Cynyddu gwytnwch i sychder yn yr haf – treialu maglys rhuddlas – Adroddiad terfynol
Roderick, Fferm Newton, Aberhonddu
Nod y prosiect yw monitro’r broses o sefydlu a rheoli cnwd maglys rhuddlas sy’n gallu gwrthsefyll sychder, a allai gynorthwyo ffermydd Cymru i wrthsefyll hafau sychach mynych. Bydd ŵyn yn pori’r cnwd a bydd eu perfformiad yn cael ei gymharu â gwndwn rhygwellt a meillion traddodiadol. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, perfformiad ac iechyd ŵyn, ynghyd â dadansoddiad economaidd o’r ddau gnwd. Bydd y prosiect Cyllid Arbrofi hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
- Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff
- Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon
- Diogelu a gwella ecosystem y fferm
Dewis caeau
Mae maglys rhuddlas angen priddoedd sy’n draenio’n rhydd gyda pH dros 6.0 ar ddyfnder. Mae dau gae cyfagos gyda phriddoedd sy’n addas ar gyfer tyfu maglys rhuddlas wedi cael eu dewis ar Fferm Newton ynghyd â blociau pori eraill. Mae hyn galluogi cadw ardal o laswellt wrth gefn ar gyfer pontio wrth gyflwyno stoc ac addasu’r cyfraddau stocio yn yr arbrawf – os oes angen.
Dadansoddiad o’r pridd
Rheoli chwyn cyn hau maglys rhuddlas
Yn ystod archwiliad o’r cae cyn hau, gwelwyd fod dail tafol wedi sefydlu. Gohiriwyd yr hau i ganiatáu digon o amser i ladd digon o rannau o’r dail yn effeithiol gyda chwynladdwr.
Hau o dan gnwd gorchudd o haidd
Er mwyn sicrhau’r cynnyrch deunydd sych gorau posibl yn ystod y tymor hau (2024) penderfynodd y teulu Roderick hau’r maglys rhuddlas gyda chnwd gorchudd o Haidd y Gwanwyn (a arbedwyd gartref) ar gyfradd o 100 kg/ha (40kg/ac). Yna cafodd hwn ei dorri’n silwair gwyrdd 50% maglys rhuddlas, 50% haidd ar 11 Awst 2024. Ar adeg byrnu, rhoddwyd inocwleiddiad i sicrhau’r eplesiad gorau posibl.
Hau
Cafodd yr hadau haidd eu drilio ar ddyfnder o 25-30mm cyn hau’r maglys rhuddlas.
Mae angen i hadau maglys rhuddlas gael eu drilio’n fas neu eu gwasgaru ar 10-15mm, gan ddefnyddio rholiwr Caergrawnt i’w cyfuno.
Cae 1- dyddiad hau: 6 Mehefin 2024 (hau’n hwyrach o ganlyniad i nyth gylfinir yn y cae)
Cae 2- dyddiad hau: 10 Mai 2024
Gwasgarwyd calch ar gyfradd o 5t/ha cyn hau.
Dewis amrywiaethau maglys rhuddlas a glaswellt
Mae dau wahanol fath yn cael eu gwerthuso. Un math dyfalbarhaus a chynhyrchiol iawn ar gyfer torri, sef Artemis a math arbenigol ar gyfer pori, sef Luzelle.
Mae maglys rhuddlas yn gnwd agored iawn. Mewn ardaloedd o lawiad uchel, ceir risg sylweddol o botsio. Gall hyn arwain at gyflwyno chwyn, yn enwedig glaswelltau chwyn a dirywiad cynnar o ran cynnyrch.
I leihau’r risg, heuwyd cnwd o laswellt a Meillion Gwyn ochr yn ochr â’r maglys rhuddlas. Mae’n bwysig nad yw glaswelltau’n cystadlu’n ormodol yn erbyn y maglys rhuddlas. Dim ond rhai rhywogaethau sy’n addas. Cafodd y caeau arbrofol eu hau gyda chymysgedd o’r rhywogaeth a ddewiswyd lle’r oedd y maglys rhuddlas yn dominyddu (ar y gyfradd lawn) ynghyd â 4kg/ha o ronwellt newydd dwys iawn, sef Baronaise a 2 kg/ha S184, sef gyda dail bychain iawn.
