Dadansoddiad yn seiliedig ar ddata o gyfraddau marwolaeth ŵyn – Adroddiad Terfynol
Prif ganlyniadau:
- Erthylu oedd y prif ffactor a oedd yn gyfrifol am farwolaethau ŵyn, yn gyfrifol am dros 50% (18 o 34) o’r colledion a gofnodwyd yn ystod y tymor.
- Nodwyd diffyg magu gan y famog hefyd fel un o’r prif ffactorau ar gyfer colledion ŵyn – byddai modd mynd i’r afael â hyn drwy wella Sgôr Cyflwr Corff y mamogiaid.
- Roedd y risgiau ar ôl eu troi allan yn isel o ran cyfraddau marwolaeth, ond dangosodd dadansoddiad clinigol arwyddion o Gastroenteritis Parasitig (PGE) a diffyg Cobalt/Fitamin B12.
Cefndir:
Mae gwella cynhyrchiant y ddiadell yn hanfodol, ac mae cynyddu allbynnau o ran nifer yr ŵyn sy’n cael eu magu’n rhan fawr o hynny. Mae’r prosiect hwn yn archwilio data marwolaethau tymor ŵyna 2025 o ddiadell o 400 o famogiaid er mwyn meincnodi perfformiad a nodi meysydd gweithredu posibl er mwyn gwella cyn tymor 2026.
Diben y gwaith:
- Meintoli’r ganran benodol o golledion ŵyn ar bob cam o’r gylchred gynhyrchu er mwyn gallu meincnodi’n gywir ar y fferm.
- Nodi’r prif ffactorau sy’n achosi marwolaethau ŵyn yn ystod y cyfnod cyn geni er mwyn rhoi strategaeth atal clefydau wedi’i thargedu ar waith.
- Cynllunio protocol syml, cost effeithiol i’w roi ar waith ar unwaith i leihau colledion ymhellach i fod yn is na’r gyfradd bresennol o 6.5%.
Yr hyn a wnaed:
Roedd y fethodoleg yn cynnwys y ffermwr yn casglu data cynhwysfawr ac yn ei anfon i gael ei ddadansoddi gan filfeddyg. Cafodd pob colled ei gofnodi yn ystod cyfnod ŵyna 2025, gan eu gosod o dan gategori yn ôl rheswm (e.e. erthylu, diffyg magu gan y famog), a’r cam yn y gylchred gynhyrchu. Cafodd y data crai hwn ei ddadansoddi i ddatblygu cynllun er mwyn gwella yn ystod tymhorau dilynol.
Canlyniadau:
Roedd canlyniadau sganio cychwynnol yn nodi cyfradd sganio addawol o 130%, gan ragfynegi cyfanswm posibl o 520 o ŵyn. Cynhaliwyd dadansoddiad o golledion ôl-weithredol, gan feintoli cyfraddau marwolaeth yn ystod dau gyfnod hanfodol: rhwng y sganio a’r geni a rhwng geni a throi allan.
Pennwyd bod cyfanswm cyfraddau marwolaeth ŵyn yn 6.5% (34 oen), sydd o fewn safon sefydledig y diwydiant ar gyfer diadelloedd masnachol (<13%). Er bod y canlyniad hwn yn dderbyniol yn ystadegol, nod yr ymchwiliad hwn yw symud y tu hwnt i gyfartaledd y diwydiant. Y prif ffocws yw edrych yn fanwl ar y data er mwyn canfod rhesymau penodol dros golledion y gellir eu hosgoi, fel bod modd cyflwyno newidiadau rheolaeth wedi’u targedu ar gyfer tymor ŵyna 2026, gan arwain yn pen draw at ostwng y gyfradd farwolaeth i fod yn is na’r meincnod.
Datgelodd dadansoddiad o’r 34 o golledion a gofnodwyd mai erthylu oedd y prif reswm dros farwolaeth, gan fod yn gyfrifol am 18 o golledion, neu dros 50% o’r cyfanswm a gofnodwyd yn ystod y tymor hwn. Amlygodd archwiliad pellach gyfradd uwch na’r targed o famogiaid gwag, gyda 5% o’r mamogiaid (cyfanswm o 20) yn wag, gan arwain at ddiffyg posibl o 30 o ŵyn yn erbyn nod y fferm o fod o dan 2%. Dangosodd dadansoddiad blaenorol fod Tocsoplasmosis yn ffactor tebygol yn y grŵp o famogiaid gwag; defnyddiwyd y canfyddiad hwn i roi’r gyfradd uchel o erthyliadau a gofnodwyd yn ystod y tymor mewn cyd-destun.
Digwyddodd y rhan fwyaf o golledion (29 o ŵyn) rhwng sganio a’r 12 awr gyntaf ar ôl genedigaeth, gydag achosion penodol o ran marwolaeth ar ddechrau bywyd yn cynnwys diffyg magu gan y famog a mygu (cyfanswm o 8 colled) gan awgrymu’r angen ar gyfer gwella rheolaeth o Sgôr Cyflwr Corff mamogiaid. Er bod nifer y marwolaethau ar ôl troi allan yn isel, dangosodd dadansoddiad clinigol arwyddion o Gastroenteritis Parasitaidd (PGE) a diffyg Cobalt/Fitamin B12 fel ffactorau risg parhaus a allai beryglu cyfraddau twf yr ŵyn sy’n pori.
Sut i’w rhoi ar waith ar eich fferm: 5 cam i leihau colledion ŵyn
- Sgrinio erthyliadau: Casglwch samplau gan unrhyw ŵyn sy’n cael eu herthylu yn ystod y tymor sydd ar y gweill er mwyn sgrinio ar gyfer ffactorau erthylu ychwanegol, ac er mwyn gallu cadarnhau neu ddiystyru rhesymau eraill.
- Brechu anifeiliaid cyfnewid: Gweithredwch raglen frechu rhag Tocsoplasmosis (Toxovax) ar gyfer mamogiaid bridio cyfnewid o leiaf bedair wythnos cyn eu tymor bridio cyntaf. Er ei fod yn ymddangos yn frechlyn drud, gallai’r elw ar fuddsoddiad ar gyfer y ddiadell ar fferm Cornwal fod hyd at 238% dros 5 mlynedd (gan gymryd fod y brechlyn yn costio £6 a bod 18 o ŵyn yn cael eu hachub bob blwyddyn).
- Asesu cyflwr y mamogiaid: Cynhaliwch asesiad rheolaidd o’r mamogiaid a gwahanwch famogiaid tenau (sgôr cyflwr corff <2) oddi wrth weddill y ddiadell er mwyn darparu porthiant ychwanegol. Mae’n cymryd oddeutu 6-8 wythnos i famog gynyddu’r sgôr cyflwr corff o un pwynt, felly mae monitro rheolaidd yn hanfodol.
- Triniaethau llyngyr wedi’u targedu: Cynhaliwch brofion Cyfrif Wyau Ysgarthol ar ŵyn bob pedair wythnos i ganfod baich llyngyr cyn i arwyddion clinigol ddatblygu, a rhowch driniaeth pan fo’i hangen yn unig.
- Ychwanegu B12: Cynlluniwch ar gyfer rhoi Fitamin B12 ychwanegol i’r ŵyn, yn enwedig o gwmpas y cyfnod diddyfnu, i leihau gostyngiadau mewn twf yn ystod y cyfnod pontio i ddiet o laswellt yn unig.
Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad llawn ar gyfer y prosiect hwn.