Defnyddio canlyniadau genomig heffrod i ddewis teirw

 

Mae cynnal profion genomig o heffrod bellach yn rhan bwysig o strategaethau bridio rhai buchesi llaeth a’u polisi amnewid gwartheg. Yn ogystal â phenderfyniadau amlwg ynghylch pa heffrod i’w defnyddio i fridio â theirw o fridiau bîff neu laeth neu i’w gwerthu fel stoc dros ben, bellach, gellir dewis y tarw mwyaf priodol i baru ag unigolion neu grwpiau gan ddefnyddio gwybodaeth enynnol fwy dibynadwy am heffrod.

Bydd proffilio genoteipiau â dibynadwyedd o 67-70% yn sicrhau fod unrhyw baru cywirol yn fwy effeithiol trwy ddewis tarw yn ofalus i ategu cynnyrch a phroffil llinol yr heffer, er mwyn sicrhau’r enillion genynnol gorau posibl. Mae tabl 1 yn dangos proffil genomig un heffer sy’n barod i ofyn tarw ar un o Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio. Fel pob heffer arall, bydd ei chryfderau a’i gwendidau yn dibynnu ar y system y bydd yn rhan ohoni ar ôl lloea, felly mae’n hanfodol fod y tarw a ddewisir i baru yn gweddu i sefyllfa’r fferm. Yn y senario isod, mae disgrifiad byr o’r system a’r contract cynhyrchu llaeth, ynghyd â’r prif nodau ac amcanion bridio. Gallwn ni yn sgil hynny amlygu unrhyw gryfderau a gwendidau ym mhroffil yr heffer y mae angen eu datrys trwy gyfrwng paru cywirol.

Senario. 380 o wartheg Holstein Friesian yn cynhyrchu 9200 litr y fuwch. Cedwir y gwartheg dan do trwy’r adeg a chânt eu godro ddwywaith y dydd. Gallant fwrw lloi trwy gydol y flwyddyn ac maent yn cyflenwi contract sy’n seiliedig ar gyfaint y llaeth. Caiff yr holl heffrod amnewid eu magu ar y fferm.

Nodau bridio.

  • Cynyddu cyfaint y llaeth a gynhyrchir
  • Lleihau cyfraddau amnewid gwartheg er mwyn lleihau costau magu a sicrhau fod stoc ifanc dros ben ar gael i’w gwerthu yn y dyfodol
  • Lleihau cyfrif celloedd somatig ac achosion o fastitis
  • Anifail ymarferol cymedrol ei maint sydd â choesau, traed a phwrs/cadair dda i ymdopi â chynhyrchu symiau sylweddol o laeth

Felly, ar sail yr wybodaeth uchod a gan ddilyn nodau bridio cadarn, bellach gellir pennu cryfderau a gwendidau i’r heffer enghreifftiol yn nhabl 1.

Tabl 1. Adroddiad proffil Genetracker ynghylch yr heffer enghreifftiol

 

 

Cryfderau

  • Mynegai ffrwythlondeb - mwy tebygol o ddod yn gyflo ar ôl dod yn rhan o’r fuches
  • Sgôr cyflwr – mwy tebygol o gynnal ei chyflwr tra bydd hi’n cynhyrchu llaeth
  • Mynegai cyfrif celloedd negyddol – lleihad yng nghyfrif y celloedd Somatig yn y llaeth

Gwendidau i’w gwella

  • Cyfaint llai o laeth a % braster a phrotein uwch – mwy addas i gontract gweithgynhyrchu
  • Sgôr negyddol yn achos gwerth cyfansawdd y pwrs/cadair – gallai arwain at leihad yn hyd oes y fuches
  • Traed a Choesau ac Ymsymudiad – mwy o berygl o gloffni

O’r cryfderau a’r gwendidau uchod, gallwn weld fod angen mynd i’r afael â thri gwendid, felly dyna yw ein nodau bridio yn achos yr heffer enghreifftiol. Gall ceisio cywiro gormod o nodweddion wrth baru unwaith fod yn anodd, ac ni wnaiff sicrhau y caiff dwy neu dair nodwedd yn unig eu cywiro mewn un genhedlaeth. Bydd yr egwyddor hon yn caniatáu i’r ffermwr chwilio am deirw sydd â gwerthoedd cywirol eithaf, ac yn yr enghraifft hon, dylid canolbwyntio ar Gynnyrch Llaeth (Kg) a sgoriau cyfanswm y gadair a’r coesau a’r traed i sicrhau gwelliant cyflym ym mhotensial genynnol epil yr heffer. Gall chwilio trwy lyfrynnau a gwefannau cwmnïau diri fod yn wastraff amser a pheri dryswch, oherwydd yn aml iawn, gall arferion marchnata ddylanwadu ar benderfyniad terfynol yr unigolyn. Gellir byrhau a symleiddio’r broses hon gan ddefnyddio meddalwedd annibynnol rhad ac am ddim megis Rhestr Teirw Ryngweithiol AHDB Llaeth (Ffig. 1) a nodwedd dewis Teirw Holstein UK (Ffig. 2)

Ffig 1. Rhestr Teirw Ryngweithiol AHDB Llaeth

 

Mae AHDB Llaeth yn cynnal rhestrau rhyngweithiol o deirw sy’n cwmpasu’r mwyafrif o fridiau, a chânt eu diweddaru dair gwaith y flwyddyn yn ystod cyfnodau profi yn Rhagfyr, Ebrill ac Awst. Mae’n bwysig defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ynghylch bob tarw, ac mae tudalen bridio a geneteg AHDB Dairy yn sicrhau fod y data hyn ar gael ac yn cael eu dehongli yn annibynnol ac yn gywir.