Cyfradd hau
Y gyfradd hau a argymhellir ar gyfer maglys rhuddlas yng ngogledd Ewrop yw 20kg/ha (c8.0 kg/ac) ac fel arfer 25kg/ha (c10kg/ac) ar gyfer hadau â chaenen. Mae’r gyfradd hau ar gyfer yr arbrawf hwn i’w gweld yn y tabl isod (Cyfradd hau/hectar).
Dadansoddiad costau: Roedd argaeledd rhai o’r amrywiaethau a ddefnyddiwyd yn yr arbrawf yn heriol yn 2024. Roedd yr hadau Luzelle yn anarferol o ddrud, ac fe ychwanegwyd £12.00/ha ar gyfer yr inocwleiddiad ychwanegol. Byddai cyllideb o £250/ha ar gyfer cymysgedd debyg yn addas. £219/ha (£90.87/ha ar gyfer Maglys Rhuddlas ar ei ben ei hun).
Bacteria Rhisobiwm
Yn wahanol i feillion coch a gwyn, nid yw’r rhywogaethau rhisobiwm sy’n gysylltiedig â maglys rhuddlas yn ymddangos yn naturiol yn y rhan fwyaf o briddoedd yn y DU, ac mae angen inocwleiddio hadau maglys rhuddlas gyda’r bacteria hwn. Mae’r rhan fwyaf o hadau yn y DU yn cael eu hinocwleiddio ymlaen llaw, ond nid yw’r inocwleiddiad yn goroesi am lawer o fisoedd. Roedd y ddau fath o faglys rhuddlas a heuwyd wedi’u hinocwleiddio ymlaen llaw.
Nodiadau’r ffermwr
Ar 3 Hydref, 53 diwrnod ar ôl torri’r cnwd i gynhyrchu byrnau, cyflwynwyd 400 o ŵyn yn pwyso 37kg ar gyfartaledd i’r cnwd i ddechrau’r cylchdro pori. Mae’r caeau wedi cael eu rhannu gyda ffens drydan i osgoi gorbori a photsio.
Bydd y caeau’n cael eu pori unwaith cyn eu cau ar gyfer y gaeaf yn barod i’r mamogiaid ac ŵyn ei bori yn y gwanwyn.
Dechreuwyd pori’r maglys rhuddlas ar 7 Ebrill 2025 gyda 250 o hesbinod sych yn pori ar gylchdro 3 wythnos o hyd. Ers hynny, mae mamogiaid sy’n llaetha wedi cymryd lle’r hesbinod sych, gan barhau i bori hyd at ddiddyfnu. Mae’r ŵyn bellach wedi cael eu diddyfnu ac yn perfformio’n dda ar y maglys rhuddlas. Yn ystod cyfnodau sych yn ddiweddar pan fo cyfraddau twf glaswellt wedi lleihau’n sylweddol, roedd modd gweld bod y maglys rhuddlas wedi parhau i dyfu porthiant o ansawdd uchel ar gyfer yr ŵyn. Mae’r ŵyn wedi derbyn dau ddos o Ovivac P ac wedi derbyn halen ychwanegol. Nid ydym wedi canfod unrhyw broblemau clostridiol ar y cnwd. Er nad oes gennym ddata pendant, byddem yn amcangyfrif bod yr ŵyn sydd wedi cael eu diddyfnu o’r grŵp a fu’n pori’r maglys rhuddlas oddeutu 3kg yn drymach na’r ŵyn a fu’n pori’r borfa barhaol. Prif fantais y maglys rhuddlas yw ei fod wedi parhau i dyfu yn ystod y cyfnodau sych pan oedd y glaswellt yn wynebu anawsterau.
Ar y cyfan, rydym ni wrth ein bodd gyda pherfformiad y cnwd, ac rydym yn credu ei fod wedi cynyddu dibynadwyedd porthiant o ansawdd uchel drwy gydol yr haf. Ers sefydlu’r cnwd yn 2024, rydym bellach wedi plannu cae arall o faglys rhuddlas, sy’n dangos pa mor hapus yr ydym ni gyda’r cnwd.