Cynnal iechyd y pridd mewn cylchdro âr

Mae aelodau grŵp trafod tir Âr Cyswllt Ffermio yn gweithio gyda Mabis Amaeth ar brosiect newydd hanfodol, sef: "Cynnal Iechyd y Pridd mewn Cylchdro Âr." Mae'r prosiect hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer cynhyrchwyr grawnfwyd, rêp hadau olew, a thatws sy'n ceisio rhoi hwb i'w cynhyrchiant, cynaliadwyedd a phroffidioldeb ar y fferm trwy fynd ati i ddeall a gwella eu pridd.

Mewn systemau tir âr, lle mae tyfu rheolaidd yn angenrheidiol, a gall mewnbynnau deunydd organig fod yn her, mae rheoli pridd yn rhagweithiol yn fwy hanfodol nag erioed. Mae'r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i brofion sylfaenol, gan ddarparu fframwaith cynhwysfawr i fesur, monitro, ac yn y pen draw, gwella iechyd eich ased mwyaf gwerthfawr.

Beth fydd y prosiect yn ei gynnwys?

Mae'r prosiect ymarferol hwn wedi'i adeiladu o amgylch dadansoddiad pridd manwl a dysgu cydweithredol:

  • Profi’r Pridd yn Gynhwysfawr: Canolbwyntio ar asesiadau manwl o iechyd y pridd. Bydd un sampl pridd cynhwysfawr o bob cae dethol yn cael ei gyflwyno i'w ddadansoddi, gan ddarparu golwg gyfannol o'i nodweddion cemegol, ffisegol a biolegol. Bydd y data hwn, ynghyd â hanes cnydio ac asesiadau gweledol y fferm, yn sail i gynllun rheoli pridd wedi'i deilwra.
  • Dewis Caeau wedi'u Targedu: Bydd y cyfranogwyr yn dewis hyd at 10 cae'r un ar gyfer samplu. Bydd y caeau hyn yn cynrychioli ystod o arferion rheoli a 
    chyd-destunau hanesyddol, gan ganiatáu cymariaethau gwerthfawr. Mae'r categorïau'n cynnwys gwahanol ddulliau trin (wedi'i aredig yn erbyn trin y tir cyn lleied â phosib), y cnydau presennol a rhai’r gorffennol (tatws, grawnfwydydd, gwndwn glaswellt), perfformiad o ran cynnyrch, a hanes chwalu tail.
     

Nod y prosiect yw rhoi'r wybodaeth i ffermydd tir âr Cymru wneud penderfyniadau gwybodus sy'n gwella iechyd eu pridd. Fel rhan o werthusiad y prosiect, bydd y ffermwyr sy'n cymryd rhan yn cwblhau holiadur sy'n manylu ar y camau penodol y maent yn bwriadu eu cymryd ar eu fferm o ganlyniad uniongyrchol i'r mewnwelediadau a geir.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Ecosystemau cydnerth
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon