Emma Deering

Enw

Emma Deering

Sefydliad

Lanyon Bowdler

Mae Emma yn Weithredwr Cyfreithiol Siartredig profiadol ac yn Gydymaith yn y tîm cleientiaid preifat sy'n delio â llwyth achosion amrywiol. Mae Emma’n arbenigo mewn paratoi ewyllysiau o rai syml i rhai sy’n delio â materion mwy cymhleth, megis cynnwys ymddiriedolaethau ar gyfer diogelu asedau a/neu am resymau strategaeth treth etifeddiant, paratoi a chofrestru atwrneiaethau a gweinyddu ystadau pob ystad gan gynnwys ystadau cymhleth, gwerth net uchel sy’n cynnwys ymddiriedolaethau a/neu faterion treth etifeddiant lle mae’n rhaid gwneud hawliadau ar gyfer rhyddhad eiddo amaethyddol a/neu fusnes.

Mae gwaith Emma hefyd yn cynnwys treth etifeddiant a chyngor cynllunio olyniaeth sy’n golygu gweithio’n agos iawn gyda’n timau masnachol ac amaethyddol a chorfforaethol, yn benodol o ran cynllunio olyniaeth.

Mae Emma yn Aelod o Gyfreithwyr yr Henoed achrededig llawn ac yn Aelod Cyswllt o Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau (STEP).
 

Ardaloedd

Gogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin a Chanolbarth Cymru

Ieithoedd

Saesneg