Gwenan Owen

DE CEREDIGION


Gwenan Owen yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer De Ceredigion, sy’n cwmpasu’r ardal o Aberaeron hyd at Aberteifi ac ar draws i Landysul. Mae hi wedi cymryd drosodd dros dro gan Rhiannon Davies, sydd ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd.

Mae Gwenan yn byw ar fferm laeth y teulu ger Llambed. Mae’r fferm yn cynnwys 120 o wartheg llaeth ac mae gan Gwenan hefyd diadell o famogiaid magu ei hun ers ychydig o flynyddoedd. Bu iddi raddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 ar ôl astudio Amaethyddiaeth am dair blynedd.

Mae hi’n aelod o CFfI Mydroilyn ac mae ganddi gryn barch tuag ar y mudiad o’r profiadau y mae wedi’i gael a’r llwyddiant mewn cystadlaethau hyd yma, yn enwedig llwyddiant yng nghystadlaethau barnu stoc.

“Rwy’n awyddus i roi cymorth i ffermwyr a’u harwain drwy’r ansicrwydd a’r heriau a ddaw yn sgil y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar hyn o bryd.”