Hefyd, trwy ddewis nodwedd dewis teirw Holstein UK (Ffig.2), gallwch chi bennu isafswm ac uchafswm gwerthoedd PTA Teirw ynghylch cynnyrch a chydffurfiad gan ddefnyddio’r bar llithr, ac yna gallwch ofyn i’r meddalwedd restru teirw sy’n cyd-fynd â’r paramedrau a ddewiswyd.

Ffig 2. Nodwedd dewis teirw annibynnol ar-lein, ar gael am ddim gan Holstein UK

 

 

Isod, gallwn weld rhestr (Tabl 2) o deirw sy’n cyfateb i’r meini prawf chwilio penodol ynghyd ag enwau’r cwmnïau sy’n cyflenwi’r semen. Gallwn glicio ar bob tarw unigol i weld eu sgôr cynnyrch a math (Ffig. 3).

Tabl 2. Teirw ar y rhestr fer sy’n cyd-fynd â’r meini prawf enghreifftiol

 

Mae’r tarw sydd yn y drydydd safle yn y rhestr fer uchod, ‘Peak AltaRecoil’, yn cynnig lefelau da o gynnyrch llaeth a ffrwythlondeb heb golli gormod o ran elfennau’r llaeth. Gellir cyflawni agweddau o gydffurfiad yr heffer y mae angen eu gwella yn sgil gwerthoedd cyfansawdd uchel y gadair a’r coesau a’r traed a gaiff eu trosglwyddo gan y tarw.

Ffig. 3  Prawf genomig o gynnyrch a chydffurfiad ar gyfer Peak AltaRecoil

Fodd bynnag, un peth i’w ystyried wrth ddefnyddio tarw genomig ifanc yw’r gwerth Rhwyddineb Lloea uniongyrchol (dCE). Gall sgôr negyddol neu sgôr cadarnhaol isel beri problemau yn achos heffrod, yn enwedig os nad yw’r semen wedi’i rywio. Weithiau, gall teirw profedig sydd â data profedig ynghylch rhwyddineb lloea a dibynadwyedd fod yn ddewis gwell os bwriedir defnyddio semenu artiffisial yn achos heffrod. Bydd y tarw uchod yn lleihau celloedd somatig ac yn cynyddu’r mynegai ffrwythlondeb, ac mae ganddo werthoedd brîd cyfartalog ar gyfer taldra a wnaiff ategu’r nodau a’r amcanion bridio cyffredinol.

Bellach, gellir cyfrifo Cyfartaledd Rhieniol (PA) y llo a enir yn sgil y paru uchod mewn perthynas â’r prif nodweddion y mae angen eu gwella o blith y nodau bridio.

Tabl 3. Cyfartaledd rhieniol posibl y llo sy’n deillio o baru Peak AltaRecoil â’r heffer enghreifftiol

Nodwedd a brofir yn enomig

Gwerth Genomig yr Heffer

Gwerth Genomig y Tarw

Cyfartaledd Rhieniol (PA) y llo a enir

GPLI £

£356

£723

£540

Llaeth (Kg)

127

679

403

Gwerth cyfansawdd y pwrs/cadair

-0.28

2.43

1.08

Gwerth cyfansawdd y coesau a’r traed

-0.27

2.09

0.91

 

This exercise can be done for an individual heifer or groups of heifers where the average GPTA (Genomic Predicted Transmitted Ability) for the group can be used to select sires. It is recommended that a team of genomic bulls is used to serve a  large group of heifers or cows as it will spread the risk of the lower reliability of the genomic proof compared to using a full daughter proven sire.

Summary and Key Points

  • Key breeding goals should be set appropriately to the system operated.
  • Main Strengths and weaknesses of individuals or groups of heifers should be identified using genomic data and through a visual phenotypic appraisal.
  • Use of independent breeding tools to select sires for corrective mating.

Gellir gwneud hyn yn achos heffer unigol neu grwpiau o heffrod pan ellir defnyddio’r GPTA (Gallu Trosglwyddo Genomig a Ragwelir). Argymhellir y dylid defnyddio tîm o deirw genomig i baru â grŵp mawr o heffrod neu wartheg oherwydd bydd hynny’n gwasgaru’r risg o ddibynadwyaeth is y prawf genomig o’i gymharu â defnyddio tarw y cynhaliwyd profion llawn o’i ferched.

Crynodeb a Phwyntiau Allweddol

  • Dylid pennu’r nodau bridio yn briodol yn unol â’r system a ddefnyddir.
  • Dylid pennu prif gryfderau a gwendidau heffrod unigol neu grwpiau ohonynt gan ddefnyddio data genomig a thrwy werthuso’u ffenoteip yn weledol.
  • Defnydd o feddalwedd bridio annibynnol i ddewis teirw ar gyfer paru cywirol.