2020), er ei fod yn holl bwysig i’w perfformiad oherwydd nad oes perthynas uniongyrchol rhwng lefel y microfaetholion sydd yn y pridd, y rhai y mae’r planhigyn yn eu dethol i’w cymryd a’r hyn y mae’r anifail yn ei amsugno o’r dogn yn dilyn hynny. Mae gwahaniaethau rhwng gofynion da byw o ran microfaetholion i’r gofynion o ran tyfiant glaswellt. Gall nodweddion y pridd, e.e. gwerth pH ddylanwadu ar statws microfaetholion y pridd a faint o’r elfennau hybrin yma sy’n cael eu cymryd gan y planhigyn. Yn ychwanegol at hyn, mae’r cyflenwad o ficrofaetholion mewn systemau amaethyddol yn aml yn cael ei yrru gan arferion rheoli eraill, e.e. chwalu slyri a thail. Mae dehongli gofalus ar ganlyniadau’r pridd, y tail a’r mwynau yn y porthiant ochr yn ochr yn cynnig cyfle i ddeall y modd y mae microfaetholion yn cael eu hailgylchu ar y fferm, ac effaith y defnydd o un elfen (e.e. defnyddio tail) ar un arall (proffil maetholion pridd).

Heb ddigon o ddata am ficrofaetholion pridd o gaeau sy’n cael eu pori, a’r rhai sy’n cael eu torri ar gyfer silwair, mae’n anodd iawn pennu a yw diffyg microfaetholion yn arwain at lai o dyfiant mewn glaswellt a gwaeth ansawdd. Felly mae dadansoddi manwl ar faint o ficrofaetholion sydd mewn priddoedd yn holl bwysig yng nghyd-destun hyrwyddo tyfiant glaswellt.

 

Kao, P.T., Darch, T., McGrath, S.P., Kendall, N.R., Buss, H.L., Warren, H., Lee, M.R.F., 2020. Factors influencing elemental micronutrient supply from pasture systems for grazing ruminants. Advances in agronomy, 164, 161-229.
Teagasc, 2020. Major & Micro Nutrient Advice for Productive Agricultural Crops. Ar gael yn: https://www.teagasc.ie/media/website/publications/2020/Major--Micro-Nutrient-Advice-for-Productive-Agricultural-Crops-2020.pdf Agorwyd 25/01/21.

 

Amcanion y prosiect:

Prif nod y prosiect fydd pennu statws microfaetholion priddoedd y fferm yng nghyd-destun hybu tyfiant glaswellt a gwerthuso goblygiadau’r canlyniadau o ran arferion rheoli’r fferm.

Mae’r amcanion fel a ganlyn:

  • Pennu statws y microfaetholion a’r amrywiaeth yn y caeau silwair a’r rhai sy’n cael eu pori ar y fferm (yn y pridd, gan gywiro a chymharu gyda’r porthiant sy’n dod ohonynt)
  • Pennu statws microfaetholion y tail ac ystyried ei swyddogaeth o ran ailgylchu microfaetholion ar y fferm
  • Archwilio’r rhesymau posibl am unrhyw wahaniaethau yn statws y microfaetholion rhwng y caeau (os oes rhai)
  • Canfod a oes unrhyw gydberthynas rhwng statws microfaetholion y pridd a thyfiant glaswellt
  • Dynodi ardaloedd lle gallai ategu microfaetholion fod yn angenrheidiol/ddim yn angenrheidiol, a’r gost/arbediad cysylltiedig

Y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd:

Nid yw’n ddichonol gosod Dangosyddion Perfformiad Allweddol penodol a mesuradwy ar y dechrau. Bydd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu cadarnhau ar ôl i’r dadansoddiad pridd gael ei gynnal ac efallai y gallant gael eu seilio ar y canlynol:

  • Cynnal/addasu microfaetholion i fod ar y lefel targed (h.y. newid y maetholion a chwelir)
    • Mae’r enghreifftiau’n cynnwys y potensial i gloi copr, cynhyrchu mwy o gynnwys sych
  • Sicrhau bod maetholion pridd yn gytbwys, a thrwy hynny yn lleihau gwrthdaro a all fod yn effeithio ar argaeledd amrywiaeth o elfennau eraill. Y potensial i leihau costau gwrtaith a dull wedi ei dargedu’n well o ychwanegu maetholion
  • Penderfyniadau prynu mwynau mwy addas, o ran cynnyrch a chost (pennu oblygiadau cost ategu maetholion angenrheidiol/heb fod yn angenrheidiol i dda byw o ran cost samplo/dadansoddi/dehongli pridd)
  • Cynhyrchu porthiant o safon uchel - lleihau costau porthi a gwella cyfraddau tyfu

Gall y prosiect hwn gael ei gyflawni fel cynllun treialu newid rheolaeth weithredol petai’r dadansoddiad cychwynnol o’r pridd yn dynodi bod angen cywiro ar unwaith (gyda’r porthiant ar ôl y cywiro yn cael ei ddadansoddi hefyd). Ond, mae’n debygol y bydd rhai agweddau o’r prosiect yn canolbwyntio ar yr elfen gasglu data cyn newidiadau i reolaeth yn y dyfodol. Bydd yr ymchwiliad yn cynnig data gwaelodlin a ddylai fod o fudd i’r ffermwr ar gyfer dangos unrhyw broblemau elfennau hybrin posibl i chwilio amdanynt.

 

Llinell amser a cherrig milltir: