Cylchdroadau Gwydn

Mae'r prosiect cadwyn gyflenwi hwn yn dwyn cynhyrchwyr ynghyd ar gyfer Puffin Produce a Pembrokeshire Creamery mewn treial â ffocws sy'n tynnu sylw at fudd technoleg i gynorthwyo rheoli pridd ar gyfer cnydau risg uchel yng Ngorllewin Cymru. Bydd yn myfyrio ar heriau lleol a chenedlaethol hinsawdd newidiol a bydd yn canolbwyntio ar rannu gwybodaeth, arloesi a chydweithio i gefnogi cynhyrchiant, proffidioldeb a gwydnwch amaethyddiaeth yn y dyfodol ar gyfer y gymuned ehangach.

Mae'r system ffermio yng Ngorllewin Cymru yn enwog o amrywiol, gan ymgorffori systemau bîff, defaid, llaeth, tir âr, garddwriaeth, tatws a chnydau gwreiddiau o fewn y dirwedd amaethyddol. Bydd pum gweithdy yn cyflwyno mewnwelediadau cynhyrchu, amgylcheddol, ariannol a chymdeithasol o sut y gellir gweithredu ar y fferm i gynyddu gwydnwch busnes ac ecolegol ar draws y cylchdro. Ar gyfer pob gweithdy, bydd siaradwr gwadd sy'n arwain y diwydiant yn dod â'i wybodaeth a'i brofiad ei hun i ymgysylltu yn ymarferol a chyfathrebu'r hyn y gellir ei wneud ar y fferm i gynyddu gwydnwch trwy gydol y cylchdro waeth beth fo'r system gynhyrchu amaethyddol. 
Bydd yr arbrawf hefyd yn dangos y dechnoleg 'Wonder Wheel' gan Bye Engineering sydd wedi llwyddo i leihau'r risg o ddŵr ffo, erydiad y pridd a cholli maetholion mewn dalgylchoedd afonydd Lloegr ond sydd eto i'w defnyddio ar raddfa ar draws y systemau cnydio 'risg uchel' lluosog yng Nghymru. Ymchwilir i asesiadau iechyd ac erydiad y pridd, ochr yn ochr â deall yr effaith ar gynnyrch cnydau unflwydd, gyda'r nod o annog manteisio ar y dechnoleg hon fel arfer gorau safonol.

Yn ogystal, mae'r dechnoleg Wonder Wheel yn rhoi cyfle i gyflwyno mwy o fioamrywiaeth i gefnogi peillwyr, dal nitrogen atmosfferig a lliniaru colli pridd drwy ychwanegu hopran hadau — arloesedd pellach i'w dreialu yn y prosiect hwn a'r un cyntaf o ran cymhwyso’i defnydd, ar gyfer y systemau cnydio a Chymru fel ei gilydd.

Mae'r treial hwn yn cydberthyn ag amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy drwy gyd-fynd â chamau gweithredu i integreiddio technoleg newydd i fodloni Sero Net 2050, gwella ansawdd dŵr, sicrhau’r defnydd mwyaf posibl o adnoddau, lliniaru’r risg o lifogydd a sychder, cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwneud y mwyaf o atafaelu carbon, i gyd er mwy o wydnwch yr amgylchedd, systemau amaethyddol a chymunedau ehangach.