Defnyddio dronau i wella asesiad ansawdd y borfa ar fferm laeth

Mae’r prosiect hwn yn edrych a allai dronau gyda chamerâu aml-sbectrol gynnig ffordd gyflymach a mwy effeithlon o fesur ansawdd a chyfaint y borfa, gan felly wella dulliau rheoli’r borfa. Y syniad gwreiddiol  yw defnyddio datblygiadau mewn technoleg drôn i gasglu data yn gyflym a fyddai wedi cael ei gasglu’n draddodiadol â llaw, er enghraifft gan ddefnyddio mesuryddion plât a ffyn mesur y borfa. Y prif nodau yw gwerthuso a all y Cerbydau Awyr Di-griw (UAV) hyn ragweld mesurau porfa yn effeithiol, ac a oes modd i’r data a gesglir ategu neu hyd yn oed ddisodli dulliau presennol. Yn y pen draw, y nod yw darparu gwybodaeth ddibynadwy i ffermwyr er mwyn llywio penderfyniadau pori, osgoi gor-bori a gwella effeithlonrwydd yn gyffredinol.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff
  • Lleihau allyriadau’r fferm a storio cymaint o garbon â phosibl
  • Gwarchod a gwella ecosystem y fferm