Dafydd Parry Jones

Machynlleth, Powys

DafyddParryJones KM 020 0

Mae Dafydd Parry Jones, mentor Cyswllt Ffermio sydd wedi ei gymeradwyo, yn ffermio fferm bîff a defaid ym Mhenegoes, Machynlleth lle cafodd ei fagu. Prynodd ei deulu’r fferm 25 mlynedd yn ôl, gan ei thrawsnewid o’i chyflwr gwael i fferm a arweiniodd yn 2014 at weld Dafydd yn ennill gwobr Ffermwr y Flwyddyn Cymdeithas Tir Glas Prydain.

Datblygodd y busnes yn sylweddol o ran erwau, adeiladau a chynnyrch ychwanegol. Mae’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ei hun ynghyd â’i deulu ifanc, gan ddwyn contractwyr allanol i mewn i helpu i gneifio, ffensio a chwalu calch.

Yn aelod gweithgar o’i gymuned leol, mae Dafydd wedi bod yn rhan o nifer o bwyllgorau ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys CFFI Cymru, NFU Cymru, Cymdeithas Tir Glas Cymru, a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae hefyd wedi cadeirio ei sioe amaethyddol leol a’r ganolfan gymunedol leol.  Bydd yn cynnal digwyddiadau ar y fferm yn gyson i godi arian at wahanol elusennau ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae wedi croesawu ymwelwyr dylanwadol amrywiol. Ymwelodd y Tywysog Siarl, gweinidog Llywodraeth Cymru, miloedd o ffermwyr, myfyrwyr, aelodau o’r cyhoedd a nifer o ohebyddion a chriwiau teledu i gyd â Maesllwyni!

 “Rwyf wedi cael y fraint o eistedd ar nifer o bwyllgorau amaethyddol amlwg yng Nghymru yn barod ond rwy’n siŵr y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn fy ngalluogi i ddatblygu ymhellach fel unigolyn a chael y sgiliau a’r wybodaeth i gyflawni unrhyw rôl neu dasg yr wyf yn ymgymryd â hi yn broffesiynol ac i’r safon uchaf.

“Mae cyflwyno gwybodaeth newydd i ymwelwyr, cymunedau, unigolion dylanwadol neu fynegi eich barn yn effeithiol mewn pwyllgorau yn sgil amhrisiadwy i’w chael i ddatblygu rôl fel arweinydd.