Sioned Williams

Enw

Sioned Williams

Sefydliad

Lanyon Bowdler

Rwy'n Gyfreithiwr (wedi cymhwyso Rhagfyr 2021) gyda phrofiad mewn Eiddo, Amaethyddol a Chyfraith Cleientiaid Preifat, bellach yn canolbwyntio ar faterion Cleientiaid Preifat. Mae gen i brofiad o gynghori ar amrywiaeth o faterion Cleientiaid Preifat gyda ffocws ar ddrafftio Ewyllysau, cyngor am Ymddiriedolaethau, ystadau a chynllunio olyniaeth, gweinyddiaeth ystadau, cynllunio ffioedd cartrefi gofal a pharatoi a chofrestru Pwerau Atwrnai Arhosol.

Mae gennyf brofiad o ymdrin â chynllunio ystadau amaethyddol a
gweinyddiaethau ystad gwerth uchel. Mae fy ngwaith yn aml yn cynnwys gweithio'n agos iawn gyda'r timau masnachol, amaethyddol a chorfforaethol, yn benodol o ran cynllunio olyniaeth.

Rwy'n mwynhau eistedd i lawr gyda theuluoedd i drafod eu hamgylchiadau a'u cynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer dyfodol eu teulu.
 

Ardaloedd

Gogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin a Chanolbarth Cymru

Ieithoedd

Cymraeg a Saesneg